Nôl i’r Ysgol! | Oriel 3

Arddangosfa newydd yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Wrecsam, Nôl i’r Ysgol, yn cofnodi sut mae ysgolion lleol wedi newid dros y ddwy ganrif ddiwethaf drwy atgofion, cofroddion, archifau a hen ffotograffau.

Mae’n dathlu un o’r cyfnodau bywyd hynny rydym ni i gyd yn mynd drwyddo – dyddiau gorau ein bywyd, y carchar yr oeddem i gyd am ei ddianc, dechreuad ffrindiau oes a ffynhonnell atgofion melys a straeon doniol – gydag athrawon ysbrydoledig neu athrawon yr oeddent am eu profi’n anghywir.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys:

  • Arteffactau hanesyddol a deunydd archifol yn ymwneud ag ysgolion lleol o fewn y ddau gan mlynedd diwethaf, o gasgliad yr amgueddfa ac eitemau ar log gan aelodau o’r gymuned
  • Cyfres o recordiadau hanesyddol am fywyd fel athro ac fel disgybl yn St David’s, Cartfle, Grove Park Boys, Grove Park Girls, yr ysgolion preswyl a’r ysgolion cyfrwng Cymraeg cyntaf.
  • Cyflwyniad o’r casgliad o luniau ysgolion a gafwyd gan sesiynau apêl am luniau’r amgueddfa yn Wrecsam, Y Waun, Rhiwabon, Brynteg ac Owrtyn.
  • Man gwisg ffansi
  • Trywydd gweithgareddau plant, gan gynnwys ymarfer ‘Drill’ Ysgol Breswyl. Cadwch yn heini! Yn addas i oedolion hefyd.

Dros y misoedd nesaf, bydd ymwelwyr i’r arddangosfa yn gallu mwynhau atgofion o’r ysgol sy’n cael eu casglu a’u recordio gan wirfoddolwyr prosiect hanes llafar Calon FM, School Days: Stories from the Schoolyard. Bydd y recordiadau yn sail i chwe rhaglen ar hanes ysgolion Wrecsam. Mae staff yr amgueddfa yn recriwtio gwirfoddolwyr o hyd i helpu gyda’r prosiect.

Agorodd yr arddangosfa ar 17 Chwefror, a bydd ar agor nes 20 Mehefin, 2020.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01978 297 460 neu dilynwch yr Amgueddfa ar facebook.

Lawrlwytho:

Pêl-droed am byth! Cyflwyno Stori Pêl-droed yng Nghymru a Chymru mewn Pêl-droed | Oriel 3

12/07/2019 – 11/01/2020

Pêl-droed am byth! Cyflwyno Stori Pêl-droed yng Nghymru a Chymru mewn Pêl-droed yw’r arddangosfa ddiweddaraf wedi’i ysbrydoli gan Gasgliad Pêl-droed Cymru i’w agor yn Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r arddangosfa yn tynnu sylw at hanes cyffrous pêl-droed Cymru trwy ei gysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf, Trychineb Pwll Glo Aberfan, heriau teithio tramor, Gemau Olympaidd Paris 1924, cychwyn ffeministiaeth, anabledd a chwaraeon, pwysigrwydd un stryd arbennig yn Abertawe a man cychwyn y gêm yn nhref Wrecsam a phentref Rhiwabon.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwrthrychau a deunyddiau archifol o Gasgliad Pêl-droed Cymru a ddewiswyd gan ddau guradur gwadd, y ddau yn gefnogwyr selog o’r gêm. Mae’r casgliad yn ymddangos mewn cyfres o arddangosfeydd â themâu: Gemau Rhyngwladol Cartref, Sêr a Chymeriadau, Ewrop a’r Byd, Clwb a Gwlad a holl agweddau o’r Gêm gan gynnwys:

  • Crys Rhif 9 Trevor Ford a wisgodd yn erbyn yr Alban, 1955
  • Crys Len Davies o daith tramor cyntaf Cymru, 1929
  • Crys Aaron Ramsey o’r gêm yn erbyn Estonia, 2009
  • Rhaglen Gêm o ‘frwydr Wrecsam’ yn erbyn Awstria, 1955
  • Rhwymyn braich capten gan Ryan Giggs, ei gêm ryngwladol olaf
  • Esgid ‘aur’ a ddyfarnwyd i John Charles
  • A’r fedal a ddyfarnwyd i Moses Russell am fod yn rhan o’r tîm buddugol wnaeth guro Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref 1923-24.

Yn ogystal â’r arddangosfeydd hyn mae cyfle i ymwelwyr

  • Fwynhau ffilm yn yr archif gemau pêl-droed hanesyddol diolch i British Pathé Ltd.
  • Dewis eu hoff dîm i gynrychioli ein gwlad
  • Gosod gôl geidwaid Cymru yn nhrefn eu mawredd
  • Dadlau safleoedd ergydwyr gorau Cymru erioed
  • Rhoi cynnig ar wisgo cit pêl-droed o’r 19eg ganrif
  • A gwneud caneuon pêl-droed eu hunain i fyny.

Mae Pêl-droed am byth! i’w weld o ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019 tan ddydd Sadwrn, 11 Ionawr 2020.

 

Poster Pêl-droed yng Nghymru | Football in Wales poster