Dathlwch Wythnos Gwirfoddolwyr gyda ni ac ymunwch â’n rhaglen wirfoddoli newydd!
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Wirfoddolwyr Croeso cyfeillgar, brwdfrydig a dibynadwy sy’n 18 oed a hŷn i ymuno â’n tîm cyfeillgar.
Byddwch yn rhoi croeso cynnes i ymwelwyr, ac yn eu helpu i ddarganfod, archwilio a mwynhau straeon cyffrous am Bêl-droed Cymru a hanes Wrecsam yn yr atyniad newydd na ddylid ei golli ar Stryt y Rhaglaw.
Byddwn ar agor yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol gydag amseroedd penodol y gallwch gofrestru ar eu cyfer yn dibynnu ar eich argaeledd.
Mae llawer o fanteision i wirfoddoli gyda ni, gan gynnwys:
- Cwrdd â phobl newydd a bod yn rhan o dîm cyfeillgar
- Cael profiad ym maes amgueddfeydd a threftadaeth
- Darganfod straeon am Wrecsam a phêl-droed Cymru
- Cymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol brosiectau a gweithgareddau
- Hawlio eich costau teithio
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: museumvolunteers@wrexham.gov.uk
gan 20.06.26
