Mae archifau ac astudiaethau lleol wrecsam yn lle rhyfeddol i ddarganfod mwy am hanes y cymunedau ym mwrdeistref sirol Wrecsam a’r cyffiniau.
Sylwer: Mae Archifau Wrecsam bellach wedi symud o’r amgueddfa i Lyfrgell Wrecsam. Gweler oriau agor isod.
Mae Archifau Wrecsam yn cadw cofnodion sy’n ymwneud â hanes Bwrdeistref Sirol Wrecsam ers ei chreu ym 1996 a hefyd cofnodion yn ymwneud â’r ardal pan oedd yn rhan o hen siroedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae’r gwasanaeth yn casglu ac yn cadw cofnodion hanesyddol ac yn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd at ddibenion ymchwil. Rydym bob amser yn hapus i ychwanegu cofnodion at ein casgliadau sy’n ymwneud â hanes y Fwrdeistref Sirol.
Mae’r cofnodion sydd gennym yn cynnwys mapiau a chynlluniau, ffotograffau, papurau newydd, pamffledi a chasgliadau busnes a theuluoedd. Mae gennym hefyd gasgliad mawr o lyfrau llyfrgell astudiaethau lleol yn ogystal â mynediad i’r rhyngrwyd i ystod eang o ffynonellau hanes lleol a theuluol.
Rhoddion
Rydym bob amser yn hapus i ychwanegu at ein casgliadau, cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
Cyrsiau Hanes Lleol a Theuluol
Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau ar hanes lleol a theuluol trwy gydol y flwyddyn yn yr archifau ac mewn amryw lyfrgelloedd o amgylch y Fwrdeistref Sirol. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am ein cyrsiau nesaf.
Oriau Agored
Dydd Llun: 9am-1pm a 2pm-5pm
Dydd Mawrth: 9am-1pm a 2pm-5pm
Dydd Mercher: 9am-1pm a 2pm-5pm
Dydd Iau: AR GAU
Dydd Sadwrn: 9.00am-2.30pm *(Dydd Sadwrn olaf y mis yn unig)
Sul: AR GAU