Yma gallwch ddarganfod mwy am arddangosfeydd parhaol yr amgueddfa, adnoddau ar-lein a gwrthrychau pwysig eraill o’n casgliad.

Oriel Un

Oriel Un – dyma lle gallwch archwilio casgliadau’r amgueddfa a’r straeon y maent yn eu datgelu am orffennol Wrecsam.

Ewch i mewn i’r oriel trwy’r Twnnel Amser lle gallwch weld gwrthrychau wedi’u dewis a’u dehongli gan aelodau o’r gymuned leol.

Dyluniwyd yr oriel yn arbennig i apelio at y nifer fawr o wahanol bobl y mae’r amgueddfa’n eu denu. Beth fydd yn apelio atoch chi?

Dewch i gwrdd â Dyn Brymbo, gwrandewch ar y newyddion am ei ddarganfod a darganfod sut mae gwyddoniaeth wedi datgelu ei gyfrinachau.

Dewch i weld Celc yr Orsedd o’r Oes Efydd a gwyliwch ddwy ffilm a gynhyrchwyd yn arbennig sy’n egluro sut y gwnaed y celc bron i dair mil o flynyddoedd yn ôl.

Rhowch gynnig ar ailadeiladu castell Holt neu gwrandewch ar adroddiad cymeriadau hanesyddol o reng flaen gorffennol Wrecsam: concwest Cymru, amser Owain Glyn Dŵr a’r Rhyfel Cartref.

Eisteddwch yn ôl ac ymlacio yn yr Hippodrome wrth i chi wylio ffilmiau am Wrecsam Lager, CPD Wrecsam a gorffennol mwyngloddio Wrecsam

Snwffiwch swyn y Wrecsam Fictoraidd gyda chymorth Ci Acton…


Ein Safleodd Allanol

Pyllau Plwm Y Mwynglawdd

Dewch i ymweld â Pharc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd am gipolwg diddorol iawn ar hanes diwydiannol Dyffryn Clywedog hardd. 

Gwaith Hearn Y Bers

Ar ôl ei wneud yn enwog gan John ‘Hurt am Haearn’ Wilkinson, ffigur blaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol, erbyn hyn mae Gwaith Haearn y Bers a fu mor swnllyd unwaith yn swatio’n ddistaw yn Nyffryn Clywedog deniadol, dwy filltir i’r gorllewin o Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Castell Holt

Mae Castell Holt wedi ei leoli ar lan yr Afon Dyfrdwy ar ffin Cymru-Lloegr, ychydig filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam. Adeiladwyd y castell rhwng 1283 a 1311 gan John de Warenne a’i wŷr, ieirll olynol o Surrey, yn dilyn trechiad Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru

Ingot Plwm Yr Orsedd

Ar Medi 21, bydd Amgueddfa Wrecsam, am y tro cyntaf yn arddangos ingot plwm Rhufeinig a ddarganfuwyd ger Yr Orsedd, i’r gogledd o Wrecsam y llynedd.

Cafodd yr ingot ei ddarganfod gan ddatguddiwr lleol Rob Jones wnaeth hysbysu’r Swyddog Darganfyddiadau lleol (GDd Cymru) ar gyfer Cynllun Hynafiaethau Cludadwy Cymru (PAS Cymru) a leolir yn Amgueddfa Wrecsam ar unwaith, gan alluogi i’r gwrthrych gael ei archwilio tra roedd yn parhau yn y ddaear.

Dywedodd Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau “Mae’r ingot yn cynnwys arysgrif wedi’i fowldio’n fanwl sy’n cynnwys yr enw Marcus Trebellius Maximus, llywodraethwr talaith Britannia rhwng 63 a 69 Oed Crist, yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero. Ni chanfuwyd unrhyw arysgrifiadau eraill gyda’i enw erioed o’r blaen yn y DU, a dyna pam ei fod wedi denu cymaint o gyffro cenedlaethol.

Roedd cloddio plwm ac arian yn reswm sylweddol dros yr ymosodiad ar Brydain o dan yr Ymerawdwr Claudius yn 43 Oed Crist. Rydym yn gwybod fod y Rhufeiniaid wedi ecsbloetio’r adnoddau mwynau yn Sir y Fflint ac o bosibl Y Mwynglawdd, ond nid oes gennym dystiolaeth glir yn y safle diwethaf.

Diweddariad – 11 Ionawr 2021:

Mae dadansoddiad o’r plwm sy’n ffurfio’r ingot a ddarganfuwyd yn ddiweddar ger Rossett a wnaed gan Brifysgol Lerpwl, yn dangos ei fod yn dod o ffynhonnell leol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.Roeddwn yn disgwyl hyn, o ystyried ble y daethpwyd o hyd iddo, ond mae’n dda cael cadarnhad. Mae hynny’n golygu bod yr enw lle Rhufeinig a grybwyllir ar yr arysgrif – ‘Magul’ – yn safle mwyngloddio lleol, efallai naill ai Ffrith neu Minera.Mae hefyd yn profi bod yr awdurdodau Rhufeinig wedi bod yn cloddio a phrosesu plwm, ac arian o bosibl, yn yr ardal hon yn y cyfnod cy

Mae Ingot Plwm Yr Orsedd yn arddangos yn Oriel 1.


Fila Rhufeinig yr Orsedd

Mae archeolegwyr o Amgueddfa Wrecsam, Prifysgol Caer ac Archaeological Survey West wedi darganfod fila Rhufeinig ger Yr Orsedd, Wrecsam. Y fila hwn yw’r cyntaf o’i fath i gael ei ddarganfod yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae’n ychwanegiad cyffrous i’n dealltwriaeth o’r ardal yn ystod y cyfnod Rhufeinig.

Darganfuwyd y safle drwy gydweithrediad canfyddwyr metel lleol a ddarganfu deunydd Rhufeinig ar y safle, wedi hyn cynhaliwyd arolwg synhwyro o bell a ddatgelodd dystiolaeth glir o strwythur wedi ei gladdu. Mae’r adfeilion yn ymddangos fel ffurf weddol arferol gyda nifer o adeiladau cerrig a theils o amgylch iard ganolog, roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu ei fod yn gysylltiedig â system o gaeau, trac, ac adeiladau a strwythurau eraill. Drwy gerdded y caeau ar y safle canfuwyd arteffactau o ddiwedd y ganrif 1af hyd at ddechrau’r 4edd ganrif OC, sy’n awgrymu fod y fila wedi ei feddiannu am y rhan fwyaf o gyfnod rheolaeth y Rhufeinwyr ym Mhrydain.

Goresgynnodd y fyddin Rufeinig Brydain yn 43 OC gan wthio yn gyflym tua’r gogledd a thua’r gorllewin ar draws y wlad. Sefydlwyd y gaer yn nhref Caer oddeutu 74 OC a gyda heddwch cymharol, sefydlwyd rhwydwaith o drefi ac aneddiadau gwledig. Sefydliadau ffermio oedd y rhan fwyaf o filas mewn gwirionedd, er eu bod yn amrywio o fod yn weddol syml eu cynllun i fod yn fawreddog iawn gyda lloriau mosäïig, tai baddon a systemau cynhesu o dan y llawr. Mae’r ffaith fod darnau archeolegol wedi eu canfod wrth gerdded y tir yn awgrymu y gallai’r fila hwn gynnwys rhai o leiaf o’r nodweddion mawreddog hyn.

Meddai Dr Caroline Pudney, Uwch-Ddarlithydd Archeoleg ym Mhrifysgol Caer: “Gallai’r darganfyddiad cyffrous hwn newid ein dealltwriaeth o ogledd ddwyrain Cymru ar ôl y goncwest Rufeinig. Mae dehongliadau blaenorol yn awgrymu fod y rhan fwyaf o bobl yn yr ardal hon yn byw mewn aneddiadau oedd yn gysylltiedig â safleoedd milwrol Rhufeinig neu mewn ffermydd syml oedd yn parhau i ddefnyddio ffurfiau archeolegol tai crwn Oes Yr Haearn. Mae darganfod y fila hwn bellach yn cwestiynau’r naratif yma.”

Mae’r Amgueddfa a’r Brifysgol bellach yn cynllunio rhaglen waith i ymchwilio’r safle ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, yn ddibynnol ar gyllid a chaniatâd priodol. Hyd yma, mae’r gwaith ar y prosiect wedi ei gyllido gan y Roman Research Trust a’i gefnogi gan Amgueddfa Wrecsam a Phrifysgol Caer.


Dyn Brymbo

Yn Awst 1958, roedd gweithwyr lleol, gan gynnwys Ron Pritchard, yn tyllu ffos ar gyfer peipen ger rhif 79 Golygfa Sir Gaer, Brymbo, ger Wrecsam, pan ddaethant ar draws mwy na’r disgwyl: capfaen tua 1 droedfedd / 30cm o dan yr wyneb. Roeddent wedi dod o hyd i Ddyn Brymbo.

Pan gyrhaeddodd archeolegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Cymru i archwilio, cloddiwyd blwch carreg gyda leinin neu gist o dan y capfaen. Tu mewn, roedd gweddillion anghyflawn o sgerbwd, llestr pridd bychan a chyllell fflint.

Roedd y bedd hwn a’r llestr, a adnabyddir fel Bicer gan yr archaeologwyr, yn dyddio Dyn Brymbo i’r Oes Efydd Cynnar, mae’n debyg tua 1600CC.

Hyd at yn diweddar iawn, nid oeddern yn gwybod llawer am Ddyn Brymbo. Mae technegau gwyddonol modern a gwybodaeth ehangach ynghylch y gorffennol pell yn golygu nad yw hyn yn wir bellach. Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy ynghylch trigolyn hynaf Brymbo.

Mae Dyn Brymbo yn arddangos yn Oriel 1.

Gweler ein canllaw llawn i hanes Dyn Brymbo

Cedwir pob hawl