Parc Gwledig a Phyllau Plwm Y Mwynglawdd

Dewch i ymweld â Pharc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd am gipolwg diddorol iawn ar hanes diwydiannol Dyffryn Clywedog hardd.  Lleolir y Mwynglawdd ar flaen y dyffryn, ac mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer Llwybr Clywedog neu fel mynediad at gefn gwlad hardd Mynydd y Mwynglawdd.   Gallwch fwynhau picnic, mynd am dro ac ati ar hyd yr hen reilffordd ac archwiliwch Barc Gwledig Pyllau Plwm y Mwynglawdd.

Gall ymwelwyr â’r amgueddfa archwilio olion yr ardaloedd prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif a’r peiriandy, y peiriant weindio a’r boilerdai a adferwyd.  O ben y peiriandy, mae golygfeydd bendigedig o’r safle a chefn gwlad o’i amgylch.

Gan gwmpasu 53 erw o laswelltir, llecynnau coediog a safleoedd archeolegol, mae’r Mwynglawdd yn ymhyfrydu mewn amrywiaeth o fywyd gwyllt a chyfleoedd di-ben-draw i ymgolli mewn heddwch a llonyddwch.

Mae mynydd dramatig y Mwynglawdd yn ffinio â’r parc ac yn ychwanegu hyd yn oed mwy o ddiddordeb ar gyfer cerddwyr brwd.

Mae ardal bicnic sydd â golygfeydd hyfryd o’r dyffryn yn gwneud Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn ddiwrnod allan heb ei ail.

Gall marchogwyr / beicwyr ddefnyddio’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd. Mae digon o le parcio ym maes parcio.


Cyfarwyddiadau 

Gadewch yr A483 a chymryd yr A525 wedi’i harwyddo am Ruthun. Yng Nghoedpoeth, gyferbyn â thafarn y Five Crosses cymerwch y B5426 (Ffordd Plas y Mwynglawdd) wedi’i harwyddo Y Mwynglawdd a dilynwch y ffordd hon am ychydig dros filltir, hyd nes i chi gyrraedd mynedfa’r safle a’r maes parcio ar y dde. Edrychwch am yr arwyddion brown gyda Pyllau Plwm arnynt. 

Sat Nav: LL11 3DU

Daliwch ati i sgrolio i ddarllen stori Pyllau Plwm Y Mwynglawdd..



Stori Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Oddi tanoch ceir metel gwerthfawr y mae pobl wedi’i ddefnyddio am dros 8,000 o flynyddoedd – plwm. Yma yn Siafft y Ddôl mae’r plwm yn ddwfn o dan ddaear. Er, ar Fynyddoedd Eisteddfod ac Esclusham, uwchben y Mwynglawdd, lle mae’r plwm ar yr wyneb neu’n agos i’r wyneb, roedd y gweithfeydd cyntaf.

Mwynwyr gan Llanarmon-yn-Iâl.
© Archifdy Sir Ddinbych

Mae’r cofnod ysgrifenedig cyntaf am fwynwyr y Mwynglawdd yn dyddio o 1296 pan huriodd Edward I nhw yn ei fwyngloddiau newydd yn Nyfnaint. Gorchmynnwyd y mwynwyr i gyflwyno eu hunain i wasanaethu. Ni aeth bob un ohonynt gan fod gwaith yn mynd rhagddo ym mhyllau plwm y Mwynglawdd tan y Pla Du (1349).

Torri’r plwm yn null y 16eg ganrif
© Georgius Agricola & Carl Parry

Yn ystod y 15 fed ganrif ychydig o waith mwyngloddio a wnaed gan fod gwrthryfel Owain Glyndwr a Rhyfeloedd y Rhosynnau wedi achosi dirywiad yn yr economi.

O dan y Tuduriaid (16 eg ganrif) roedd y tirfeddianwyr a’r masnachwyr lleol yn ymdrechu’n rheolaidd i ailgychwyn y gwaith yn y mwyngloddiau. Nid oeddent yn llwyddo’n aml.

Ym 1527 talodd Sir John Chilston a Launcelot Lowther, dau swyddog lleol, 20 swllt y flwyddyn i gael yr hawliau mwyngloddio plwm lleol. Roedd y rhain yn cynnwys:

” holl fwyngloddiau plwm, wedi’u hagor ac i’w hagor, wedi’u gadael a heb neb yn eu gweithio neu nad oedd cof am eu defnyddio, gyda phwerau, rhyddid ac awdurdod llawn i dyllu, suddo, cloddio, agor, chwilio a chanfod pob math o blwm, mwyn neu sypiau o blwm. “

Roedd ganddynt hawliau hefyd i gloddio glo a cherrig. Er hynny ni allent wneud elw. Dim ond perchnogion yr hawliau mwnol, tirfeddianwyr fel y Grosvenors, lwyddodd i wneud arian.


Mwynwyr y Canol Oesoedd

Roedd mwynwyr plwm y Mwynglawdd yn ystod y Canol Oesoedd yn gymuned arbennig. Roedd dynion Cymreig a Saesnig yn dod i weithio yng ngweithfeydd plwm y Mwynglawdd. Fel rheol, amaethwyr oedd mwynwr y canol oesoedd. Roeddent yn mwyngloddio yn y cyfnod tawel hwnnw ar ddechrau’r haf cyn cychwyn ar y cynhaeaf. Nid oedd unrhyw waith mwyngloddio yn cael ei wneud yn ystod y cynhaeaf a thros y gaeaf.

Mining: 16th century methods, 1536
© Georgius Agricola A Carl Parry

Roedd gan y mwynwyr reolau mwyngloddio. Pan ganfuwyd gwythïen newydd o blwm byddent yn ethol ‘bermaster’. Byddai’r ‘bermaster’ yn sicrhau bod y darn newydd yn cael ei rannu’n deg. Roedd y mwynwyr naill ai’n cloddio cyfres o siafftiau neu’n dilyn y wythïen drwy dyllu rhych anferth yn y ddaear.

Mwynwyr yn trin plwm mewn cynhwysydd golchi mwyn (buddle), 1536
© Georgius Agricola & Carl Parry

Mwynwyr oedd yn gwneud yr holl waith: cloddio’r mwyn, gwahanu’r metelau gwerthfawr a’r gwastraff, a thoddi’r plwm. Roedd yn rhaid i’r mwynwyr dalu ffi, a elwid yn ‘loot’ neu ‘lot’, i’r tirfeddianwyr ar yr holl blwm a werthid. Gallai unrhyw un a feiddiai dorri’r rheolau orfod wynebu cosb ddifrifol:

Petai’n cael ei ddal yn dwyn plwm am y trydydd tro bydd cyllell yn cael ei thrywanu drwy gledr ei law dde a’i sodro i winsh (1) hyd at garn y gyllell honno. Bydd yn rhaid iddo aros yno tan y bydd wedi marw neu tan y bydd wedi rhyddhau ei law o’r gyllell. A bydd yn gorfod ildio ei etholfraint o’r mwynglawdd, a phetai ganddo fargen (meer) (2) yn y mwynglawdd bydd yn rhaid iddo ei fforffedu i’r arglwydd.

Deddfau Mwyngloddio, 1391

Roedd yn waith caled ac os na lwyddent i wneud unrhyw arian byddai’r mwynwyr yn mynd yn ôl i’w ffermydd.


Mwynwyr Modern

Roedd mwynwyr plwm y 18 fed a’r 19 eg ganrif yr un mor annibynnol. Roedd y mwynwr modern yn fwy o gontractwr nag o weithiwr. Roedd yn gweithio ar system fargeinio. Roedd yn rhaid i fwynwyr fod yn drafodwyr da. Byddent yn cytuno â’r asiant i weithio gwythïen am bris penodol y dunnell. Byddai’r ffi’n amrywio gan ddibynnu ar ba mor anodd oedd y gwaith. Roedd mwynwyr hefyd yn bargeinio ar dyllu siafftiau a lefelau gyrru.

This image has an empty alt attribute; its file name is group_miners.gif
Mwynwyr y 19eg ganrif, tua 1870-80
© Archifdy Sir Ddinbych

Yn draddodiadol roedd y mwynwyr yn cymryd risgiau, gan eu bod yn gobeithio bod yn lwcus drwy daro gwythïen eang o blwm. Wrth i’r cronfeydd plwm ddirwyn i ben, profodd y gwaith am dâl rheolaidd yn y pyllau glo yn ormod o demtasiwn. Erbyn diwedd y 19 eg ganrif roedd cwmnïau pwll plwm y Mwynglawdd yn ei chael hi’n anodd i gadw eu gweithwyr profiadol.

Mae natur eu gwaith yn amlwg yn afiach. Mae eu hymddangosiad yn dynodi cyflwr iechyd amherffaith, yn gyffredinol maent yn llwyd, welw ac yn wan “

Y Parchedig. Richard Warner

Nid y perygl o beidio â gwneud arian oedd yr unig risg. Gallai cloddio plwm fod yn berygl gwirioneddol i iechyd hefyd. Ychydig iawn o fwynwyr oedd yn byw i weld eu hanner canfed pen-blwydd. Roedd y llwch o’r gwaith drilio yn achosi silicosis, sef clefyd yr ysgyfaint. Gwnaeth y driliau aer cywasgedig newydd a gyflwynwyd yn y 1870au , y sefyllfa’n waeth.

Roedd damweiniau’n gyffredin. Rhwng 1873, pan ddechreuwyd cadw cofnodion, a 1914 pan ddaeth y cloddio i ben, lladdwyd 27 o bobl ym mhyllau plwm y Mwynglawdd.

This image has an empty alt attribute; its file name is office_1900.gif
Y tu mewn i swyddfeydd Cwmni Cloddio Unedig y Mwynglawdd tua 1900.
© Archifdy Sir Ddinbych

Oes Aur Cloddio

Ar ddechrau’r 18 fed ganrif dechreuodd pwll plwm y Mwynglawdd ffynnu.

Roedd y chwilotwyr wedi dysgu sut roedd dod o hyd i’r cronfeydd plwm tanddaearol. Er, nid oedd cloddio dwfn heb ei broblemau. Lleolir gwythiennau plwm mewn calchfaen (1). Mae afonydd tanddaearol yn gysylltiedig â chalchfaen ac felly roedd llifogydd yn y mwyngloddiau bob amser yn broblem. Roedd pwmpio’r dwr hwn allan yn gostus ac yn rhwystr mawr i unrhyw gloddio dwfn am blwm.

John Wilkinson, entrepreneur a dyfeisiwr

John Wilkinson, yr entrepreneur peniog a oedd wrth wraidd Gwaith Haearn y Bers, oedd y dyn a lwyddodd i ddatrys y broblem yn niwedd y 18 fed ganrif. Peiriannau stêm Wilkinson oedd y gorau eto am gadw’r pyllau plwm yn rhydd o ddwr. Roedd mwyngloddio yn broffidiol unwaith eto. Yn anffodus ni ddywedodd Wilkinson wrth Boulton & Watt ei fod wedi copïo eu peiriannau stêm. Daethant i wybod a bu’n rhaid i Wilkinson dalu iddynt.

Roedd y peiriannau pwmpio hynny yn hanfodol. Ond caeodd y gweithfeydd plwm unwaith eto yn dilyn problemau gyda’r pympiau ac anghydfod ynghylch talu am y peiriannau.

Ym 1845 ffurfiwyd Cwmni Cloddio’r Mwynglawdd gan yr asiantiaid mwyngloddio o Sir y Fflint, John Taylor a’i Feibion. Roeddent yn brofiadol. Roeddent yn sylweddoli bod potensial i byllau plwm y Mwynglawdd. Gwnaethant gadarnhau’r prydlesau mwyngloddio, gosod lefel ddraenio newydd ym Melin y Nant i gael y dwr allan o’r mwyngloddiau a buddsoddi mewn peiriannau a rheilffordd newydd. Ym 1852 roedd plwm yn cael ei gloddio unwaith eto yn y Mwynglawdd.

Daeth y mwynwyr o hyd i gronfeydd newydd o blwm yn ddyfnach o dan ddaear. Roedd yn amser ffyniannus. Roedd John Taylor a’i Feibion wedi cychwyn gyda £30,000 i fuddsoddi yn eu menter fwyngloddio; gwnaed elw o dros £60,000 ym 1864 yn unig.

Ty Injan a Lloriau Naddu Taylor, tua 1880.
© Archifdy Sir Ddinbych

Parhaodd yr amseroedd da i’r 1870au, ond roedd problemau ar y gorwel. Dechreuodd prisiau plwm ostwng tra roedd prisiau’r glo i gadw’r peiriannau pwmpio yn codi. Roedd y plwm yn dechrau prinhau. Roedd prisiau Sinc, sef y metel arall a gloddiwyd yn y Mwynglawdd, yn gostwng hefyd. Erbyn diwedd yr 1890au, nid oedd cloddio yn y Mwynglawdd bellach yn gwneud synnwyr economaidd.

Ym 1909 penderfynodd y cwmni cloddio bod y peirannau pwmpio yn rhy ddrud i’w rhedeg. Dechreuodd y mwyngloddiau orlifo. Ym 1914 daeth cloddio am blwm i ben. Gwerthwyd y peiriannau a helpodd yr ychydig o fwynwyr a oedd yn dal yno y perchnogion i achub gweddill y busnes. Roedd yn ddiwedd cyfnod i’r Mwynglawdd.


Fyny a Lawr

Yr Amseroedd Da a’r Amseroedd Drwg ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd

Ym 1885 roedd pris plwm ar ei isaf. Siaradodd Syr Theodore Martin, cadeirydd Cwmni Pwll Plwm y Mwynglawdd â chyfarfod etholiadol gorlawn:

” Bu’r mwynglawdd hwn yn un cyfoethog iawn, nid i’r rhai a fuddsoddodd eu cyfalaf ynddo yn unig, ond i’r gweithwyr a gyflogwyd yno hefyd. Gwelais i ddechrau’r mwynglawdd, rwyf wedi tystio i’w ddyddiau ffyniannus iawn ac rwyf wedi ei wylio’n rhannol ddirywio, ond dydw i erioed wedi colli fy hyder yn yr hen fwynglawdd da.”

Syr Theodore Martin

Nid Syr Theodore oedd yr optimist cyntaf i fuddsoddi ei arian yn y Mwynglawdd. Roedd y mwyngloddiau yn hen gyfarwydd â dyddiau da a dyddiau drwg.

Roedd cyfnod y 1860au yn ffyniannus, er, gallai pethau newid yn sydyn. Gallai gostyngiad ym mhris sinc neu blwm fod yn drychinebus.

Ym 1872 gorfu i Gwmni Cloddio Uneb Y Mwynglawdd, a oedd â mwyngloddiau i’r gogledd-ddwyrain o’r Siafft y Ddôl. Mae eu hadroddiadau ar ragolygon y gwaith yn y dyfodol yn cyfleu anobaith. Cafodd Cwmni Cloddio De’r Mwynglawdd hyd yn oed lai o lwyddiant; deng mlynedd o fuddsoddi a dim ond ychydig o dunelli o fwyn i ddangos amdano.

Ym 1887 roedd Cwmni Cloddio’r Mwynglawdd yn wynebu dewisiadau anodd. Roedd sinc wedi bod yn ffynhonnell dda o elw pan roedd gostyngiad yng ngwerthiant plwm.

” Mae ystyried pa gamau i’w cymryd i adfer ffyniant y mwynglawdd yn anghenraid anhepgor . Oherwydd y trefniant sydd gan y Cwmnïau Mwyndoddi ymhlith ei gilydd gallant bennu pris blend (sinc). Maent wedi llwyddo i wneud hynny i’r fath raddau fel eu bônt wedi ei ostwng i ffigwr sy’n is, yn achos ein mwynau, na’r pris cynhyrchu gwirioneddol.”

Adroddiad Blynyddol Cwmni Cloddio Y Mwynglawdd, 1887

Daethpwyd ag ymgynghorwyr draw o’r Almaen. Roeddent yn argymell agor mwyndoddwr yn y Mwynglawdd, ychydig i fyny’r rhiw o Siafft y Ddôl. Byddai hynny yn gwneud i ffwrdd â’r rhyngfasnachwyr. Siaradwyd am elw o 10% y flwyddyn. Agorodd y mwyndoddwr ym 1888, ond ni wnaed unrhyw elw a chaeodd o fewn pum mlynedd.

Gwnaed arian yn y Mwynglawdd, ond cafodd llawer ei golli. Dyna oedd hanes Pyllau Plwm y Mwynglawdd.

Deed of Settlement – Minera Mining Company. Courtesy of Wrexham Archives

Bywyd Mwynwyr

Simon Hughes

Roedd yn weithiwr medrus ac yn feistr ar nifer o grefftau. Trwsio a chadw holl waith coed y mwynglawdd mewn cyflwr da oedd ei waith. Roedd yn rhaid iddo osod cynhalbyst a phropio daear rydd, gwneud a gosod ysgolion a gosod rheilffyrdd i’r tramiau. Yn ogystal â hynny roedd yn helpu i gynnal y pympiau, y pibellau a’r offer cysylltiedig. Pan roedd ar y cwmni angen dyn ychwanegol roed Simon yn gweithio ar y malwr mwyn.

Fel rheol, roedd Simon Hughes yn gweithio chwe diwrnod yr wythnos. Roedd yn waith corfforol caled a doedd dim gwyliau â thâl. Roedd ei dâl yn amrywio yn ôl y gwaith a wnâi. Ar ddiwedd ei yrfa yn y mwynglawdd ym 1915 roedd yn ennill pedwar swllt a chwe cheiniog (tua 22c) y dydd, er, roedd ei gyflog weithiau cyn lleied â swllt a dwy geiniog (tua 6c) y dydd.

Mae’n amlwg ei fod yn weithiwr gwerthfawr oherwydd cafodd ei gyflogi gan Gwmni Cloddio Unedig y Mwynglawdd tan y diwedd. Roedd Simon yn ffodus o fedru osgoi’r gwaith y gorfu ei gydweithiwr, William Williams, ei wneud am nifer o fisoedd – glanhau’r briciau o adeiladau’r mwynglawdd a ddymchwelwyd i’w hail-ddefnyddio; glanhaodd bedair mil ar ddeg ohonynt ym mis Tachwedd 1914 am £3 3c yn unig. Ond yn bwysicach na hynny, goroesodd Simon ei yrfa yn y pwll plwm – doedd pawb ddim mor ffodus.

Simon Hughes yn Ogof Speedwell, y Mwynglawdd, tua 1928
© Archifdy Sir Ddinbych

Lle Peryglus

Yn y 1800au, roedd Iechyd a Diogelwch yn golygu gofalu amdanoch chi eich hun ac am eich gilydd. Ni wnaeth y llywodraeth ddechrau archwilio i weld a oedd pyllau plwm yn lleoedd diogel i weithio ynddynt tan 1873. Doedden nhw ddim!

DAMWAIN GLODDIO ERCHYLL YN Y MWYNGLAWDD
MARWOLAETH FRAWYCHUS PEDWAR DYN

Digwyddodd damwain ofnadwy yng ngwaith Plwm Unedig y Mwynglawdd nos Fercher pan laddwyd pedwar dyn yn y fan a’r lle yn y modd mwyaf erchyll. Oddeutu 10.30 ar y noson honno roedd pedwar o ddynion a oedd yn rhan o’r sifft nos yn cael eu gostwng mewn cludydd i lawr Siafft y Ddôl, pan, drwy ryw nam, torrodd y brif bowlten lygadog a oedd yn dal y cludydd rhyw 180 llath i lawr o’r wyneb. Hyrddiwyd y cludydd yn cynnwys y pedwar dyn i waelod y siafft , dyfnder o ryw 400 llath, gan ei falurio. Wrth gwrs, lladdwyd y dynion yn syth. Enoch Jones, gwr priod; John Foulkes, gwr sengl; David Davies, gwr sengl a Donald Douglas gwr sengl, oeddynt.

Wrexham Advertiser, 9 Chwefror 1901

Cynhaliwyd cwest mewn tafarn leol. Dywedodd y cwmni mwyngloddio bod y bowlten wedi’i chynllunio i gario pum tunnell. Roedd y caets gyda’r dynion yn pwyso llai na thunnell. Gofynnodd y crwner pam nad oedd cadwyni wedi’u cysylltu â’r caets fel mesur diogelwch. Roedd Archwiliwr y Mwyngloddiau wedi dweud bod y caets yn ddiogel, felly nid oedd y cwmni yn meddwl bod angen cadwyni diogelu.

imon Hughes a John Williams yn y caets yn Siafft Lloyd.
© Archifdy Sir Ddinbych

Crynhodd y crwner drwy ddweud: ‘Wrth gwrs, does dim bai o gwbl ar y cwmni am beidio â sicrhau bod cadwyni yno. Mae’n gwbl amhosibl dweud sut ddigwyddodd y ddamwain hon, ond mae’n dangos yr angen i wneud y cludydd ddwywaith mor ddiogel.’

Y canlyniad: cafodd dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol ei dwyn gan y rheithgor. Sicrhaodd Mr Wynne, Ysgrifennydd y Cwmni bod cadwyni yn cael eu hychwanegu i’r caets. Claddwyd Enoch Jones a John Foulkes ill dau ym mynwent Capel y Wern, ychydig bellter yn nes ymlaen ar y ffordd hon. Claddwyd Donald Douglas yng Nghaer a David Davies ym mynwent eglwys y Mwynglawdd. Cafodd pedwar bywyd eu torri’n fyr a gadawyd gweddw a phump o blant.

Y Marwdy a’r Efail ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd

Metelau Dwys

Gweithwyr wyneb a malwyr mwyn
© Archifdy Sir Ddinbych

Plwm

Mae pobl wedi defnyddio plwm ers dros 8,000 o flynyddoedd. Mae’n hydrin ac felly roedd yn hawdd gwneud gwrthrychau defnyddiol ohono. Oherwydd nad yw’n cyrydu mae’n para am amser maith.

Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio plwm ar gyfer eu pibellau dwr. Mae ein gair ni am blymwr yn dod o’r gair Lladin am blwm, sef ‘plumbum’. Yn yr oesoedd canol roedd plwm yn cael ei ddefnyddio fel pwysau ar fframiau gwau ac ar gyfer toeau eglwysi, mynachlogydd a chestyll.

Defnyddiwyd plwm mewn drychau, piwter ac mewn gwydr. Erbyn amser Elisabeth I roedd plwm yn cael ei ddefnyddio mewn colur, tra roedd y mysgedau newydd yn tanio peledi plwm.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar ymddangosodd plwm ym mhobman: mewn paent, batris, fel sodr ac mewn caniau tun. Yn anffodus, mae plwm yn wenwynig i bobl ac i anifeiliaid. Felly, defnydd cyfyngedig a wneir ohono bellach.

Sinc

Roedd y Groegiaid a’r Rhufeiniad yn defnyddio calamin, sef ffurf naturiol o sinc i wneud efydd. Wrth ychwanegu calamin at gopr roedd aloi melyn iawn gyda chryn alw amdano yn cael ei gynhyrchu. Er, ni chafodd sinc ei hun ei ddarganfod tan 1520.

Yn ystod y 19 eg ganrif, meistrolodd diwydianwyr yr arfer o alfaneiddio haearn gan ddefnyddio sinc. Roedd y sinc yn rhwystro’r haearn rhag cyrydu. Enillodd un cynnyrch, haearn rhychog ei blwy yn sydyn. Roedd gan nifer dirifedi o adeiladau diwydiannol doeau o haearn rhychog. Weithiau ceid hyd yn oed adeiladau cyfan, wedi’u hadeiladu ohono.

TY locomotif Henrietta ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd. Roedd gan y mwyngloddiau eu llinell leol eu hunain.
© Archifdy Sir Ddinbych

Y Ty Injan Siafft y Ddôl

Daeth llwyddiant i ran y mwynglawdd yn y 18 fed ganrif. Rhwng 1761 a 1781, derbyniodd cwmnïau’r ddinas, fel perchnogion yr hawliau mwynol £13,000 bron mewn breindaliadau.

Ffynnodd y mwynglawdd unwaith eto ar ôl 1849. Buddsoddodd Cwmni Pwll Plwm y Mwynglawdd mewn injan bwmpio newydd ym 1857. Ymhen blwyddyn gosodont injan weindio newydd i godi’r plwm ac i weithio’r peiriant malu mwyn. Yn fuan wedyn adeiladodd y cwmni finiau mwyn, lloriau trin ar gyfer didoli’r plwm oddi wrth y gwastraff a’r ty mwyn newydd ar gyfer sychu, pwyso a samplo’r plwm yn barod i’w werthu. Roedd yr holl offer yma yn galluogi’r mwynwyr i gloddio mwyn o’r gwythiennau dyfnaf yn y Mwynglawdd, hyd at 400 metr o dan yr wyneb.

Ym 1884 agorwyd llawr trin newydd gyda’r holl beiriannau diweddaraf yn Siafft Roy. Daeth safle Siafft y Ddôl yn domen sbwriel. Yn raddol claddwyd y lloriau trin. Dim ond Siafft y Ddôl ei hun oedd yn parhau mewn defnydd ac fe’i caewyd hi ym 1914.

Newid yr Olwyn, tua 1908
© Archifdy Sir Ddinbych
r injan bwmpio y tu mewn i dy injan Siafft y Ddôl: Silindr 40 modfedd, strôc 9 tr, 8 tr yn y pwll, tair strôc y funud, o wneuthuriad Cernywaidd. Bocs cydbwysedd 15 tunnell. Roedd yn codi dwr 162 llath fyny’r siafft mewn lifft pedair bwced. Stopiodd yr injan weithio ym 1909.
© Archifdy Sir Ddinbych

Datguddio’r Mwynglawdd

Terfynodd y gwaith mwyngloddio ym 1914. Hyd at y 1950au roedd y tomenni sbwriel anferth yn cael eu defnyddio ar gyfer graean gan adael tirwedd tocsig lleuadol.

Y Ty Injan yn Siafft y Ddôl, cyn ei adfer

Roedd y metelau dwys – plwm, sinc a chadmiwm yn y tomenni sbwriel yn risg i’r cyflenwadau dwr. Roedd y llwch yn broblem hefyd. Dyfeisiodd Cyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam ac Asiantaeth Datblygu Cymru gynllun i wneud Pyllau Plwm y Mwynglawdd yn ddiogel.

Dechreuwyd ar y gwaith ym 1988. O dan y tomenni sbwriel canfuwyd tystiolaeth o’r hen ddiwydiant cloddio plwm. Datguddiwyd hanes gorffennol y Mwynglawdd wrth i’r gwaith o adfer y safle fynd rhagddo. Roedd y tomenni sbwriel wedi diogelu’r archaeoleg. Wedi iddynt gael eu datguddio gallai’r gweddillion bydru’n sydyn. Roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

Safle Siafft y Ddôl cyn ei adfer
Safle Siafft y Ddôl ar ôl ei adfer

Yn Siafft Taylor dangosodd y gwaith cloddio sut yr oedd technoleg cloddio plwm wedi newid yn y 19 eg ganrif. Tra yn Siafft y Ddôl gellir mynd ar daith o gwmpas y safle i olrhain holl hanes plwm o ben y pwll i’r mwyn gwerthadwy. Daethpwyd o hyd i eiddo personol y mwynwyr hefyd ar safle Siafft y Ddôl. Golygodd y canfyddiadau hyn bod safle Siafft y Ddôl yn ddelfrydol ar gyfer ei adfer yn hanesyddol. Yn nechrau’r 1990au, ailadeiladwyd neu atgyfnerthwyd yr adeiladau a’r lloriau trin. Gosodwyd copïau o beiriannau ar sail archaeolegol y safle.

Mae’r gwaith yn dal i fynd rhagddo. Mae’r tywydd, pobl a thirlithriadau i gyd yn cael effaith ar y safle. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n gofalu am Byllau Plwm y Mwynglawdd ac yn sicrhau eu bod ar agor i ymwelwyr i weld beth sy’n weddill o’r rhan ddiddorol hon o’n treftadaeth ddiwydiannol.

Esgid mwynwr a ganfuwyd wrth gloddio yn y Mwynglawdd
Archeolegydd Diwydiannol wrth ei waith

Cedwir pob hawl