Chwedlau’r Crysau: Crys wrth Grys – Hanes Pêl-droed Cymru

O’r crys cyntaf rydych wedi bod yn berchen arno yn blentyn i’r copi tîm clwb neu genedlaethol diweddaraf, mae cefnogwyr pêl-droed yn caru crysau pêl-droed.   Mae rhai yn cael eu hystyried yn glasuron dyluniad erbyn hyn, eraill ddim.  Ond mae gan y cyfan le yn y gêm a chwedl i’w hadrodd.   Mae Chwedlau’r Crysau yn rhoi cipolwg o hanes y gêm yng Nghymru.. a chyrchfan i bawb o bob man sy’n caru crysau pêl-droed.

Mae Chwedlau’r Crysau’n adrodd hanes pêl-droed Cymru drwy’r crysau dethol sydd yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru a rhai ar fenthyg gan unigolion preifat. Mae’r detholiad yn amlygu stori pêl-droed dynion a merched, ar lefel genedlaethol a lefel clybiau. Wedi’i hamseru i gyd-fynd â’r paratoadau at Gwpan y Byd yn Qatar, mae’r arddangosfa’n cynnwys:

  • Crys a wisgwyd gan Alan Harrington yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1958.
  • Crys o unig ymddangosiad Cymru hyd yma yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym 1958.
  • Crysau Cymru o ymgyrch rhagbrofol 2022.
  • Crys a wisgwyd yn y gêm ryngwladol gyntaf swyddogol i ferched Cymru yn 1993.
  • a chrysau retro o dimau gorau Cymru: Wrecsam, Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe a Sir Casnewydd.

Mae’r arddangosfa ar agor nawr i’r cyhoedd ac mae mynediad am ddim.

Mae Amgueddfa Wrecsam ar agor o ddydd Llun – dydd Gwener 10am tan 4.30 p.m a dydd Sadwrn 11am tan 3.30 p.m.

Darganfod mwy am Brosiect Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu Amgueddfa Bêl-droed newydd sbon i Gymru ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw sydd wedi’i hailwampio’n llawn.

Bydd yr ‘amgueddfa dau hanner’ newydd yn atyniad cenedlaethol newydd o bwys i Ganol Dinas Wrecsam, gan ddathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, ochr yn ochr â lleoliad gwell o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod y stori hynod ddiddorol a chyffrous. ein rhanbarth yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Darganfyddwch fwy yma.

Amgueddfa Wrecsam

Mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd stori Wrecsam a’r ardal gyfagos drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd.

Dysgu mwy