Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Pen-blwydd Hapus!

150 mlynedd yn ôl i Heddiw y crëwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Ngwesty’r Wynnstay yn Wrecsam, ble cadeiriwyd cyfarfod gan Llewelyn Kenrick i dderbyn y sialens o gêm bêl-droed yn erbyn yr Alban.

Categories
Di-gategori

mae George Clay-Thomas yn ysgrifennu unwaith eto…

Ar 29 Ionawr 1876, unwaith eto o fewn tudalennau’r Field, ac yn dilyn y llif o lythyrau cefnogol a dderbyniodd y cyhoeddiad dros y tair wythnos diwethaf yn ymateb i’w awgrym i greu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae George Clay-Thomas yn ysgrifennu unwaith eto…a tydi o ddim yn hapus!

Roedd George wedi datgan yn eithaf clir yn ei lythyr gwreiddiol ar 8 Ionawr mai dim ond awgrymu creu tîm Cymru yr oedd. Fodd bynnag, ymddangosai ei fod yn eithaf anhapus bod pawb wedi camddeall ac yn disgwyl iddo ef fod yn trefnu’r gêm hon yn Llundain.

Roedd yn arbennig o anhapus gydag ‘A Highlander’ o bythefnos ynghynt, a oedd wedi awgrymu na ellir ystyried hwn yn dîm Cymru go iawn gan y byddai’r chwaraewyr yn Eingl-gymreig, ond serch hynny roedd yn gefnogol i’r gêm ddigwydd. Roedd George yn ymddangos yn arbennig o ddig gydag awgrymiadau Highlander ar sut y teimlai y dylai George fwrw ymlaen i drefnu’r gêm hon.

Gyda’r amser yn brin ac yn gyflym ddiflannu fodd bynnag, roedd o’n ymddangos bod George yn sylweddoli mai’r unig ffordd y byddai’r gêm hon byth yn dod yn realiti oedd pe bai’n derbyn ei dynged ac, fel yr awgrymwyd, yn camu i mewn i drefnu pethau.

Gan orffen ei lythyr gyda chwip at Highlander, dywedodd yn y bôn:

“Iawn, mi wna’i’r trefniadau ar gyfer tîm Cymreig yn Llundain, ond cama di i mewn i’r bwlch a threfnu’r ochr Albanaidd dy hun,  neu tyrd o hyd i rywun arall i’w wneud!”

Erbyn hyn, wrth edrych ar ohebiaeth George, mae’n amlwg mai dim ond gêm a chwaraewyd o dan reolau rygbi oedd yn cymryd ei bryd, er gwaethaf ei fod wedi sôn am gemau’r Gymdeithas (er ond yn fras) yn ei lythyr gwreiddiol. O ganlyniad mae stori dyddiau cynnar pêl-droed Cymru nawr yn troi i ffwrdd o George Clay-Thomas a’i helyntion.

Yn ôl yn Wrecsam, hyd yn oed cyn ei lythyr yn y Field, roedd Llewelyn Kenrick wedi bod yn brysur yn gohebu â chwaraewyr mewn gwahanol rannau o Gymru, gyda chymorth George a David Thompson, yn eu hannog i ffurfio clybiau pêl-droed. Ef hefyd oedd y brif ysbrydoliaeth y tu ôl i’r mudiad i greu clwb enwog Black Park yn y Waun, clwb y byddai un o feibion enwocaf Cymru yn dechrau ei yrfa gyda, degawdau yn ddiweddarach, sef Mr. William Henry Meredith!

Ar y dydd Mercher yn dilyn cyhoeddiad llythyr Llewelyn, cadeiriodd Kenrick gyfarfod yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, gyda’r unig bwrpas…penodi pwyllgor a fyddai’n trefnu gêm. Fel y byddai’r Field yn ei adrodd yn ddiweddarach yr wythnos honno ar 29 Ionawr:

“Cynhaliwyd cyfarfod i drafod y prosiect o chwarae gêm bêl-droed ryngwladol gyda Chymru yn ôl rheolau’r Gymdeithas yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, Wrecsam, Gogledd Cymru, ddydd Mercher diwethaf, pan benodwyd pwyllgor i wneud trefniadau rhagarweiniol. Cyn gynted ag y bydd y gêm wedi’i threfnu’n bendant, cynhelir gemau treial ar faes Clwb Criced Sir Ddinbych yn Wrecsam, at ddiben dewis yr un ar ddeg i dîm Cambrig. Gofynnir i foneddigion sy’n dymuno chwarae yn y gemau hyn anfon eu henwau a’u cyfeiriadau at Gadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria, Rhiwabon, cyn gynted ag y bo’r modd.”

Doedd gennym ddim syniad pwy fyddai’r gwrthwynebwyr, na ble bydden ni’n chwarae, ond roedd gennym gynllun ar sut i greu carfan. Bydd treialon yn cael eu cynnal ac roedd y galwad am chwaraewyr wedi ei wneud…roedden yr olwyn yn troi.

Ond Cymdeithas Bêl-droed Cambria?!?

Siawns bod ‘na enw gwell na hynny ar gael!

Categories
Di-gategori

‘Marlborough Nomad’

Pythefnos ers llythyr Clay-Thomas yn y Field yn awgrymu creu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae’r atebion yn parhau i lifo i mewn. Yn y rhifyn y Sadwrn hwn mae yno ddau ymateb arall, ond yn anffodus, eto’n defnyddio ffugenwau.

Daeth y cyntaf gan ŵr bonheddig a elwir ei hun yn ‘Marlborough Nomad’. Gyda llaw, clwb pêl-droed a’i sefydlwyd ym 1868 yn ardal Surbiton yn Llundain oedd y Marlborough Nomads. Yn chwarae o dan reolau rygbi roeddent yn aelodau sefydledig yr Undeb Rygbi ym 1871, cyn i’r clwb gael ei ddiddymu yn 1911.

Ar y pryd ym 1876 fodd bynnag, roedd y tîm yn dal ar dir y byw, a gallwn ond dyfalu fod gan ein Mr. Nomad gysylltiadau â’r clwb, ond pa gysylltiad wyddwn ni fyth yn anffodus. Roedd ef hefyd yn frwdfrydig iawn am syniad Clay-Thomas ond teimlai fod amser yn brin os byddent am wireddu’r syniad o gêm ryngwladol y tymor hwnnw. Ailadroddodd yr awgrym gwreiddiol o ofyn am gymorth yr Undeb Rygbi newydd i ddod o hyd i dîm Cymreig, a chyfaddefodd (efallai mewn cyfeiriad at ‘Half Back’ o’r wythnos flaenorol) y byddai gemau pêl-droed y Gymdeithas yn debygol o ddilyn, ond mai dim ond yr ochr rygbi pethau yr oedd yn mynd a’i bryd.

Roedd y llythyr arall, fodd bynnag, o natur hollol wahanol…

“Syr, – Mae’r syniad o gêm ryngwladol, o dan reolau’r Gymdeithas, rhwng Cymru ac un o’i gwledydd chwaerol, wedi ei dderbyn yn frwdfrydig iawn yng Ngogledd Cymru, a chynhelir cyfarfod yn Wrecsam yn gynnar yr wythnos nesaf i drafod y mater, ac i ffurfio pwyllgor a fydd â’r pŵer i wneud trefniadau rhagarweiniol. Bydd unrhyw gyfathrebiadau a dderbyniaf yn y cyfamser yn cael eu cyflwyno gerbron y cyfarfod a gynhelir yn Wrecsam.”

Llofnodwyd y llythyr gydag un gair:

‘Cymry’

Yr enw Cymraeg ar gyfer pobl Cymru, sy’n golygu “cyd-wladwyr”. Ymateb gwirioneddol bwerus i lythyr a oedd yn awgrymu tîm i chwarae yn Llundain wedi’i ddewis o gronfa o chwaraewyr o Lundain. Byddai tîm yr unigolyn hwn yn hytrach wedi ei wneud o Gymry er budd Cymry.

Yn y pen draw, byddai hanes yn datgelu inni wir enw ‘Cymry’. Samuel Llewelyn Kenrick, a’i dathlwyd heddiw fel tad pêl-droed Cymru. Roedd Kenrick, cyfreithiwr 28 oed o Riwabon, pêl-droediwr brwd ac aelod sefydlol o Glwb Pêl-droed Ruabon Rovers, yn amlwg wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni ers llythyr Clay-Thomas bythefnos ynghynt. Tra bod gêm rygbi George dal yn syniad ar bapur heb gynllun nac arweiniad clir, roedd Samuel eisoes wedi trefnu cyfarfod pwyllgor i roi cnawd ar sgerbwd y freuddwyd o drefnu gem. Nid yn unig oedd o wedi derbyn her George…roedd yn ei gwthio ymlaen!

Diolch i drefniant Kenrick, roedd cread Cymdeithas a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymreig yn prysur ddod yn realaeth, roedd ganddi amser ac roedd ganddi leoliad… ond roedd angen enw arni.

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Yr ymateb cyntaf…

Mae’n debyg bod llythyr George Clay-Thomas at y Field ar 8 Ionawr 1876, yn awgrymu creu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, wedi cael derbyniad ffafriol. Erbyn y cyhoeddiad nesaf ar y Sadwrn canlynol (15 Ionawr) roedd dau ymateb yn ei ddisgwyl, a’r ddau yn ganmoliadwy…ish!

Roedd y rhan fwyaf (ond nid pob un) o bobl a ysgrifennai lythyr i’r Field yn hoff o ddefnyddio ffugenwau. Yn ffodus i ni, penderfynodd George Clay-Thomas beidio, ond yn anffodus ni wnaeth ei ymatebwyr y Sadwrn hwn ddilyn ei esiampl.

Daeth yr ymateb cyntaf gan ŵr bonheddig a alwodd ei hun yn A.Highlander. Gan gymryd ei fod yn siarad o safbwynt Albanaidd, roedd yn teimlo bod y syniad o greu tîm yn un da ond roedd yn bryderus a’r awgrym y dylid dewis y timau o chwaraewyr o estron a oedd yn byw a bod yn Llundain. Teimlai na allai timau o’r fath “fod yn gynrychioliadol o’u gwledydd priodol”, fodd bynnag, cyn belled â bod y pwynt hwnnw wedi’i egluro a’i ddeall, roedd yn gefnogol o’r cynllun ‘Llundain’.

Edrychodd at Clay-Thomas am arweiniad pellach i naill ai ddechrau trefnu pethau ei hun neu enwebu rhywun arall i fynd â’r syniad ymhellach. Fe wnaeth hyd yn oed awgrymu timau o Lundain ble y gellid codi tîm Albanaidd.

Daeth yr ail ymateb gan ŵr yn galw ei hun yn Half Back. Roedd ef hefyd yn gefnogol, ond yr un mor sinigaidd ynglŷn â dewis o blith Cymry estron Llundain yn unig. Teimlai mai dim ond pe bai’r tîm yn cynnwys chwaraewyr sy’n byw yng Nghymru y gallai’r gêm (o safbwynt Cymreig) fynd yn ei blaen a chael ei wir ystyried yn gêm ryngwladol ym mhob ystyr y gair.

Yn wahanol i Highlander, nid oedd Half Back yn hoff o’r syniad o chwarae’r gêm o dan reolau Rygbi’r Undeb. Yn hytrach awgrymodd y dylid chwarae’r gêm yn ôl rheolau’r Gymdeithas (Association rules). Yn wir, ymddengys ei fod yn adleisio awgrym Clay-Thomas wythnos yn gynharach fod nad oedd rheolau rygbi yn boblogaidd yng Nghymru pan ymhelaethodd mai rheolau’r Gymdeithas yw “y rheolau a fabwysiadir yn bennaf yn y Dywysogaeth”.

Gyda llaw, dyma’r tro cyntaf erioed, yn unman yr ydym yn ymwybodol ohono, ble mae’r syniad o dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn chwarae o dan reolau’r Gymdeithas yn cael ei grybwyll.

Tybed a fyddai mwy o ymatebion yn cyrraedd yr wythnos ganlynol?

Categories
Di-gategori

Ar yr 8fed o Ionawr 1876

Ar yr 8fed o Ionawr 1876, fe daniwyd y sbarc fuasai’n arwain at gread tîm cenedlaethol pêl-droed Cymru. Fe ddaeth mewn ffurf llythyr agored o fewn tudalennau papur Newydd y Field, un o argraffiadau chwaraeon mwyaf y dydd.

Wedi ei ysgrifennu gan ŵr 24 oed o’r enw George Alexander Clay-Thomas, masnachwr glo yn Llundain oedd gynt o Sir Gaerfyrddin, roedd wedi sylwi ar y cynnydd mewn poblogrwydd y gêm a chynigiodd y syniad o greu tîm Cymreig I herio timau’r Alban neu Iwerddon oedd yn bodoli eisoes. Roedd George eisiau creu’r tîm o Gymry a oedd yn byw a bod yn Llundain, gydag unrhyw gêm yn cael ei chwarae o fewn y brifddinas.

Roedd pêl-droed a rygbi yn cael eu cysidro fel dwy elfen wahanol o’r un gêm yn 1876, gyda’r ddau yn dod o dan y faner o ‘bêl-droed’. Roedd George eisiau i’r gêm gael ei chwarae gyda rheolau rygbi yn hytrach na rheolau’r Gymdeithas, sef beth rydym yn ei adnabod Heddiw fel pêl-droed. Fe aeth mor bell a chynnig gofyn i’r Undeb Rygbi am eu help i ledaenu’r syniad ymysg clybiau Llundain.

Teimlai George fod ‘pêl-droed’ ddim mor boblogaidd yng Nghymru ac yr oedd yng ngweddill Prydain, a chynigiodd buasai creu’r tîm yn helpu i gynyddu poblogrwydd y gêm yma. Gallwn ond dyfalu ei fod yn golygu ‘pêl-droed rygbi’ gan ei fod eisiau creu’r fath dim, mae hefyd yn sôn yn ei lythyr y buasai ‘Ugain Lloegr yn gorff llawer rhy gryf’ i dîm Cymreig a oedd eto i dderbyn her (roedd timau yn chwarae rheolau rygbi yn 1876 gyda 20 chwaraewr bob ochr). Oedd George, nawr yn byw a gweithio yn Llundain, ‘allan o’r lŵp’ ta oedd o’n gywir yn ei amcan fod rygbi ddim yn hynod boblogaidd yng Nghymru ar y pryd?

Nid oedd George yn bwriadu gwneud unrhyw drefniadau pellach i wireddu ei syniad, yn hytrach roedd ond eisiau codi’r pwnc er mwyn i eraill ei chario ymlaen.

Roedd George wedi creu’r sialens…pwy fuasai’n ei derbyn?

Categories
Di-gategori

Dymuniadau Gorau ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Blwyddyn arall aruthrol i dîm prosiect Amgueddfa Wrecsam, mae’r orielau’n newid yn gyflym gyda chynnydd gweladwy ar draws y datblygiad cyfan.

Rydym yn gyffrous i ddechrau cynllunio digwyddiadau agoriadol y flwyddyn nesaf, felly dilynwch y cynnydd ar ein cyfryngau cymdeithasol, rhowch ‘hoffi’ i ni a rhannwch y newyddion o’ch ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd sbon.