12/07/2019 – 11/01/2020
Pêl-droed am byth! Cyflwyno Stori Pêl-droed yng Nghymru a Chymru mewn Pêl-droed yw’r arddangosfa ddiweddaraf wedi’i ysbrydoli gan Gasgliad Pêl-droed Cymru i’w agor yn Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r arddangosfa yn tynnu sylw at hanes cyffrous pêl-droed Cymru trwy ei gysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf, Trychineb Pwll Glo Aberfan, heriau teithio tramor, Gemau Olympaidd Paris 1924, cychwyn ffeministiaeth, anabledd a chwaraeon, pwysigrwydd un stryd arbennig yn Abertawe a man cychwyn y gêm yn nhref Wrecsam a phentref Rhiwabon.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwrthrychau a deunyddiau archifol o Gasgliad Pêl-droed Cymru a ddewiswyd gan ddau guradur gwadd, y ddau yn gefnogwyr selog o’r gêm. Mae’r casgliad yn ymddangos mewn cyfres o arddangosfeydd â themâu: Gemau Rhyngwladol Cartref, Sêr a Chymeriadau, Ewrop a’r Byd, Clwb a Gwlad a holl agweddau o’r Gêm gan gynnwys:
- Crys Rhif 9 Trevor Ford a wisgodd yn erbyn yr Alban, 1955
- Crys Len Davies o daith tramor cyntaf Cymru, 1929
- Crys Aaron Ramsey o’r gêm yn erbyn Estonia, 2009
- Rhaglen Gêm o ‘frwydr Wrecsam’ yn erbyn Awstria, 1955
- Rhwymyn braich capten gan Ryan Giggs, ei gêm ryngwladol olaf
- Esgid ‘aur’ a ddyfarnwyd i John Charles
- A’r fedal a ddyfarnwyd i Moses Russell am fod yn rhan o’r tîm buddugol wnaeth guro Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref 1923-24.
Yn ogystal â’r arddangosfeydd hyn mae cyfle i ymwelwyr
- Fwynhau ffilm yn yr archif gemau pêl-droed hanesyddol diolch i British Pathé Ltd.
- Dewis eu hoff dîm i gynrychioli ein gwlad
- Gosod gôl geidwaid Cymru yn nhrefn eu mawredd
- Dadlau safleoedd ergydwyr gorau Cymru erioed
- Rhoi cynnig ar wisgo cit pêl-droed o’r 19eg ganrif
- A gwneud caneuon pêl-droed eu hunain i fyny.
Mae Pêl-droed am byth! i’w weld o ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019 tan ddydd Sadwrn, 11 Ionawr 2020.