Yr ‘Amgueddfa Dau Hanner’ yw ein henw llaw-fer i ddisgrifio’r prosiect a fydd yn gweld datblygiad Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd yn adeilad presennol yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam.
Bydd yr amgueddfa newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal â thynnu sylw at lwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp â dathlu treftadaeth gyfoethog Bwrdeistref y Sir.
Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori ddiddorol a llawn digwyddiadau ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gan weithio ochr yn ochr â’r gymuned, bydd yr amgueddfa’n cynnal rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i ysbrydoli pawb sy’n ymweld i ddysgu, i fod yn egnïol a chyflawni eu potensial.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Wolfson. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”




Dilynwch ni!
Amgueddfa Bêl-droed Cymru
Gallwch ymuno â rhestr bostio Amgueddfa Bêl-droed i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, newyddion a nodweddion ar hanes pêl-droed Cymru, ynghyd â gwybodaeth am sut allwch chi gymryd rhan.
Dilynwch ni ar:
Facebook – Amgueddfa Bel Droed Cymru / Football Museum Wales
Twitter – @footymuseumwal
Instagram – @footballmuseumcymru
BlueSky – @footymuseumcymru
Amgueddfa Wrecsam
Rhestr Bostio Amgueddfa Wrecsam
Facebook – @Amgueddfeydd Wrecsam
Twitter – @wrexhammuseums
Instagram – @wrexhammuseum
BlueSky – @wrexhammuseum