Mae Amgueddfa Wrecsam yn gartref i Gasgliad Pêl-droed Cymru. Sefydlwyd y casgliad yn 2000 gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a dyma’r casgliad mwyaf o bethau cofiadwy pêl-droed Cymreig a gedwir mewn perchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae dros 2,000 o eitemau yn y casgliad hyd yma. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae deunydd yn ymwneud â John Charles, crysau Cymru o gemau rhyngwladol, a medalau a thlysau yn ymwneud â phob lefel o’r gêm yng Nghymru.
Nid oes gan Amgueddfa Wrecsam le ar hyn o bryd i arddangos y casgliad cyfan yn barhaol, fodd bynnag, mae eitemau dethol o’r casgliad yn cael eu defnyddio’n aml ar gyfer arddangosfeydd dros dro, yn ogystal â bod yn adnodd i ymchwilwyr, cwmnïau cynhyrchu teledu a benthyciadau i amgueddfeydd eraill.
10 o’r goreuon o Gasgliad Pêl-droed Cymru
- Crys gôl-geidwad Bert Gray, Iwerddon v Cymru (1-0), 16 Mawrth 1938. Y gêm hon oedd gêm olaf Gray i Gymru – enillodd 24 cap i gyd.
2. Crys Don Dearson, Ffrainc v Cymru (2-1), 20 Mai 1939. Enillodd Dearson 3 chap i Gymru yn eu tri gêm ryngwladol olaf cyn y rhyfel.
3. Crys Billy Rees, Y Swistir v Cymru (4-0), 26 Mai 1949. Rhan o daith Ewropeaidd tair gêm lle gwisgwyd y crys melyn am y tro cyntaf.
4. Blazer Wendy Reilly, 1980au cynnar. Wendy oedd un o’r chwaraewyr du cyntaf i chwarae i dîm cenedlaethol y merched.
5. Crys Donato Nardiello, Tsiecoslofacia v Cymru (1-0), 16 Tachwedd 1977. Crys clasurol wedi’i gynllunio gan Admiral, y gwisgo fersiwn melyn ohono ddwywaith yn unig gan Gymru mewn gemau.
6. Capten William Harrison, Lloegr v Cymru (4-0), 20 Mawrth 1899. Harrison yn gapten ac yn ddiweddarach yn gadeirydd Clwb Pêl-droed Wrecsam. Hon oedd gêm olaf Cymru yn y 19eg ganrif.
7. Rhaglen, Cymru v Yr Alban (0-2), 12 Hydref 1977. Colled ddadleuol yn Anfield a ddaeth â’r gobeithion o ennill Cwpan y Byd i ben.
8. Cap Richard Morris, yn cwmpasu gemau yn erbyn Iwerddon, Lloegr a’r Alban ym mis Chwefror/Mawrth 1902. Sgoriodd Morris un o’r goliau mewn buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ym 1907 gan gipio Pencampwriaeth Ryngwladol Gartref gyntaf i Gymru.
9. Rhaglen, Cymru v Awstria (1-0), 19 Tachwedd 1975. Noson enwog ar y Cae Ras, gyda gôl Arfon Griffths yn sicrhau cymhwyster yr Ewros.
10. Bathodyn Ted Robbins, Taith Canada 1929. Taith dramor gyntaf i Gymru, dan arweiniad ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Robbins.