‘Prosiect Amgueddfa o Ddau Hanner’ yn Wrecsam yn Dadorchuddio Enw a Logo Newydd mewn Digwyddiad Datgelu Brand Swyddogol
Dadorchuddiodd Wrecsam foment ddiffiniol yn ei thaith ddiwylliannol heddiw, gyda’r brand swyddogol yn datgelu enw a logo newydd yr Amgueddfa, hunaniaeth ffres sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhreftadaeth bêl-droed falch y rhanbarth, sy’n dathlu ysbryd cymunedol mewn sir sy’n llawn hanes diwylliannol a diwydiannol cyfoethog.
Y digwyddiad rhagflas, a gynhaliwyd yn ‘Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam’ sydd newydd ei henwi, ddod â Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Amgueddfa ynghyd.

Gan adlewyrchu arwyddocâd pêl-droed mewn bywyd ledled Cymru, roedd y digwyddiad yn cynnwys gosod pethau cofiadwy o’r byd pêl-droed yn seremonïol yn y cyntaf o’r casys arddangos pwrpasol; wedi’i ddadorchuddio’n arbennig ar gyfer y digwyddiad.
Mae’r gydnabyddiaeth ffurfiol hon i gyfraniad diwylliannol dwfn y gamp mewn gofod sy’n ymroddedig i gysylltu arwyr y gorffennol â chenedlaethau’r dyfodol, yn arwydd o gam pwysig ymlaen i’r amgueddfa hirddisgwyliedig, y trawsnewidiad o adeiladu i guradu ac adrodd straeon wrth i’w hagoriad ddod yn agosach.
“Mae ymweliad heddiw yn foment ddiffiniol i amgueddfa ddiweddaraf Cymru. Mae’n dwyn ynghyd ein cenhadaeth ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru, cartref addas i’n casgliad pêl-droed cenedlaethol, a’n huchelgais i ddarparu cyrchfan a fydd yn ysbrydoli ymwelwyr am genedlaethau i ddod.” Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant: “Mae’r hunaniaeth newydd hon yn cyfleu’r balchder rydyn ni i gyd yn ei deimlo am ein treftadaeth bêl-droed, a’r rôl y bydd yr amgueddfa hon yn ei chwarae wrth ddathlu’r gêm sy’n uno ein cymunedau.”

Nid newid esthetig yw’r ailfrandio hwn yn unig, ond gweledigaeth ar gyfer sut y bydd yr amgueddfa yn anrhydeddu straeon, buddugoliaethau ac atgofion cefnogwyr pêl-droed a chwaraewyr fel ei gilydd. Diolch i gyllid hanfodol gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â’n partneriaid cyllido eraill, Mae tîm prosiect yr amgueddfa wedi darparu atyniad eithriadol i ymwelwyr, gan ddathlu rôl pêl-droed yn niwylliant a chymuned Cymru – gan ddangos sut mae treftadaeth chwaraeon a hanes lleol yn parhau i gysylltu pobl ar draws cenedlaethau.

Dywedodd Paul Roberts, Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol CBSW: “Mae chwaraeon yn ysbrydoli cenedlaethau – ac mae’r datgeliad brand hwn yn gam enfawr tuag at anrhydeddu’r etifeddiaeth honno mewn ffordd y gall pawb fod yn falch ohoni. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at agoriad yr amgueddfa hon gyda disgwyliad a balchder mawr.”
Mae’r brand newydd hwn yn rhan o brosiect creadigol helaeth a fydd yn cael ei gyflwyno ar draws llwyfannau digidol yr amgueddfa yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Mae gweld y brand yn dod yn fyw, a’r gwrthrychau cyntaf hyn wedi’u gosod yn yr amgueddfa yn garreg filltir arwyddocaol. Bydd ein harddangosfeydd rhyngweithiol a’n rhaglenni cyhoeddus yn cynnig cyfle unigryw i’r rheini sydd â diddordeb yn nhapestri diwylliannol pêl-droed Wrecsam a Chymru, i archwilio a dathlu ein hanes diddorol.”
Ychwanegodd Alwyn Jones, Prif Weithredwr CBSW: “Mae digwyddiad heddiw yn nodyn atgoffa cyffrous y bydd yr adeilad hwn yn fyw yn fuan gydag ymwelwyr, straeon a phrofiadau a rennir.”
Mae’r gwaith yn parhau y tu ôl i’r llenni, gyda’r gwaith gosod mewnol a pharatoi’r oriel yn mynd rhagddo. Ar hyn o bryd mae timau’r prosiect yn canolbwyntio ar osod arddangosfeydd o’r radd flaenaf, elfennau rhyngweithiol, ac amwynderau ymwelwyr, wrth i’r orielau ymffurfio.
Bydd cyhoeddiadau am y dyddiad agor, a manylion arddangosfeydd sydd ar ddod yn cael eu rhannu cyn gynted ag y byddant wedi eu cadarnhau.

