Rhoi Wrecsam ar y Map

Yn rhan o raglen ‘Trysorau ar Daith’, mae’r Llyfrgell Brydeinig yn benthyg tri gwrthrych sydd â pherthnasedd penodol i Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru. 

Mae arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Wrecsam Rhoi Wrecsam ar y Map, wedi’i ysbrydoli gan yr eitemau hanesyddol hynod o bwysig yma o gasgliadau’r Llyfrgell Brydeinig:   

  • Y map cywir cynharaf o ardal Wrecsam – map o siroedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint a luniwyd gan Christopher Saxton yn 1577 a’i gynnwys yn atlas personol William Cecil, Arglwydd Burghley 1af, Ysgrifennydd Gwladol i Frenhines Elizabeth I.
  • Arolwg pwysig gan John Norden o diroedd tywysog Cymru, a ysgrifennwyd yn 1620 ac sy’n cynnwys y darluniau manwl cynharaf sydd yn dal i oroesi o Gastell Holt. 
  • Nodiadur gwerthwr llyfrau a arferai fod yn berchen i Sion Gruffydd (John Griffiths) o Riwabon, wedi’i ddyddio o ddiwedd y 17eg Ganrif.

Mae’r tair llawysgrif yn enghraifft o sut y cafodd Wrecsam ei arolygu yn y canrifoedd diwethaf a sut y cafodd y dref a’r dalgylch ei gynrychioli ar y mapiau. 

Gyda hyn mewn golwg, mae’r arddangosfa yn edrych ar ffyrdd eraill y mae Wrecsam wedi dod yn adnabyddus: ei glwb pêl-droed, Wrexham FC; ei draddodiad bragu, wedi’i symboleiddio’n fwyaf amlwg yn Wrexham Lager; ei ddiwydiant trwm megis haearn a glo, yr ymyriadau a chaledi; merched Wrecsam sydd wedi sicrhau bod Wrecsam wedi chwarae ei ran mewn digwyddiadau cenedlaethol; a sut mae’r celfyddydau a diwylliant dros y blynyddoedd diwethaf wedi helpu i drawsnewid enw da’r dref. 

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys:

  • Hen ffilm hyrwyddol o’r archif o Wrecsam yn y 1980au a gynhyrchwyd gan Fideo Cymunedol Wrecsam ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam
  • Rhaglen ddogfen fer a gomisiynwyd yn arbennig gan Ryan Saunders a Chloe Goodwin ar sut mae’r celfyddydau a diwylliant yn newid agweddau yn Wrecsam
  • Dwy ffilm ‘Ein Wrecsam’, a recordiwyd yn ystod y pandemig am bwysigrwydd Clwb Pêl-droed Wrecsam ac addysg Merched yn Wrecsam.
  • a rhywfaint o weithgareddau i oedolion a phlant sydd wedi’u hysbrydoli gan thema mapiau: caiff oedolion (a phlant) eu herio i greu eu map eu hunain o Wrecsam, tra bod ymwelwyr iau yn gallu ymgymryd â’r her ‘arwyddion’.

Mae Rhoi Wrecsam ar y Map yn agor dydd Sadwrn, 28 Mai a bydd ar agor tan ddydd Sadwrn 27 Awst 2022. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

#wrecsamarymap #wrexhamonthemap

Rhyfeloedd Angof: Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig O Gwmpas Y Byd | Oriel 2

8.11.2019 – 20.11.2020

Nododd Wrecsam Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad yn 2019 gydag arddangosfa newydd yn amgueddfa’r fwrdeistref sirol ar Stryt Y Rhaglaw: Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o Gwmpas y Byd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae coffadwriaethau wedi canolbwyntio’n bennaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dros y canrifoedd roedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a fu’n recriwtio’n drwm ledled gogledd Cymru ac a oedd wedi’u lleoli yn Wrecsam, yn cael eu galw i frwydro mewn rhyfeloedd ym mhob cwr o’r byd.  Aeth milwyr o ogledd Cymru i ymladd yn Affrica, America, Asia ac Ewrop.

Mae nifer o’r rhyfeloedd hyn yn droednodiadau mewn llyfrau hanes ac yn aml mae eu cofebion a welir ar ein strydoedd ac yn ein heglwysi yn cael eu hanwybyddu neu eu hanghofio’n llwyr hyd yn oed. Fodd bynnag, mae’r rhyfeloedd hyn yn cael eu cofio mewn gwledydd eraill ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at yr hanes byd-eang hwn sy’n rhan o hanes Wrecsam a Chymru.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r arddangosfa:

  • Medalau ymgyrchoedd Rhyfel y Crimea, Rhyfel De Affrica a’r Rhyfelgyrch Rhyngwladol i Pecin yn 1900.
  • Llythyr am Florence Nightingale
  • Arfau traddodiadol o dalaith ar ffin ogledd-orllewinol yr Ymerodraeth Indiaidd
  • Lifrai Milwr Prydeinig o reng arall o’r 19eg ganrif
  • Cap herwfilwr comiwnyddol Tsieineaidd o Argyfwng Malaya.
  • Llyfr braslunio o’r ymfyddiniad yn Bosnia-Herzegovina

Agorodd yr arddangosfa ar 8 Tachwedd 2019 a bydd ymlaen tan haf 2021. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

 

Rhyfeloedd Angof | Forgotten Wars