Cymerodd carfan dynion dan 19 Cymru amser i ffwrdd o’u paratoadau ar gyfer Pencampwriaethau UEFA, drwy ymweld â’r Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd.
Er nad yw’n barod i agor ei drysau i’r cyhoedd eto, roedd yr amgueddfa yn gallu cynnig ymweliad ‘cipolwg’ i’r garfan ar ôl sesiwn hyfforddi’r bore.
Mwynhaodd y tîm deithiau o amgylch orielau pêl-droed a hanes lleol cyn treulio ychydig o amser yn archwilio’r nifer o brofiadau rhyngweithiol ac ymarferol sydd ar gael.





Daeth yr ymweliad i ben gyda llun tîm yn yr haul yn yr ardal sydd newydd gael ei thirlunio ar flaen yr amgueddfa.

Diolch am ymweld â ni hogiau a phob lwc yn y twrnamaint!
