Pêl-droed am byth! Cyflwyno Stori Pêl-droed yng Nghymru a Chymru mewn Pêl-droed | Oriel 3

12/07/2019 – 11/01/2020

Pêl-droed am byth! Cyflwyno Stori Pêl-droed yng Nghymru a Chymru mewn Pêl-droed yw’r arddangosfa ddiweddaraf wedi’i ysbrydoli gan Gasgliad Pêl-droed Cymru i’w agor yn Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r arddangosfa yn tynnu sylw at hanes cyffrous pêl-droed Cymru trwy ei gysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf, Trychineb Pwll Glo Aberfan, heriau teithio tramor, Gemau Olympaidd Paris 1924, cychwyn ffeministiaeth, anabledd a chwaraeon, pwysigrwydd un stryd arbennig yn Abertawe a man cychwyn y gêm yn nhref Wrecsam a phentref Rhiwabon.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwrthrychau a deunyddiau archifol o Gasgliad Pêl-droed Cymru a ddewiswyd gan ddau guradur gwadd, y ddau yn gefnogwyr selog o’r gêm. Mae’r casgliad yn ymddangos mewn cyfres o arddangosfeydd â themâu: Gemau Rhyngwladol Cartref, Sêr a Chymeriadau, Ewrop a’r Byd, Clwb a Gwlad a holl agweddau o’r Gêm gan gynnwys:

  • Crys Rhif 9 Trevor Ford a wisgodd yn erbyn yr Alban, 1955
  • Crys Len Davies o daith tramor cyntaf Cymru, 1929
  • Crys Aaron Ramsey o’r gêm yn erbyn Estonia, 2009
  • Rhaglen Gêm o ‘frwydr Wrecsam’ yn erbyn Awstria, 1955
  • Rhwymyn braich capten gan Ryan Giggs, ei gêm ryngwladol olaf
  • Esgid ‘aur’ a ddyfarnwyd i John Charles
  • A’r fedal a ddyfarnwyd i Moses Russell am fod yn rhan o’r tîm buddugol wnaeth guro Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref 1923-24.

Yn ogystal â’r arddangosfeydd hyn mae cyfle i ymwelwyr

  • Fwynhau ffilm yn yr archif gemau pêl-droed hanesyddol diolch i British Pathé Ltd.
  • Dewis eu hoff dîm i gynrychioli ein gwlad
  • Gosod gôl geidwaid Cymru yn nhrefn eu mawredd
  • Dadlau safleoedd ergydwyr gorau Cymru erioed
  • Rhoi cynnig ar wisgo cit pêl-droed o’r 19eg ganrif
  • A gwneud caneuon pêl-droed eu hunain i fyny.

Mae Pêl-droed am byth! i’w weld o ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019 tan ddydd Sadwrn, 11 Ionawr 2020.

 

Poster Pêl-droed yng Nghymru | Football in Wales poster

Amgueddfa Wrecsam

Mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd stori Wrecsam a’r ardal gyfagos drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd.

Dysgu mwy