Mae prosiect ailddatblygu amgueddfa Wrecsam yn cyrraedd y cam nesaf hollbwysig

Diweddariad – Mawrth 2023

Eich Amgueddfa
Eich Stori
Eich Dweud

Lleisiwch eich barn er mwyn siapio Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru ac Amgueddfa newydd Wrecsam! Cymerwch ran trwy lenwi ein harolwg isod. Mae eich barn a’ch syniadau yn werthfawr i ni, ac rydym yn gyffrous i glywed beth sydd gennych i’w ddweud.

Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd agor yn 2026.


Diweddariad – Chwefror 2023

Mae Amgueddfa Wrecsam bellach ar gau i’w hailddatblygu.

Mae Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru wedi agor ‘amgueddfa dros dro’ yn neuadd y farchnad yn lleoliad celfyddydau, marchnadoedd a chymunedol Wrecsam, Tŷ Pawb, sydd wedi ennill sawl gwobr.

Mae Caffi Cwrt yr amgueddfa hefyd wedi symud i Tŷ Pawb. Nawr gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yn y cwrt bwyd, rownd y gornel o’r amgueddfa dros dro.

Bydd y gwasanaeth Archifau yn adleoli i gartref parhaol newydd sbon yn Llyfrgell Wrecsam – manylion pellach i’w cadarnhau.

Mae’r prosiect i ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam yn atyniad cenedlaethol mawr newydd yng nghanol dinas Wrecsam ar fin cychwyn ar ei gam nesaf.


Bydd Amgueddfa Wrecsam a Chaffi’r Cwrt yn cau i’r cyhoedd ar ôl dydd Sadwrn 4ydd Tachwedd.

Bydd archifau’n cau ddiwrnod ynghynt. Dydd Gwener 3ydd Tachwedd fydd y diwrnod olaf y byddant ar agor i’r cyhoedd.

Gall hyn ddechrau paratoi’r adeilad ar gyfer ei ailddatblygu yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ – amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru, ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam wedi’i hadnewyddu’n llawn.

Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth bêl-droed gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori hynod ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Disgwylir i’r gwaith ailddatblygu gael ei gwblhau yn 2026.

Er y bydd adeilad yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw ar gau tra bydd y gwaith adnewyddu’n cael ei wneud, rydym yn cymryd camau i sicrhau y byddwch yn dal i allu cael mynediad at lawer o’n gwasanaethau amgueddfa mewn lleoliadau dros dro eraill yng nghanol y ddinas.

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am hyn dros yr wythnosau nesaf. Gweler yr adran Darganfod mwy ymhellach i lawr yn yr erthygl hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Yn y cyfamser, dyma beth allwn ni ei rannu gyda chi hyd yn hyn am ein cynlluniau…

Amgueddfa Wrecsam/Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Bydd ein tîm amgueddfa yn symud i ganolfan dros dro yng nghanol y ddinas tra bod gwaith ailddatblygu yn cael ei wneud.

Yn ogystal â chartrefu ein staff, rydym hefyd yn gobeithio gallu agor y man hwn i’r cyhoedd yn y dyfodol. Bydd ymwelwyr yn gallu dod i ddarganfod mwy am y prosiect a chymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau teuluol a mwy.

Archifau

Bydd Archifau Wrecsam yn adleoli i gartref parhaol newydd sbon yn Llyfrgell Wrecsam.

Bydd agoriad yr ystafell chwilio newydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir ynghyd ag amseroedd agor a sut i gael mynediad at y cofnodion.

Rydym yn rhagweld egwyl fer wrth i ni symud deunydd ar draws o Adeiladau’r Sir ond unwaith y bydd yr agoriad bydd yr holl wybodaeth sydd ar gael ar gyfer astudiaethau lleol a hanes teulu ar gael heb ei newid.

Mae ein tîm Archifau yn edrych ymlaen yn fawr at y symud a gweithio gyda’n partneriaid Llyfrgell!

Caffi’r Cwrt

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd gan ein caffi cwrt poblogaidd hefyd gartref dros dro newydd tra bydd yr amgueddfa ar gau – yng Nghwrt Bwyd Tŷ Pawb!

Bydd yr hyn a gynigir gan y caffi yn Nhŷ Pawb yn cynnwys amrywiaeth enfawr o brydau ysgafn cartref blasus, coffi o safon, brechdanau ffres, cawliau poblogaidd a chacennau anorchfygol.

Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiad agor yn fuan iawn.

Darganfod mwy

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am y prosiect drwy danysgrifio i restrau postio Amgueddfa Wrecsam a/neu Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

Rhestr bostio Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Rhestr bostio Amgueddfa Wrecsam

Gallwch hefyd ddilyn dwy hanner yr amgueddfa ar gyfryngau cymdeithasol:

Amgueddfa Wrecsam

Facebook

Trydar

Instagram

Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Facebook

Trydar

Instagram

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol dros Ddiogelwch Cymunedol a Phartneriaethau: “Yn dilyn dwy flynedd o gynllunio, ymgynghori a gwaith dylunio, rydym bellach wedi cyrraedd cam arwyddocaol wrth greu’r ‘Amgueddfa Dau Hanner’ newydd gyffrous ac uchelgeisiol hon. Bydd adeilad yr amgueddfa yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar baratoi’r adeilad ar gyfer gwaith ailddatblygu i ddechrau yn 2024.

“Hoffwn ddiolch i dîm y prosiect a phartneriaid ariannu am y gwaith anhygoel y maent wedi’i wneud i’n helpu i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm am sicrhau y bydd pobl yn dal i gael mynediad at wasanaethau amgueddfa – gan gynnwys y Courtyard Café poblogaidd – mewn lleoliadau dros dro yng nghanol y ddinas tra bod y gwaith ailddatblygu ar yr adeilad ar Stryt y Rhaglaw yn cael ei wneud. ”

Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam ar y cyd â dylunwyr amgueddfeydd, Haley Sharpe Design a’r penseiri, Purcell. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”

Darganfod mwy am brosiect yr Amgueddfa Dwy Hanner

Discover more from Wrexham Heritage

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading