Pythefnos ers llythyr Clay-Thomas yn y Field yn awgrymu creu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae’r atebion yn parhau i lifo i mewn. Yn y rhifyn y Sadwrn hwn mae yno ddau ymateb arall, ond yn anffodus, eto’n defnyddio ffugenwau.
Daeth y cyntaf gan ŵr bonheddig a elwir ei hun yn ‘Marlborough Nomad’. Gyda llaw, clwb pêl-droed a’i sefydlwyd ym 1868 yn ardal Surbiton yn Llundain oedd y Marlborough Nomads. Yn chwarae o dan reolau rygbi roeddent yn aelodau sefydledig yr Undeb Rygbi ym 1871, cyn i’r clwb gael ei ddiddymu yn 1911.
Ar y pryd ym 1876 fodd bynnag, roedd y tîm yn dal ar dir y byw, a gallwn ond dyfalu fod gan ein Mr. Nomad gysylltiadau â’r clwb, ond pa gysylltiad wyddwn ni fyth yn anffodus. Roedd ef hefyd yn frwdfrydig iawn am syniad Clay-Thomas ond teimlai fod amser yn brin os byddent am wireddu’r syniad o gêm ryngwladol y tymor hwnnw. Ailadroddodd yr awgrym gwreiddiol o ofyn am gymorth yr Undeb Rygbi newydd i ddod o hyd i dîm Cymreig, a chyfaddefodd (efallai mewn cyfeiriad at ‘Half Back’ o’r wythnos flaenorol) y byddai gemau pêl-droed y Gymdeithas yn debygol o ddilyn, ond mai dim ond yr ochr rygbi pethau yr oedd yn mynd a’i bryd.
Roedd y llythyr arall, fodd bynnag, o natur hollol wahanol…
“Syr, – Mae’r syniad o gêm ryngwladol, o dan reolau’r Gymdeithas, rhwng Cymru ac un o’i gwledydd chwaerol, wedi ei dderbyn yn frwdfrydig iawn yng Ngogledd Cymru, a chynhelir cyfarfod yn Wrecsam yn gynnar yr wythnos nesaf i drafod y mater, ac i ffurfio pwyllgor a fydd â’r pŵer i wneud trefniadau rhagarweiniol. Bydd unrhyw gyfathrebiadau a dderbyniaf yn y cyfamser yn cael eu cyflwyno gerbron y cyfarfod a gynhelir yn Wrecsam.”
Llofnodwyd y llythyr gydag un gair:
‘Cymry’
Yr enw Cymraeg ar gyfer pobl Cymru, sy’n golygu “cyd-wladwyr”. Ymateb gwirioneddol bwerus i lythyr a oedd yn awgrymu tîm i chwarae yn Llundain wedi’i ddewis o gronfa o chwaraewyr o Lundain. Byddai tîm yr unigolyn hwn yn hytrach wedi ei wneud o Gymry er budd Cymry.
Yn y pen draw, byddai hanes yn datgelu inni wir enw ‘Cymry’. Samuel Llewelyn Kenrick, a’i dathlwyd heddiw fel tad pêl-droed Cymru. Roedd Kenrick, cyfreithiwr 28 oed o Riwabon, pêl-droediwr brwd ac aelod sefydlol o Glwb Pêl-droed Ruabon Rovers, yn amlwg wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni ers llythyr Clay-Thomas bythefnos ynghynt. Tra bod gêm rygbi George dal yn syniad ar bapur heb gynllun nac arweiniad clir, roedd Samuel eisoes wedi trefnu cyfarfod pwyllgor i roi cnawd ar sgerbwd y freuddwyd o drefnu gem. Nid yn unig oedd o wedi derbyn her George…roedd yn ei gwthio ymlaen!
Diolch i drefniant Kenrick, roedd cread Cymdeithas a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymreig yn prysur ddod yn realaeth, roedd ganddi amser ac roedd ganddi leoliad… ond roedd angen enw arni.
