Wedi’i leoli yn un o adeiladau tirnod Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw, mae Gwasanaeth Treftadaeth ac Archifau Wrecsam yn gyfrifol am amgueddfeydd ac archifau’r fwrdeistref sirol. 

Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw’r man cychwyn ar gyfer darganfod hanes cyffrous y rhanbarth hwn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae arddangosfeydd a chasgliadau’r Amgueddfa yn adrodd straeon ein cymunedau lleol a’u lle yng Nghymru a’r byd ehangach o’r cyfnod cynhanes hyd at heddiw.

Yr Archifau yw’r lle i ymchwilio i hanes eich teulu, eich cartref, eich cymdogaeth a hanes eich cyndeidiau.

Mae Gwasanaeth Treftadaeth ac Archifau Wrecsam, gyda chymorth gwirfoddolwyr a sefydliadau partner, hefyd yn gyfrifol am Benwisgoedd Glofa’r Bers, Gwaith Haearn y Bers, Castell Holt, Pyllau Plwm y Mwynglawdd a Pheiriandy Penrhos.

Cyfleusterau

  • Orielau’r Amgueddfa
  • Ystafell chwilio Astudiaethau Lleol ac Archifau
  • Caffi’r Cwrt: – coffi, cacennau, brechdanau, cawliau ac amrywiaeth o brydau ysgafn yn cynnwys rhai o fwydydd gorau’r ardal
  • Siop Cofroddion
  • Mynediad i gadeiriau olwyn
  • Toiledau
  • Gall deiliad bathodyn glas barcio ar y safle
  • Llogi’r lleoliad

Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adeiladau’r Sir, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam LL11 1RB

Ffôn: 01978 297 460

museum@wrexham.gov.uk

Ynglŷn ag Adeilad yr Amgueddfa

Mae ein hamgueddfa wedi’i lleoli yn Adeiladau’r Sir a adeiladwyd ym 1857 fel barics ar gyfer Milisia Sir Ddinbych. Y pensaer oedd Thomas Penson.

Roedd y milisia yn cadw eu harfau i fyny’r grisiau yn yr hyn sydd bellach yn Ystafell Llys 1 gan gynnwys gynnau a bwledi a gadwyd yn flaenorol yng Nghastell Caer.

Roedd swyddogion milisia yn byw yn yr adeilad, tra bo’r milwyr cyffredin yn cael eu lletya mewn tai o amgylch y dref. Byddent yn hyfforddi am fis y flwyddyn.

Erbyn 1877 roedd y milisia wedi symud i Farics ac Adeiladau’r Sir newydd yn Hightown a ail-agorwyd fel Gorsaf yr Heddlu a Llys Ynadon y dref ym 1879 yn dilyn rhywfaint o ailfodelu mewnol ac allanol.

Roedd Heddlu Sir Ddinbych wedi’u lleoli ar lawr gwaelod yr adeilad, gyda chelloedd wedi’u hadeiladu i ddarparu ar gyfer carcharorion, gan gynnwys y meddw a’r afreolus.

Mae cyfrifiad 1901 yn dweud wrthym fod tri charcharor wedi’u cadw yno dros nos. Serch hynny, nid yw’n dweud wrthym pam yr oeddent yn y ddalfa!

Yn dilyn symud Heddlu Gogledd Cymru i Fodhyfryd ym 1976-77, bu Adeiladau’r Sir yn wag nes iddo ddod yn rhan o’r coleg celf lleol ac agor fel amgueddfa newydd sbon ym 1996 a chael ei adnewyddu’n sylweddol yn 2010 – 2011.


Cyfeillion Angueddfeydd Wrecsam

Nodau ac amcanion y Cyfeillion yw hyrwyddo, cefnogi a chynorthwyo’r holl agweddau ar waith Amgueddfeydd a Gwasanaethau Treftadaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r Cyfeillion yn ymddiriedolaeth elusennol ac felly fe’i gweithredir yn unol â’r rheolau a osodwyd gan y Comisiwn Elusennol. Nid yw’n rhan o’r Cyngor ond yn gorff preifat a weithredir gan ei aelodau. Mae’r aelodau yn ethol pwyllgor bychan i weithredu’r mudiad.

Swyddogion

Cadeirydd: Sandra Allen
Is-gadeirydd: Carolyn McKenzie
Trysorydd: Rebecca Wright
Ysgrifennydd: Robin Bendon

Cost Tanysgrifiadau Blynyddol

Unigolyn Oedolyn £15
Oedolyn Cwpl £22.50
Consesiwn Unigol £10
Pâr consesiwn £15
Corfforaethol £30
Rhodd Ymwelydd £3

Cedwir pob hawl