Mae’n debyg bod llythyr George Clay-Thomas at y Field ar 8 Ionawr 1876, yn awgrymu creu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, wedi cael derbyniad ffafriol. Erbyn y cyhoeddiad nesaf ar y Sadwrn canlynol (15 Ionawr) roedd dau ymateb yn ei ddisgwyl, a’r ddau yn ganmoliadwy…ish!
Roedd y rhan fwyaf (ond nid pob un) o bobl a ysgrifennai lythyr i’r Field yn hoff o ddefnyddio ffugenwau. Yn ffodus i ni, penderfynodd George Clay-Thomas beidio, ond yn anffodus ni wnaeth ei ymatebwyr y Sadwrn hwn ddilyn ei esiampl.
Daeth yr ymateb cyntaf gan ŵr bonheddig a alwodd ei hun yn A.Highlander. Gan gymryd ei fod yn siarad o safbwynt Albanaidd, roedd yn teimlo bod y syniad o greu tîm yn un da ond roedd yn bryderus a’r awgrym y dylid dewis y timau o chwaraewyr o estron a oedd yn byw a bod yn Llundain. Teimlai na allai timau o’r fath “fod yn gynrychioliadol o’u gwledydd priodol”, fodd bynnag, cyn belled â bod y pwynt hwnnw wedi’i egluro a’i ddeall, roedd yn gefnogol o’r cynllun ‘Llundain’.
Edrychodd at Clay-Thomas am arweiniad pellach i naill ai ddechrau trefnu pethau ei hun neu enwebu rhywun arall i fynd â’r syniad ymhellach. Fe wnaeth hyd yn oed awgrymu timau o Lundain ble y gellid codi tîm Albanaidd.
Daeth yr ail ymateb gan ŵr yn galw ei hun yn Half Back. Roedd ef hefyd yn gefnogol, ond yr un mor sinigaidd ynglŷn â dewis o blith Cymry estron Llundain yn unig. Teimlai mai dim ond pe bai’r tîm yn cynnwys chwaraewyr sy’n byw yng Nghymru y gallai’r gêm (o safbwynt Cymreig) fynd yn ei blaen a chael ei wir ystyried yn gêm ryngwladol ym mhob ystyr y gair.
Yn wahanol i Highlander, nid oedd Half Back yn hoff o’r syniad o chwarae’r gêm o dan reolau Rygbi’r Undeb. Yn hytrach awgrymodd y dylid chwarae’r gêm yn ôl rheolau’r Gymdeithas (Association rules). Yn wir, ymddengys ei fod yn adleisio awgrym Clay-Thomas wythnos yn gynharach fod nad oedd rheolau rygbi yn boblogaidd yng Nghymru pan ymhelaethodd mai rheolau’r Gymdeithas yw “y rheolau a fabwysiadir yn bennaf yn y Dywysogaeth”.
Gyda llaw, dyma’r tro cyntaf erioed, yn unman yr ydym yn ymwybodol ohono, ble mae’r syniad o dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn chwarae o dan reolau’r Gymdeithas yn cael ei grybwyll.
Tybed a fyddai mwy o ymatebion yn cyrraedd yr wythnos ganlynol?
