Aelodau Yn Unig: Agor y Drysau i Gymdeithasau Cudd Wrecsam | Oriel 1

Mae clybiau a chymdeithasau wedi bod yn rhan o fywyd yn Wrecsam ac ar draws y sir ers y ddeunawfed ganrif. Mae hanes y grwpiau hyn wedi eu cynnwys mewn arddangosfa newydd ym mhrif oriel Amgueddfa Wrecsam, Aelodau Yn Unig: Agor y Drysau i Gymdeithasau Cudd.

Set o ‘naw teclyn’ y saer rhydd, a ddefnyddiwyd mewn seremonïau gan swyddogion Cyfrinfa Gredington, Rhiwabon [WREMA 2019.21.1]

Mae dynion a merched, ar wahân neu gyda’i gilydd, wedi dod ynghyd i ffurfio cymdeithasau er mwyn amddiffyn eu hunain neu eu cymunedau, cyflawni gwaith da, ymgysylltu mewn gwaith dyngarol a mwynhau cwmni ei gilydd am ganrifoedd. Dau gan mlynedd yn ôl, roedd unrhyw fath o ddigwyddiadau torfol yn cael eu hystyried mewn modd drwgdybus gan y wladwriaeth, ac roedd rhaid i nifer o grwpiau gadw proffil isel neu guddio eu gwir fwriadau, gan ofn y gyfraith. Arweiniodd hyn at gymdeithasau ‘cudd’. Mae’r arddangosfa hwn yn agor y drysau ar y byd ‘cudd’ hwn.

Banner Clwb Wrecsam, Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Busnes a Merched Proffesiynol, tua 1968 [WREMA 94.14]

Mae’r arddangosfa, a grëwyd gyda chymorth gwirfoddolwyr a chefnogwyr Treftadaeth Wrecsam, yn cynnwys gwrthrychau ac archifau hanesyddol mewn perthynas â:

  • Loyal Order of Ancient Shepherds
  • Ancient Order of Foresters
  • Independent Order of Oddfellows
  • Y Seiri Rhyddion
  • Royal Antediluvian Order of Buffaloes
  • Y Rotari
  • Cymdeithas Merched Busnes a Phroffesiynol Cenedlaethol
  • Y Soroptimyddion ac eraill.

Mae’r arddangosfa wedi cael ei greu gyda chymorth Mike Edwardson, Toni Robbins ac Alan Jones. Maent wedi cynorthwyo i ddewis gwrthrychau ac ymchwilio’r casgliad, sydd wedi eu greu gan gyfraniadau gan aelodau o’r grwpiau lleol hyn neu eu disgynyddion. Ychydig iawn o’r gwrthrychau hyn sydd wedi cael eu harddangos o’r blaen, ac nid yw nifer o’r gwrthrychau wedi cael eu harddangos yn gyhoeddus yng Nghymru erioed.
Mae’r arddangosfa ar ddangos ym mhrif oriel Amgueddfa Wrecsam.

Amgueddfa Wrecsam

Mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd stori Wrecsam a’r ardal gyfagos drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd.

Dysgu mwy