Darganfyddwch eich stori …

Mae archifau ac astudiaethau lleol wrecsam yn lle rhyfeddol i ddarganfod mwy am hanes y cymunedau ym mwrdeistref sirol wrecsam a’r cyffiniau.

Mae Archifau Wrecsam yn cadw cofnodion sy’n ymwneud â hanes Bwrdeistref Sirol Wrecsam ers ei chreu ym 1996 a hefyd cofnodion yn ymwneud â’r ardal pan oedd yn rhan o hen siroedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Mae’r gwasanaeth yn casglu ac yn cadw cofnodion hanesyddol ac yn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd at ddibenion ymchwil. Rydym bob amser yn hapus i ychwanegu cofnodion at ein casgliadau sy’n ymwneud â hanes y Fwrdeistref Sirol.

Mae’r cofnodion sydd gennym yn cynnwys mapiau a chynlluniau, ffotograffau, papurau newydd, pamffledi a chasgliadau busnes a theuluoedd. Mae gennym hefyd gasgliad mawr o lyfrau llyfrgell astudiaethau lleol yn ogystal â mynediad i’r rhyngrwyd i ystod eang o ffynonellau hanes lleol a theuluol.

Rhoddion

Rydym bob amser yn hapus i ychwanegu at ein casgliadau, cysylltwch â ni am ragor o fanylion.

Cyrsiau Hanes Lleol a Theuluol

Rydym yn cynnal nifer o gyrsiau ar hanes lleol a theuluol trwy gydol y flwyddyn yn yr archifau ac mewn amryw lyfrgelloedd o amgylch y Fwrdeistref Sirol. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy am ein cyrsiau nesaf.

Oriau Agored

Dydd Llun 10am-5pm
Dydd Mercher – Dydd Gwener 10am– 5pm
Dydd Sadwrn olaf pob mis 11am-4pm
Mynediad am ddim
Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Cysylltwch a Ni

    Cedwir pob hawl