Rhyfeloedd Angof: Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig O Gwmpas Y Byd | Oriel 2

8.11.2019 – 20.11.2020

Nododd Wrecsam Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad yn 2019 gydag arddangosfa newydd yn amgueddfa’r fwrdeistref sirol ar Stryt Y Rhaglaw: Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o Gwmpas y Byd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae coffadwriaethau wedi canolbwyntio’n bennaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dros y canrifoedd roedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a fu’n recriwtio’n drwm ledled gogledd Cymru ac a oedd wedi’u lleoli yn Wrecsam, yn cael eu galw i frwydro mewn rhyfeloedd ym mhob cwr o’r byd.  Aeth milwyr o ogledd Cymru i ymladd yn Affrica, America, Asia ac Ewrop.

Mae nifer o’r rhyfeloedd hyn yn droednodiadau mewn llyfrau hanes ac yn aml mae eu cofebion a welir ar ein strydoedd ac yn ein heglwysi yn cael eu hanwybyddu neu eu hanghofio’n llwyr hyd yn oed. Fodd bynnag, mae’r rhyfeloedd hyn yn cael eu cofio mewn gwledydd eraill ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at yr hanes byd-eang hwn sy’n rhan o hanes Wrecsam a Chymru.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r arddangosfa:

  • Medalau ymgyrchoedd Rhyfel y Crimea, Rhyfel De Affrica a’r Rhyfelgyrch Rhyngwladol i Pecin yn 1900.
  • Llythyr am Florence Nightingale
  • Arfau traddodiadol o dalaith ar ffin ogledd-orllewinol yr Ymerodraeth Indiaidd
  • Lifrai Milwr Prydeinig o reng arall o’r 19eg ganrif
  • Cap herwfilwr comiwnyddol Tsieineaidd o Argyfwng Malaya.
  • Llyfr braslunio o’r ymfyddiniad yn Bosnia-Herzegovina

Agorodd yr arddangosfa ar 8 Tachwedd 2019 a bydd ymlaen tan haf 2021. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

 

Rhyfeloedd Angof | Forgotten Wars

Brymbo: Ffowndris, Ffwrneisi a Ffydd | Oriel 1

Mae’r arddangosfa thema ‘Pobl a Lleoedd’ presennol yn y brif oriel yn Amgueddfa Wrecsam ar hyn o bryd yn amlygu hanes Brymbo.

Mae’r arddangosfa yn seiliedig ar y casgliadau hanes diwydiannol, cymdeithasol a chelf y gofelir amdanynt gan yr amgueddfa, gan gynnwys:

  • Llun olew gan John Wilkinson, sylfaenydd gwreiddiol Gwaith Dur Brymbo
  • Albwm cyfeiriad a lluniau goleuedig a gyflwynwyd gan Mr J H Darby, rheolwr gyfarwyddwr Gwaith Dur Brymbo yn Ebrill 1908 gan y rheolwyr a’r gweithlu
  • Helmed wreiddiol ymladdwr tân Brigâd Dân Brymbo
  • Cragen brin wedi goroesi a wnaed gan yr Ordnans Brenhinol o waith dur Brymbo
  • Offer a ddefnyddiwyd gan Walter Salisbury a’i gydweithwyr yn y gwaith dur
  • Gwaith arian o Gapel Wesleaidd Bethel, Brymbo.

Mae’r arddangosfa hefyd yn rhoi cyfle i ddangos y gwaith celf a cherflun cyn-weithwyr Gwaith Dur Brymbo, Ben Boenisch. Roedd Mr Boenisch, dyn cadarn o Gymdeithas Celf Wrecsam a’r Fro yn y 1970au a’r 1980au yn gweithio fel rheolwr arlwyo ym Mrymbo.   Doedd peryglon achlysurol y Siop Toddi Trydan a’r felin dreigl ddim o’i gymharu â gyrfa Mr Boenisch yn y rhyfel: brwydro’r Wehrmacht yn dilyn ymosodiad yr Almaenwyr a Sofiet o’i gartref, Gwlad Pwyl, yn 1939; gan ddianc ar draws Ewrop i Ffrainc i ddechrau ac yna i Brydain; cyn brwydro gyda’r Canonau Brenhinol yn Burma.

Mae’r cas arddangosfa ‘Pobl a Lleoedd’ wedi’i leoli yng nghanol y brif oriel yn Amgueddfa Wrecsam.

Brymbo: Foundries, Furnaces and Faith | Brymbo: Ffowndris, Ffwrneisi a Ffydd