Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Roedd y cyfarfod ar yr 2il o Chwefror yn y Wynnstay Arms yn Wrecsam yn un chwim, wedi ei drefnu ar fyr rybudd gyda (yn ôl aelod Cyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru George Lerry a ysgrifennodd yn 1924) dim ond pedwar o aelodau pwyllgor newydd sbon Cymdeithas Bêl-droed Cambria yn bresennol: Llewelyn Kenrick, Edward Evans, Richard Mills ac Arthur Davies.

Dim ond dyddiau wedi creu’r gymdeithas newydd fodd bynnag, cawsant wared a’r enw Cymdeithas Bel-droed Cambria, o bosibl mewn ymgais i gyd-fynd yn well â’r unig ddwy gymdeithas bêl-droed arall a oedd yn bodoli ar y pryd, y Gymdeithas Bêl-droed, a Chymdeithas Bêl-droed yr Alban. Uwchlaw munudau’r cyfarfod hwn roedd Kenrick wedi ysgrifennu enw newydd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, enw a fuasai’n goroesi am dros 150 mlynedd.

Y rheswm am gael cyfarfod arall mor fuan wedi’r un cyntaf ar yr 26ain o Ionawr, oedd fod Kenrick wedi derbyn cyfathrebiad, her gan Gymdeithas Bêl-droed yr Alban i’w chwarae mewn gêm bêl-droed ar yr 25ain o Fawrth 1876. Yr unig broblem oedd, eu bod am iddo gael ei chwarae yng Nglasgow! Dim ond un eitem oedd ar yr agenda ar 2il Chwefror felly:

 “Rydym yn cynnig fod yr her a’i anfonwyd gan yr Alban at yr Ysgrifennydd Anrhydeddus i chwarae gêm o dan reolau’r Gymdeithas, yng Nglasgow ar Fawrth 25, 1876, yn cael ei derbyn.”

Cytunwyd y pedwar yn bresennol a phasiwyd y cynnig. Drafftiwyd llythyr yn gyflym a’i anfon at olygyddion y Field a Bell’s Life i gyhoeddi’r gêm a manylion y treialon ar y gweill, a hefyd galw ar “ŵyr bonheddig sy’n awyddus i chwarae yn y gêm hon i ysgrifennu at Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Rhiwabon”…sef Llewelyn Kenrick!

Roedd ganddyn nhw saith wythnos i greu tîm allan o ddim byd!

Discover more from Treftadaeth Wrecsam

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading