Taith Treftadaeth Pêl-droed Wrecsam – yr iaith Gymraeg

Taith dywys, Cymraeg o amgylch treftadaeth pêl-droed Wrecsam.

Amgueddfa Wrecsam a thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn y dyfodol yn cyflwyno, Taith Treftadaeth Bêl-droed Wrecsam, golwg ar y bobl, y lleoedd a’r digwyddiadau a luniodd pêl-droed yn Wrecsam ac ar draws Cymru gyfan.

Bydd y daith dywys hon drwy strydoedd Wrecsam yn mynd â chi i rai o’r lleoedd mwyaf eiconig ac adnabyddadwy yn y ddinas ac yn cysylltu’r dotiau rhwng tirnodau, pêl-droed a chymuned.

Mae hanes pêl-droed yn Wrecsam yn stori a ddechreuodd dros 150 o flynyddoedd yn ôl ac mae pob rhan o’r stori honno’n bodoli oherwydd y bobl yn Wrecsam nad oedd yn gwybod eu bod yn ysgrifennu hanes.

Nod ein taith yw eich cyflwyno chi i’r bobl hyn o’r holl flynyddoedd yn ôl a gwneud yn siŵr bod eu straeon yn parhau i fod wrth wraidd hanes Wrecsam fel man geni pêl-droed Cymru.

Gwybodaeth bwysig

  1. Bydd y daith hon yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg. Mae taith Saesneg ar gael hefyd. 
  2. Mae’r daith yn cychwyn ar gwrt blaen Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, LL11 1RB. Ymgynullwch yma 15 munud cyn amser cychwyn eich taith.
  3. Mae angen o leiaf 5 o bobl ar gyfer pob taith i fynd ymlaen. Os na ddylai fod digon o bobl, byddwn yn cysylltu â chi naill ai i gynnig lle i chi ar daith arall neu i gael ad-daliad.
  4. Yr oedran a argymhellir ar gyfer y daith yw 12+.
  5. Efallai y bydd angen gohirio teithiau yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol/peryglus. Byddwn yn eich hysbysu os bydd hyn yn digwydd.
  6. Fe’ch cynghorir i wisgo esgidiau cyfforddus/synhwyrol, gyda’r daith yn digwydd yn bennaf ar lwybrau troed sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda.
  7. Mae pris tocyn o £3pp yn bris cynnig rhagarweiniol.
  8. I gael gwybodaeth am archebion grŵp, cysylltwch â museum@wrexham.gov.uk.
  9. Mae’n ddrwg gennym na allwn gynnig ad-daliadau am ganslo cwsmeriaid neu ddim sioeau.

Gallwch hefyd archebu lle drwy ymweld ag Amgueddfa Wrecsam yn bersonol neu dros y ffôn:

Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, LL11 1RB, 01978 297460

Sut i archebu

  • Mae tocynnau yn £3 yr un
  • Gallwch archebu lle ar-lein drwy ein tudalen eventbrite.
  • Gallwch hefyd archebu lle drwy ymweld ag Amgueddfa Wrecsam yn bersonol: Amgueddfa Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, LL11 1RB
  • Neu archebwch dros y ffôn: 01978 297460

Gweithgaredd Hanner Tymor AM DDIM: Wrecsam Egnïol

Heriau Cyflymder Bownsio a Naid Hir ar ein blaengwrt. Galwch heibio i weld pwy fydd yn ennill!

Gweithgaredd galw heibio am ddim – galwch i mewn unrhyw bryd yn ystod yr amseroedd a hysbysebir.

Gweithgaredd Hanner Tymor AM DDIM: Mosaigau Bach

Creu mosaig Rhufeinig maint coaster i fynd adref gyda chi.

Gweithgaredd galw heibio am ddim – galwch i mewn unrhyw bryd yn ystod yr amseroedd a hysbysebir.

Cymhorthfa Darganfyddiadau

Oes gennych chi unrhyw wrthrychau archaeolegol hen a diddorol? Erioed wedi meddwl beth oedden nhw? Rwan yw eich cyfle I ddarganfod mwy!

Dewch i’n Cymhorthfa Darganfyddiadau
Dydd Sadwrn 20 Mai
11.00am-12.30pm a 1.30pm-3.00pm

Bydd ein Swyddog Cyswllt Darganfod, Susie, yn Amgueddfa Wrecsam, I’w hadnabod a’u cofnodi ar gyfer Cynllun Hynafiaethau Cludadwy.

E-bostiwch Susie.white@museumwales.ac.uk I archebu slot 10 munud gwarantedig rhwng 11.00am a 12.30pm.

Neu galwch heibio rhwng 1.30pm a 3.00pm ar sail y cyntaf i’r felin.

Gwyliau’r Pasg: Eginol Wrecsam

Heriau Cyflymder Bownsio a Naid Hir ar ein blaengwrt. Galwch heibio i weld pwy fydd yn ennill!

Gweithgaredd am ddim. Dim angen archebu, dim ond troi i fyny!

Gwiliau’r Pasg: Masgiau Anifeiliaid

Dewch o hyd i’r anifeiliaid yn ein harddangosfa Straeon Byr ac addurnwch fasg i fynd adref gyda chi.

Gweithgaredd AM DDIM. Does dim angen archebu lle – dewch draw!

Gwyliau’r Pasg: Llyffnodyn Papyrws

Creu eich llyfrnodyn papyrws eich hun ar thema’r Aifft!

Gweithgaredd am ddim. Dim angen archebu, dim ond troi i fyny.

Crëwch bêl-droediwr pyped bach gyda ffon!

Crëwch bêl-droediwr pyped bach gyda ffon a chae o gerdyn i fynd adref gyda chi!

Digwyddiad galw heibio AM DDIM – dim angen archebu lle!

Masgotiaid Cryfion!

Rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl o’n masgotiaid amgueddfa newydd a dyluniwch rai eich hunain!

Digwyddiad galw heibio am ddim – dim angen archebu lle!

Cymhorthfa Darganfyddiadau

Oes gennych chi unrhyw wrthrychau archaeolegol hen a diddorol? Erioed wedi meddwl beth oedden nhw? Rwan yw eich cyfle i ddarganfod mwy!

Bydd ein Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau, Susie, yn Amgueddfa Wrecsam i’w nodi a’u cofnodi ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy

Ebostiwch susie.white@museumwales.ac.uk i archebu slot 10 munud gwarantedig rhwng 11.00am-12.30pm

Neu galwch heibio rhwng 1.30pm a 3.00pm ar sail y cyntaf i’r felin.