Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Pen-blwydd Hapus!

150 mlynedd yn ôl i Heddiw y crëwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Ngwesty’r Wynnstay yn Wrecsam, ble cadeiriwyd cyfarfod gan Llewelyn Kenrick i dderbyn y sialens o gêm bêl-droed yn erbyn yr Alban.

Categories
Di-gategori

mae George Clay-Thomas yn ysgrifennu unwaith eto…

Ar 29 Ionawr 1876, unwaith eto o fewn tudalennau’r Field, ac yn dilyn y llif o lythyrau cefnogol a dderbyniodd y cyhoeddiad dros y tair wythnos diwethaf yn ymateb i’w awgrym i greu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae George Clay-Thomas yn ysgrifennu unwaith eto…a tydi o ddim yn hapus!

Roedd George wedi datgan yn eithaf clir yn ei lythyr gwreiddiol ar 8 Ionawr mai dim ond awgrymu creu tîm Cymru yr oedd. Fodd bynnag, ymddangosai ei fod yn eithaf anhapus bod pawb wedi camddeall ac yn disgwyl iddo ef fod yn trefnu’r gêm hon yn Llundain.

Roedd yn arbennig o anhapus gydag ‘A Highlander’ o bythefnos ynghynt, a oedd wedi awgrymu na ellir ystyried hwn yn dîm Cymru go iawn gan y byddai’r chwaraewyr yn Eingl-gymreig, ond serch hynny roedd yn gefnogol i’r gêm ddigwydd. Roedd George yn ymddangos yn arbennig o ddig gydag awgrymiadau Highlander ar sut y teimlai y dylai George fwrw ymlaen i drefnu’r gêm hon.

Gyda’r amser yn brin ac yn gyflym ddiflannu fodd bynnag, roedd o’n ymddangos bod George yn sylweddoli mai’r unig ffordd y byddai’r gêm hon byth yn dod yn realiti oedd pe bai’n derbyn ei dynged ac, fel yr awgrymwyd, yn camu i mewn i drefnu pethau.

Gan orffen ei lythyr gyda chwip at Highlander, dywedodd yn y bôn:

“Iawn, mi wna’i’r trefniadau ar gyfer tîm Cymreig yn Llundain, ond cama di i mewn i’r bwlch a threfnu’r ochr Albanaidd dy hun,  neu tyrd o hyd i rywun arall i’w wneud!”

Erbyn hyn, wrth edrych ar ohebiaeth George, mae’n amlwg mai dim ond gêm a chwaraewyd o dan reolau rygbi oedd yn cymryd ei bryd, er gwaethaf ei fod wedi sôn am gemau’r Gymdeithas (er ond yn fras) yn ei lythyr gwreiddiol. O ganlyniad mae stori dyddiau cynnar pêl-droed Cymru nawr yn troi i ffwrdd o George Clay-Thomas a’i helyntion.

Yn ôl yn Wrecsam, hyd yn oed cyn ei lythyr yn y Field, roedd Llewelyn Kenrick wedi bod yn brysur yn gohebu â chwaraewyr mewn gwahanol rannau o Gymru, gyda chymorth George a David Thompson, yn eu hannog i ffurfio clybiau pêl-droed. Ef hefyd oedd y brif ysbrydoliaeth y tu ôl i’r mudiad i greu clwb enwog Black Park yn y Waun, clwb y byddai un o feibion enwocaf Cymru yn dechrau ei yrfa gyda, degawdau yn ddiweddarach, sef Mr. William Henry Meredith!

Ar y dydd Mercher yn dilyn cyhoeddiad llythyr Llewelyn, cadeiriodd Kenrick gyfarfod yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, gyda’r unig bwrpas…penodi pwyllgor a fyddai’n trefnu gêm. Fel y byddai’r Field yn ei adrodd yn ddiweddarach yr wythnos honno ar 29 Ionawr:

“Cynhaliwyd cyfarfod i drafod y prosiect o chwarae gêm bêl-droed ryngwladol gyda Chymru yn ôl rheolau’r Gymdeithas yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, Wrecsam, Gogledd Cymru, ddydd Mercher diwethaf, pan benodwyd pwyllgor i wneud trefniadau rhagarweiniol. Cyn gynted ag y bydd y gêm wedi’i threfnu’n bendant, cynhelir gemau treial ar faes Clwb Criced Sir Ddinbych yn Wrecsam, at ddiben dewis yr un ar ddeg i dîm Cambrig. Gofynnir i foneddigion sy’n dymuno chwarae yn y gemau hyn anfon eu henwau a’u cyfeiriadau at Gadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria, Rhiwabon, cyn gynted ag y bo’r modd.”

Doedd gennym ddim syniad pwy fyddai’r gwrthwynebwyr, na ble bydden ni’n chwarae, ond roedd gennym gynllun ar sut i greu carfan. Bydd treialon yn cael eu cynnal ac roedd y galwad am chwaraewyr wedi ei wneud…roedden yr olwyn yn troi.

Ond Cymdeithas Bêl-droed Cambria?!?

Siawns bod ‘na enw gwell na hynny ar gael!

Categories
Di-gategori

‘Marlborough Nomad’

Pythefnos ers llythyr Clay-Thomas yn y Field yn awgrymu creu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae’r atebion yn parhau i lifo i mewn. Yn y rhifyn y Sadwrn hwn mae yno ddau ymateb arall, ond yn anffodus, eto’n defnyddio ffugenwau.

Daeth y cyntaf gan ŵr bonheddig a elwir ei hun yn ‘Marlborough Nomad’. Gyda llaw, clwb pêl-droed a’i sefydlwyd ym 1868 yn ardal Surbiton yn Llundain oedd y Marlborough Nomads. Yn chwarae o dan reolau rygbi roeddent yn aelodau sefydledig yr Undeb Rygbi ym 1871, cyn i’r clwb gael ei ddiddymu yn 1911.

Ar y pryd ym 1876 fodd bynnag, roedd y tîm yn dal ar dir y byw, a gallwn ond dyfalu fod gan ein Mr. Nomad gysylltiadau â’r clwb, ond pa gysylltiad wyddwn ni fyth yn anffodus. Roedd ef hefyd yn frwdfrydig iawn am syniad Clay-Thomas ond teimlai fod amser yn brin os byddent am wireddu’r syniad o gêm ryngwladol y tymor hwnnw. Ailadroddodd yr awgrym gwreiddiol o ofyn am gymorth yr Undeb Rygbi newydd i ddod o hyd i dîm Cymreig, a chyfaddefodd (efallai mewn cyfeiriad at ‘Half Back’ o’r wythnos flaenorol) y byddai gemau pêl-droed y Gymdeithas yn debygol o ddilyn, ond mai dim ond yr ochr rygbi pethau yr oedd yn mynd a’i bryd.

Roedd y llythyr arall, fodd bynnag, o natur hollol wahanol…

“Syr, – Mae’r syniad o gêm ryngwladol, o dan reolau’r Gymdeithas, rhwng Cymru ac un o’i gwledydd chwaerol, wedi ei dderbyn yn frwdfrydig iawn yng Ngogledd Cymru, a chynhelir cyfarfod yn Wrecsam yn gynnar yr wythnos nesaf i drafod y mater, ac i ffurfio pwyllgor a fydd â’r pŵer i wneud trefniadau rhagarweiniol. Bydd unrhyw gyfathrebiadau a dderbyniaf yn y cyfamser yn cael eu cyflwyno gerbron y cyfarfod a gynhelir yn Wrecsam.”

Llofnodwyd y llythyr gydag un gair:

‘Cymry’

Yr enw Cymraeg ar gyfer pobl Cymru, sy’n golygu “cyd-wladwyr”. Ymateb gwirioneddol bwerus i lythyr a oedd yn awgrymu tîm i chwarae yn Llundain wedi’i ddewis o gronfa o chwaraewyr o Lundain. Byddai tîm yr unigolyn hwn yn hytrach wedi ei wneud o Gymry er budd Cymry.

Yn y pen draw, byddai hanes yn datgelu inni wir enw ‘Cymry’. Samuel Llewelyn Kenrick, a’i dathlwyd heddiw fel tad pêl-droed Cymru. Roedd Kenrick, cyfreithiwr 28 oed o Riwabon, pêl-droediwr brwd ac aelod sefydlol o Glwb Pêl-droed Ruabon Rovers, yn amlwg wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni ers llythyr Clay-Thomas bythefnos ynghynt. Tra bod gêm rygbi George dal yn syniad ar bapur heb gynllun nac arweiniad clir, roedd Samuel eisoes wedi trefnu cyfarfod pwyllgor i roi cnawd ar sgerbwd y freuddwyd o drefnu gem. Nid yn unig oedd o wedi derbyn her George…roedd yn ei gwthio ymlaen!

Diolch i drefniant Kenrick, roedd cread Cymdeithas a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymreig yn prysur ddod yn realaeth, roedd ganddi amser ac roedd ganddi leoliad… ond roedd angen enw arni.

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Yr ymateb cyntaf…

Mae’n debyg bod llythyr George Clay-Thomas at y Field ar 8 Ionawr 1876, yn awgrymu creu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, wedi cael derbyniad ffafriol. Erbyn y cyhoeddiad nesaf ar y Sadwrn canlynol (15 Ionawr) roedd dau ymateb yn ei ddisgwyl, a’r ddau yn ganmoliadwy…ish!

Roedd y rhan fwyaf (ond nid pob un) o bobl a ysgrifennai lythyr i’r Field yn hoff o ddefnyddio ffugenwau. Yn ffodus i ni, penderfynodd George Clay-Thomas beidio, ond yn anffodus ni wnaeth ei ymatebwyr y Sadwrn hwn ddilyn ei esiampl.

Daeth yr ymateb cyntaf gan ŵr bonheddig a alwodd ei hun yn A.Highlander. Gan gymryd ei fod yn siarad o safbwynt Albanaidd, roedd yn teimlo bod y syniad o greu tîm yn un da ond roedd yn bryderus a’r awgrym y dylid dewis y timau o chwaraewyr o estron a oedd yn byw a bod yn Llundain. Teimlai na allai timau o’r fath “fod yn gynrychioliadol o’u gwledydd priodol”, fodd bynnag, cyn belled â bod y pwynt hwnnw wedi’i egluro a’i ddeall, roedd yn gefnogol o’r cynllun ‘Llundain’.

Edrychodd at Clay-Thomas am arweiniad pellach i naill ai ddechrau trefnu pethau ei hun neu enwebu rhywun arall i fynd â’r syniad ymhellach. Fe wnaeth hyd yn oed awgrymu timau o Lundain ble y gellid codi tîm Albanaidd.

Daeth yr ail ymateb gan ŵr yn galw ei hun yn Half Back. Roedd ef hefyd yn gefnogol, ond yr un mor sinigaidd ynglŷn â dewis o blith Cymry estron Llundain yn unig. Teimlai mai dim ond pe bai’r tîm yn cynnwys chwaraewyr sy’n byw yng Nghymru y gallai’r gêm (o safbwynt Cymreig) fynd yn ei blaen a chael ei wir ystyried yn gêm ryngwladol ym mhob ystyr y gair.

Yn wahanol i Highlander, nid oedd Half Back yn hoff o’r syniad o chwarae’r gêm o dan reolau Rygbi’r Undeb. Yn hytrach awgrymodd y dylid chwarae’r gêm yn ôl rheolau’r Gymdeithas (Association rules). Yn wir, ymddengys ei fod yn adleisio awgrym Clay-Thomas wythnos yn gynharach fod nad oedd rheolau rygbi yn boblogaidd yng Nghymru pan ymhelaethodd mai rheolau’r Gymdeithas yw “y rheolau a fabwysiadir yn bennaf yn y Dywysogaeth”.

Gyda llaw, dyma’r tro cyntaf erioed, yn unman yr ydym yn ymwybodol ohono, ble mae’r syniad o dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn chwarae o dan reolau’r Gymdeithas yn cael ei grybwyll.

Tybed a fyddai mwy o ymatebion yn cyrraedd yr wythnos ganlynol?

Categories
Di-gategori

Ar yr 8fed o Ionawr 1876

Ar yr 8fed o Ionawr 1876, fe daniwyd y sbarc fuasai’n arwain at gread tîm cenedlaethol pêl-droed Cymru. Fe ddaeth mewn ffurf llythyr agored o fewn tudalennau papur Newydd y Field, un o argraffiadau chwaraeon mwyaf y dydd.

Wedi ei ysgrifennu gan ŵr 24 oed o’r enw George Alexander Clay-Thomas, masnachwr glo yn Llundain oedd gynt o Sir Gaerfyrddin, roedd wedi sylwi ar y cynnydd mewn poblogrwydd y gêm a chynigiodd y syniad o greu tîm Cymreig I herio timau’r Alban neu Iwerddon oedd yn bodoli eisoes. Roedd George eisiau creu’r tîm o Gymry a oedd yn byw a bod yn Llundain, gydag unrhyw gêm yn cael ei chwarae o fewn y brifddinas.

Roedd pêl-droed a rygbi yn cael eu cysidro fel dwy elfen wahanol o’r un gêm yn 1876, gyda’r ddau yn dod o dan y faner o ‘bêl-droed’. Roedd George eisiau i’r gêm gael ei chwarae gyda rheolau rygbi yn hytrach na rheolau’r Gymdeithas, sef beth rydym yn ei adnabod Heddiw fel pêl-droed. Fe aeth mor bell a chynnig gofyn i’r Undeb Rygbi am eu help i ledaenu’r syniad ymysg clybiau Llundain.

Teimlai George fod ‘pêl-droed’ ddim mor boblogaidd yng Nghymru ac yr oedd yng ngweddill Prydain, a chynigiodd buasai creu’r tîm yn helpu i gynyddu poblogrwydd y gêm yma. Gallwn ond dyfalu ei fod yn golygu ‘pêl-droed rygbi’ gan ei fod eisiau creu’r fath dim, mae hefyd yn sôn yn ei lythyr y buasai ‘Ugain Lloegr yn gorff llawer rhy gryf’ i dîm Cymreig a oedd eto i dderbyn her (roedd timau yn chwarae rheolau rygbi yn 1876 gyda 20 chwaraewr bob ochr). Oedd George, nawr yn byw a gweithio yn Llundain, ‘allan o’r lŵp’ ta oedd o’n gywir yn ei amcan fod rygbi ddim yn hynod boblogaidd yng Nghymru ar y pryd?

Nid oedd George yn bwriadu gwneud unrhyw drefniadau pellach i wireddu ei syniad, yn hytrach roedd ond eisiau codi’r pwnc er mwyn i eraill ei chario ymlaen.

Roedd George wedi creu’r sialens…pwy fuasai’n ei derbyn?

Categories
Di-gategori

Dymuniadau Gorau ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Blwyddyn arall aruthrol i dîm prosiect Amgueddfa Wrecsam, mae’r orielau’n newid yn gyflym gyda chynnydd gweladwy ar draws y datblygiad cyfan.

Rydym yn gyffrous i ddechrau cynllunio digwyddiadau agoriadol y flwyddyn nesaf, felly dilynwch y cynnydd ar ein cyfryngau cymdeithasol, rhowch ‘hoffi’ i ni a rhannwch y newyddion o’ch ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd sbon.

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru Di-gategori

Mae amgueddfa bêl-droed newydd Cymru angen eich straeon chi!

Mae Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn estyn allan at gefnogwyr clybiau a gwlad i rannu straeon cofiadwy.

Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed yn ffurfio un hanner o’r ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd sy’n cael ei datblygu yn Wrecsam.

Wedi’i threfnu i agor yn 2026, bydd hanner pêl-droed yr amgueddfa yn dathlu pêl-droed Cymru, y gorffennol a’r presennol, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau gwaelodol i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu cyflawniadau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Bydd hanner arall yr atyniad cenedlaethol newydd yn gartref i amgueddfa newydd sbon i Wrecsam. Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam.

Casglu straeon i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau

Mae Swyddog Ymgysylltu Pêl-droed yn yr amgueddfa newydd, Shôn Lewis, yn egluro:

“Un o’r rhannau mwyaf cyffrous o ddatblygu’r amgueddfa newydd hon fu teithio o gwmpas Cymru a chlywed rhai o’r straeon anhygoel y mae cefnogwyr wedi’u rhannu gyda ni. Mae rhai yn wirioneddol gyffrous, mae rhai’n ddoniol ac mae rhai’n anghredadwy!

“Nid yw Cymru erioed wedi cael amgueddfa bwrpasol ar gyfer ei phêl-droed genedlaethol o’r blaen, felly mewn llawer o achosion mae’r straeon hyn yn cael eu cofnodi a’u casglu am y tro cyntaf. Rydyn ni’n gwybod bod cymaint o straeon gwych eraill allan yna a’n tasg ni yw sicrhau eu bod nhw’n cael eu casglu i eraill eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.

“Gallai fod yn brofiad a gawsoch mewn gêm glasurol (neu ddim mor glasurol) y buoch chi’n mynychu, cyfarfyddiad siawns ag arwr pêl-droed Cymru, digwyddiad cofiadwy yn eich clwb lleol, neu ddim ond atgof pêl-droed arbennig o’ch plentyndod yr hoffech chi ei rannu.

“Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych chi os oes gennych chi eitem bersonol o atgofion pêl-droed i gyd-fynd â’ch stori.

“Boed yn eich clwb lleol yng Nghymru neu’r tîm cenedlaethol, mae’r holl straeon hyn yn rhan o’r tapestri cyfoethog o hanes pêl-droed yn ein gwlad – rydyn ni eisiau casglu cymaint ag y gallwn ni!”

Cysylltwch â thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru gyda’ch stori drwy e-bostio footballmuseumwales@wrexham.gov.uk

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru Di-gategori Prosiect yr Amgueddfa Ddwy Hanner

Cyfle artist

Mae Amgueddfa Wrecsam yn chwilio am artist cymunedol profiadol i gynhyrchu dwy faner decstilau fawr, un ar thema Wrecsam, a’r llall, pêl-droed Cymru a fydd yn hongian ochr yn ochr yn y gofod atriwm newydd yn yr amgueddfa sydd wedi’i hailddatblygu.

Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gau ar hyn o bryd ar gyfer gwaith adnewyddu, ac mae disgwyl iddi ailagor yn 2026. Mae’n cael ei thrawsnewid yn gynnig unigryw a fydd yn cyfuno amgueddfa newydd ar gyfer Wrecsam ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru mewn un adeilad.

Manylion pellach

Mae’r amgueddfa yn dymuno comisiynu artist i weithio ar y cyd ag amrywiaeth o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gyd-greu dau waith celf beiddgar, lliwgar a thrawiadol a allai gyrraedd cynulleidfa o 80,000 o bobl o fewn blwyddyn i’w hagor.

Bydd comisiwn diddorol ac uchelgeisiol Brethyn Straeon yn cael ei osod yn 2026 a bydd yn rhoi cymuned a threftadaeth Wrecsam a phêl-droed Cymru wrth wraidd yr amgueddfa newydd ar unwaith.

Bydd yr artist yn gweithio gyda phedwar grŵp cymunedol yn Wrecsam a phump o bob cwr o Gymru i ddatblygu themâu pob baner. Mae partneriaethau cymunedol yn allweddol i ganlyniad y prosiect yma er mwyn sicrhau bod y canlyniad terfynol yn gynrychioliadol o Wrecsam a phêl-droed Cymru heddiw. Mae’r grwpiau cymunedol hyn eisoes wedi’u nodi, a bydd y prosiect yn cael ei gynnal ledled Cymru mewn lleoliadau sy’n gyfarwydd i gyfranogwyr. 

Rydym yn agored i syniadau gan ystod o artistiaid ac rydym yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dyddiadau allweddol  

Ar ôl ei benodi, bydd yr artist llwyddiannus yn gweithio gyda staff yr amgueddfa i drafod amserlen dderbyniol. Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2025 ac yn gorffen ym mis Mawrth 2026, gyda’r baneri gorffenedig yn cael eu cyflwyno i’r amgueddfa ac yn barod i’w gosod erbyn mis Chwefror 2026.

Y dyddiad cau ar gyfer y comisiwn hwn yw 18 Gorffennaf 2025.

Ffi artist

Mae cyllideb gwerth £16,500 wedi’i dyrannu i’r prosiect hwn. Mae’r gyllideb hon yn cynnwys yr holl gostau paratoi, teithio, dosbarthu, llety ac ymgysylltu, a diwrnodau stiwdio.

Sut i Wneud Cais

E-bostiwch ni yn museum@wrexham.gov.uk fel y gallwn e-bostio’r ddogfennaeth Cais am Ddyfynbris yn uniongyrchol atoch. 

Cysylltwch â ni drwy e-bost os hoffech drafod y comisiwn ymhellach cyn gwneud cais.

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru Prosiect yr Amgueddfa Ddwy Hanner

‘Cyfnod cyffrous i’r ddinas’ wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp

Mae’r prosiect i greu atyniad cenedlaethol newydd i ymwelwyr yng nghanol dinas Wrecsam bellach ar y gweill ac yn gwneud cynnydd gwych!

Mae un o adeiladau nodedig y ddinas, Adeiladau’r Sir, a fu gynt yn gartref i Amgueddfa Wrecsam, yn cael ei drawsnewid yn ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd.

Wedi’i threfnu i agor yn 2026, bydd ‘dwy hanner’ yr amgueddfa newydd yn cynnwys amgueddfa well ac estynedig ar gyfer Wrecsam, ochr yn ochr ag amgueddfa bêl-droed newydd sbon i Gymru.

‘Amgueddfa o Ddwy Hanner’

Mae orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu profiad gwell i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Yn aml, cyfeirir at Wrecsam fel ‘cartref ysbrydol pêl-droed Cymru’. Yn ogystal â bod yn gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam, sydd bellach yn enwog ledled y byd, dyma hefyd fan geni Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC). Mae’r amgueddfa’n geidwad Casgliad Pêl-droed Cymru – y casgliad mwyaf o atgofion pêl-droed Cymru a gedwir mewn perchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, y gorffennol a’r presennol, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau gwaelodol i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu cyflawniadau hanesyddol Wrecsam yn y gamp.

Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam mewn cydweithrediad â dylunwyr amgueddfa, Haley Sharpe Design, y penseiri Purcell a’r contractwyr SWG Construction, The Hub Consulting Limited, Goppion a Heritage Interactive.

Darperir cefnogaeth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU a Sefydliad Wolfson.

Bydd adeilad eiconig yn Wrecsam yn cael ei ‘adfer i’w ogoniant blaenorol’

Mae creu amgueddfa newydd, o’r radd flaenaf yn gofyn am ailddatblygu sylweddol o’r adeilad presennol – y tu mewn a’r tu allan.

Yn ogystal â datblygu amgueddfa newydd wych, mae hwn hefyd yn brosiect cadwraeth a fydd yn gweld yr adeilad rhestredig Gradd II, 167 oed, yn cael ei adfer i’w ogoniant blaenorol.

Mae gofal mawr yn cael ei gymryd i ddatgelu nodweddion pwysicaf yr adeilad, gan sicrhau mynediad i’r cyhoedd a gwella hygyrchedd, lles a chyfleoedd dysgu.

Some of the major work now taking place on the building includes:

  • All the stonework on the outside of the building (including the iconic turrets and chimneys) is being thoroughly cleaned, and repaired where necessary. Repairs have also taken place to the roof where required.
  • The inner courtyard is being transformed into a new, two-storey atrium with a brand new roof and new walkways. The steelwork is now in place, concrete has been poured and access has been developed from the atrium to the new galleries.
  • New internal walls and ceilings are now being installed – a brand new look and an expanded laMae rhai o’r prif waith sy’n digwydd ar yr adeilad ar hyn o bryd yn cynnwys:
  • Mae’r holl waith cerrig ar du allan yr adeilad (gan gynnwys y tyredau a’r simneiau eiconig) yn cael ei lanhau’n drylwyr, a’i atgyweirio lle bo angen. Mae atgyweiriadau hefyd wedi digwydd i’r to lle bo angen.
  • Mae’r cwrt mewnol yn cael ei drawsnewid yn atriwm newydd, deulawr gyda tho newydd sbon a llwybrau cerdded newydd. Mae’r gwaith dur bellach yn ei le, mae concrit wedi’i dywallt ac mae mynediad wedi’i ddatblygu o’r atriwm i’r orielau newydd.
  • Mae waliau a nenfydau mewnol newydd yn cael eu gosod nawr – golwg newydd sbon a chynllun estynedig ar gyfer yr amgueddfa newydd.
  • Mae’r caffi a’r siop ar y cwrt blaen hefyd yn cael eu hailwampio’n llwyr – mae gwaith dur newydd ar gyfer yr ardaloedd hyn bellach wedi’i roi yn ei le a tho sinc newydd yn lle’r to gwydr a fydd yn gwella ardal y caffi.
  • Mae seilwaith trydanol newydd wedi’i osod gan gynnwys systemau gwresogi mwy effeithlon a gosod paneli PV i wella effeithlonrwydd ynni.
  • Lle bo’n bosibl, mae nodweddion gwreiddiol wedi’u cadw ac mae briciau gwreiddiol wedi’u hailddefnyddio i gadw a gwella nodweddion hanesyddol yr adeilad.
  • Mae siafft lifft newydd yn ei lle, yn barod ar gyfer gosod y car lifft newydd.
  • Mae lifftiau newydd a thoiledau cwbl hygyrch wedi’u cynnwys ac mae’r mannau wedi’u creu’n barod i’w gosod, gan wella hygyrchedd o amgylch yr adeilad.
  • Mae ffenestri newydd wedi’u gosod lle na ellid cadw’r ffenestri gwreiddiol er mwyn gweddu i’r adeilad, a lle bo’n bosibl mae ffenestri a drysau gwreiddiol wedi’u cadw.yout for the new museum.

Addurno’r orielau newydd

Mae contractwyr yn gweithio’n agos gyda thîm y prosiect i ddylunio, datblygu ac adeiladu mannau mewnol yr amgueddfa, gan gynnwys yr orielau newydd, y siop, a’r atriwm trawiadol yng nghanol yr adeilad sydd wedi’i agor i’w faint llawn am y tro cyntaf ers y 1970au.

Mae datblygu rhannau clywedol a gweledol yr orielau bellach yn digwydd, gan gynnwys cynhyrchu lluniau ffilm newydd.

Croesawu ymwelwyr newydd – amgueddfa wedi’i wneud ar gyfer pawb

Mae amgueddfa newydd Wrecsam yn cael ei derbyn i’r ysgol yn lle croesawgar, dysgwyr, sy’n canolbwyntio ar y gymuned lle bydd croeso i bawb.

Bydd datblygu’r amgueddfa yn gyfle i greu ffyrdd newydd o ennill hanes Wrecsam, Cymru a phêl-droed Cymru. Bydd y nod yn ymweld ag amgueddfa newydd sbon nad ydynt wedi’u hannog â’r ymwelwyr o’r blaen, ochr yn ochr ag ymwelwyr.

Mae’r gwaith hwn i gyrraedd y newydd hyn wedi dechrau.

Tra bod y gwaith adeiladu yn parhau i fynd rhagddo ar y safle, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn trefnu gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu yn Wrecsam a ledled y wlad i helpu i ledaenu’r gair am yr amgueddfa newydd.

Mae Sioe Deithiol Amgueddfa Bêl-droed Cymru wedi bod yn teithio rhanbarthau o Gymru dros yr wythnosau diwethaf ac wedi cael ymateb gwych, gan gynnwys Porthmadog, yr Wyddgrug, y Waun, Croesoswallt (wel, mae bron yn Gymru), Bangor, Caernarfon – a Wrecsam wrth gwrs!

Mae’r tîm hefyd wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion lleol – roedd Ysgol Wirfoddol Bronington ac Ysgol Gynradd Rhosddu ymhlith y cyntaf i ymweld â Storfa Gasgliadau Amgueddfa newydd Wrecsam. Yma, fe wnaethant gynllunio eu hamgueddfeydd eu hunain, gwneud mosaigau Rhufeinig, chwarae pêl-droed, gwrando ar adroddwr straeon proffesiynol, gwneud ioga, dod yn agos at grysau pêl-droed Paul Mullin a Gareth Bale, a hyd yn oed helpu i ddewis masgot newydd sbon ar gyfer yr amgueddfa!

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau Cyngor Wrecsam: “Mewn blwyddyn sy’n edrych fel blwyddyn wych i ddiwylliant yn Wrecsam, mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r ddinas weld cynnydd mor wych yn cael ei wneud i drawsnewid un o’n hadeiladau mwyaf eiconig yn atyniad ymwelwyr o’r radd flaenaf.

“Bydd yr amgueddfa newydd yn ganolfan i’n cymuned gyfan, lle gall trigolion a miloedd o ymwelwyr newydd ddod ynghyd i ddysgu ac archwilio – adnodd newydd gwych i bawb sy’n byw yma a hwb arall i broffil cenedlaethol a rhyngwladol llewyrchus y ddinas.”

“Yn ogystal â’r cynnydd adeiladu gwych ar y safle, mae tîm yr amgueddfa hefyd wedi bod yn brysur yn trefnu digwyddiadau ymgysylltu ledled y wlad fel rhan o’r gwaith hanfodol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau y bydd pawb yn cael eu hannog i ymweld pan fydd yr amgueddfa’n agor y flwyddyn nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys presenoldeb sylweddol ar Faes yr Eglwys Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst eleni.”

Dysgwch fwy

Ewch i weld y lle Amgueddfa Dros Dro ar Sgwâr y Frenhines (ychydig y tu ôl i’r meinciau gyferbyn â Caffè Nero) i weld cynlluniau dylunio’r amgueddfa a siarad â thîm yr amgueddfa. Mae gennym hefyd amrywiaeth o anrhegion unigryw, llyfrau, cardiau a mwy ar werth, pob un wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfeydd a hanes lleol Wrecsam.

Mae Caffi Cwrt yr Amgueddfa wedi symud i leoliad dros dro yng Nghwrt Bwyd Tŷ Pawb, tra bod adeilad yr amgueddfa ar gau ar gyfer ailddatblygu. Mae’r fwydlen yn dal i gynnwys yr ystod arferol o brydau ysgafn cartref blasus, coffi, brechdanau, cawliau, cacennau a phwdinau na ellir eu gwrthsefyll!

Mae Archifau Wrecsam bellach wedi symud i gartref newydd sbon, parhaol yn Llyfrgell Wrecsam.

Tanysgrifiwch i’n rhestrau postio i dderbyn newyddion am y prosiect yn syth i’ch mewnflwch.

Mae’r prosiect i greu atyniad cenedlaethol newydd i ymwelwyr yng nghanol dinas Wrecsam bellach ar y gweill ac yn gwneud cynnydd gwych!

Cynnwys

‘Amgueddfa o Ddwy Hanner’Bydd adeilad eiconig yn Wrecsam yn cael ei ‘adfer i’w ogoniant blaenorol’Addurno’r orielau newyddCroesawu ymwelwyr newydd – amgueddfa wedi’i wneud ar gyfer pawbDysgwch fwy

Mae un o adeiladau nodedig y ddinas, Adeiladau’r Sir, a fu gynt yn gartref i Amgueddfa Wrecsam, yn cael ei drawsnewid yn ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd.

Wedi’i threfnu i agor yn 2026, bydd ‘dwy hanner’ yr amgueddfa newydd yn cynnwys amgueddfa well ac estynedig ar gyfer Wrecsam, ochr yn ochr ag amgueddfa bêl-droed newydd sbon i Gymru.

‘Amgueddfa o Ddwy Hanner’

Mae orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu profiad gwell i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori ddiddorol a chyffrous ein rhanbarth yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

– Cofrestru –
Eisteddfod Wrecsam 2025

Yn aml, cyfeirir at Wrecsam fel ‘cartref ysbrydol pêl-droed Cymru’. Yn ogystal â bod yn gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam, sydd bellach yn enwog ledled y byd, dyma hefyd fan geni Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC). Mae’r amgueddfa’n geidwad Casgliad Pêl-droed Cymru – y casgliad mwyaf o atgofion pêl-droed Cymru a gedwir mewn perchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, y gorffennol a’r presennol, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau gwaelodol i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu cyflawniadau hanesyddol Wrecsam yn y gamp.

Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam mewn cydweithrediad â dylunwyr amgueddfa, Haley Sharpe Design, y penseiri Purcell a’r contractwyr SWG Construction, The Hub Consulting Limited, Goppion a Heritage Interactive.

Darperir cefnogaeth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU a Sefydliad Wolfson.

Bydd adeilad eiconig yn Wrecsam yn cael ei ‘adfer i’w ogoniant blaenorol’

Mae creu amgueddfa newydd, o’r radd flaenaf yn gofyn am ailddatblygu sylweddol o’r adeilad presennol – y tu mewn a’r tu allan.

Yn ogystal â datblygu amgueddfa newydd wych, mae hwn hefyd yn brosiect cadwraeth a fydd yn gweld yr adeilad rhestredig Gradd II, 167 oed, yn cael ei adfer i’w ogoniant blaenorol.

Mae gofal mawr yn cael ei gymryd i ddatgelu nodweddion pwysicaf yr adeilad, gan sicrhau mynediad i’r cyhoedd a gwella hygyrchedd, lles a chyfleoedd dysgu.

'Cyfnod cyffrous i'r ddinas' wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp

Mae rhai o’r prif waith sy’n digwydd ar yr adeilad ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Mae’r holl waith cerrig ar du allan yr adeilad (gan gynnwys y tyredau a’r simneiau eiconig) yn cael ei lanhau’n drylwyr, a’i atgyweirio lle bo angen. Mae atgyweiriadau hefyd wedi digwydd i’r to lle bo angen.
  • Mae’r cwrt mewnol yn cael ei drawsnewid yn atriwm newydd, deulawr gyda tho newydd sbon a llwybrau cerdded newydd. Mae’r gwaith dur bellach yn ei le, mae concrit wedi’i dywallt ac mae mynediad wedi’i ddatblygu o’r atriwm i’r orielau newydd.
  • Mae waliau a nenfydau mewnol newydd yn cael eu gosod nawr – golwg newydd sbon a chynllun estynedig ar gyfer yr amgueddfa newydd.
  • Mae’r caffi a’r siop ar y cwrt blaen hefyd yn cael eu hailwampio’n llwyr – mae gwaith dur newydd ar gyfer yr ardaloedd hyn bellach wedi’i roi yn ei le a tho sinc newydd yn lle’r to gwydr a fydd yn gwella ardal y caffi.
  • Mae seilwaith trydanol newydd wedi’i osod gan gynnwys systemau gwresogi mwy effeithlon a gosod paneli PV i wella effeithlonrwydd ynni.
  • Lle bo’n bosibl, mae nodweddion gwreiddiol wedi’u cadw ac mae briciau gwreiddiol wedi’u hailddefnyddio i gadw a gwella nodweddion hanesyddol yr adeilad.
  • Mae siafft lifft newydd yn ei lle, yn barod ar gyfer gosod y car lifft newydd.
  • Mae lifftiau newydd a thoiledau cwbl hygyrch wedi’u cynnwys ac mae’r mannau wedi’u creu’n barod i’w gosod, gan wella hygyrchedd o amgylch yr adeilad.
  • Mae ffenestri newydd wedi’u gosod lle na ellid cadw’r ffenestri gwreiddiol er mwyn gweddu i’r adeilad, a lle bo’n bosibl mae ffenestri a drysau gwreiddiol wedi’u cadw.

Addurno’r orielau newydd

Mae contractwyr yn gweithio’n agos gyda thîm y prosiect i ddylunio, datblygu ac adeiladu mannau mewnol yr amgueddfa, gan gynnwys yr orielau newydd, y siop, a’r atriwm trawiadol yng nghanol yr adeilad sydd wedi’i agor i’w faint llawn am y tro cyntaf ers y 1970au.

Mae datblygu rhannau clywedol a gweledol yr orielau bellach yn digwydd, gan gynnwys cynhyrchu lluniau ffilm newydd.

'Cyfnod cyffrous i'r ddinas' wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp
Pob delwedd trwy garedigrwydd Haley Sharpe / All images courtesy of Haley Sharpe

Croesawu ymwelwyr newydd – amgueddfa wedi’i wneud ar gyfer pawb

Mae amgueddfa newydd Wrecsam yn cael ei derbyn i’r ysgol yn lle croesawgar, dysgwyr, sy’n canolbwyntio ar y gymuned lle bydd croeso i bawb.

Bydd datblygu’r amgueddfa yn gyfle i greu ffyrdd newydd o ennill hanes Wrecsam, Cymru a phêl-droed Cymru. Bydd y nod yn ymweld ag amgueddfa newydd sbon nad ydynt wedi’u hannog â’r ymwelwyr o’r blaen, ochr yn ochr ag ymwelwyr.

Mae’r gwaith hwn i gyrraedd y newydd hyn wedi dechrau.

Tra bod y gwaith adeiladu yn parhau i fynd rhagddo ar y safle, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn trefnu gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu yn Wrecsam a ledled y wlad i helpu i ledaenu’r gair am yr amgueddfa newydd.

Mae Sioe Deithiol Amgueddfa Bêl-droed Cymru wedi bod yn teithio rhanbarthau o Gymru dros yr wythnosau diwethaf ac wedi cael ymateb gwych, gan gynnwys Porthmadog, yr Wyddgrug, y Waun, Croesoswallt (wel, mae bron yn Gymru), Bangor, Caernarfon – a Wrecsam wrth gwrs!

Mae’r tîm hefyd wedi bod yn ymgysylltu ag ysgolion lleol – roedd Ysgol Wirfoddol Bronington ac Ysgol Gynradd Rhosddu ymhlith y cyntaf i ymweld â Storfa Gasgliadau Amgueddfa newydd Wrecsam. Yma, fe wnaethant gynllunio eu hamgueddfeydd eu hunain, gwneud mosaigau Rhufeinig, chwarae pêl-droed, gwrando ar adroddwr straeon proffesiynol, gwneud ioga, dod yn agos at grysau pêl-droed Paul Mullin a Gareth Bale, a hyd yn oed helpu i ddewis masgot newydd sbon ar gyfer yr amgueddfa!

'Cyfnod cyffrous i'r ddinas' wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau Cyngor Wrecsam: “Mewn blwyddyn sy’n edrych fel blwyddyn wych i ddiwylliant yn Wrecsam, mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r ddinas weld cynnydd mor wych yn cael ei wneud i drawsnewid un o’n hadeiladau mwyaf eiconig yn atyniad ymwelwyr o’r radd flaenaf.

“Bydd yr amgueddfa newydd yn ganolfan i’n cymuned gyfan, lle gall trigolion a miloedd o ymwelwyr newydd ddod ynghyd i ddysgu ac archwilio – adnodd newydd gwych i bawb sy’n byw yma a hwb arall i broffil cenedlaethol a rhyngwladol llewyrchus y ddinas.”

“Yn ogystal â’r cynnydd adeiladu gwych ar y safle, mae tîm yr amgueddfa hefyd wedi bod yn brysur yn trefnu digwyddiadau ymgysylltu ledled y wlad fel rhan o’r gwaith hanfodol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau y bydd pawb yn cael eu hannog i ymweld pan fydd yr amgueddfa’n agor y flwyddyn nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys presenoldeb sylweddol ar Faes yr Eglwys Genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst eleni.”

Dysgwch fwy

Ewch i weld y lle Amgueddfa Dros Dro ar Sgwâr y Frenhines (ychydig y tu ôl i’r meinciau gyferbyn â Caffè Nero) i weld cynlluniau dylunio’r amgueddfa a siarad â thîm yr amgueddfa. Mae gennym hefyd amrywiaeth o anrhegion unigryw, llyfrau, cardiau a mwy ar werth, pob un wedi’i ysbrydoli gan ein harddangosfeydd a hanes lleol Wrecsam.

Mae Caffi Cwrt yr Amgueddfa wedi symud i leoliad dros dro yng Nghwrt Bwyd Tŷ Pawb, tra bod adeilad yr amgueddfa ar gau ar gyfer ailddatblygu. Mae’r fwydlen yn dal i gynnwys yr ystod arferol o brydau ysgafn cartref blasus, coffi, brechdanau, cawliau, cacennau a phwdinau na ellir eu gwrthsefyll!

Mae Archifau Wrecsam bellach wedi symud i gartref newydd sbon, parhaol yn Llyfrgell Wrecsam.

Tanysgrifiwch i’n rhestrau postio i dderbyn newyddion am y prosiect yn syth i’ch mewnflwch.

Rhestr Bostio Amgueddfa Wrecsam

Rhestr Bostio Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am newyddion rheolaidd am y prosiect a digwyddiadau cysylltiedig:

Amgueddfa Wrecsam
Facebook

Amgueddfa Bêl-droed Cymru
Facebook
Twitter/X

Ewch i’r wefan am fanylion llawn am y prosiect

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru Prosiect yr Amgueddfa Ddwy Hanner

Sêr pêl-droed Cymru yn anfon anrhegion hanesyddol i amgueddfa newydd Wrecsam

Fis diwethaf, fe greodd Cymru Women hanes yn Wrecsam, gan dynnu 1-1 gyda Sweden o flaen eu torf fwyaf erioed y tu allan i Gaerdydd.

Ychydig cyn y gêm yn Cae Ras, mae dau o sêr y tîm wedi bod mor garedig â rhoi eitemau arbennig iawn – ac anarferol – i amgueddfa newydd Wrecsam!

Daw’r ddau gyfraniad o gemau ail gyfle dramatig Ewro 2025 Merched UEFA yn erbyn Iwerddon yr hydref diwethaf, a welodd Gymru’n creu hanes trwy gyrraedd prif dwrnamaint merched am y tro cyntaf.

Sicrhaodd y fuddugoliaeth dros ddau gymal le Cymru yn yr Ewros, a fydd yn cael eu cynnal yn y Swistir yr haf hwn.

Mae’r eitemau a roddwyd i’r amgueddfa yn cynnwys yr esgidiau a wisgwyd gan Lily Woodham, a sgoriodd gôl hollbwysig yn y cymal cyntaf yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd, a dant Gemma Evans, a gafodd ei tharo allan yn ystod yr ail gymal yn Nulyn.

Trosglwyddodd Gemma a Lily yr eitemau i Swyddog Pêl-droed yr Amgueddfa, Nick Jones, ym Mharc Colliers, Gresffordd.

Gall rhoddion “ysbrydoli sêr tîm Cymru yn y dyfodol”

Bydd yr esgidiau a’r dant nawr yn rhan o ‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam, atyniad cenedlaethol newydd sbon sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yng nghanol y ddinas.

Bydd y prosiect yn gweld datblygu amgueddfa bêl-droed gyntaf erioed Cymru, ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i gwella a’i hehangu. Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd agor yn 2026.

Yn ogystal â bod yn gartref i Glwb Pêl-droed Wrecsam sydd bellach yn fyd-enwog, a’u stadiwm, Y Cae Ras, y stadiwm rhyngwladol hynaf yn y byd sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw, Wrecsam hefyd yw man geni Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC). Cyfeirir at y ddinas yn aml fel ‘cartref ysbrydol pêl-droed Cymru’.

Amgueddfa Wrecsam yw ceidwad Casgliad swyddogol Pêl-droed Cymru, sy’n cynnwys miloedd o eitemau o hanes pêl-droed Cymru.

Bydd datblygiad yr amgueddfa bêl-droed newydd yn darparu orielau a gofodau arddangos newydd sbon ar gyfer y casgliad a fydd yn cael eu harddangos i bawb eu mwynhau.

Dywedodd Lily Woodham: “Mae’n wych ein bod yn gallu cefnogi amgueddfa bêl-droed Cymru a fydd yn agor y flwyddyn nesaf. Roedd cymhwyso ar gyfer yr EUROs yn uchafbwynt gyrfa ac rydw i mor falch fy mod i’n gallu rhoi fy esgidiau sgorio gôl i’w harddangos yn yr amgueddfa, gan obeithio ysbrydoli sêr tîm Cymru yn y dyfodol.”

CBDC yn helpu i dyfu Casgliad Pêl-droed Cymru

Mae dant Gemma ac esgidiau Lily yn ymuno â rhestr gynyddol o eitemau a roddwyd i Gasgliad Pêl-droed Cymru gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dros y blynyddoedd, mae rhoddion Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynnwys rhai arteffactau anhygoel. Mae rhai o’r uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys:

  • Mae Jess Fishlock a Sophie Ingle yn cyhoeddi crysau o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd/Ewros yn ddiweddar.
  • Pennants yn nodi degawdau o gemau tîm cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Cymru v Awstria, ‘Brwydr Wrecsam’ yn 1955.
  • Plât coffa gan FA Wcráin, yn nodi gêm hanesyddol y ddwy ochr yng Nghwpan y Byd ym mis Mehefin 2022, pan gymhwysodd Cymru ar gyfer Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers 1958.
  • Crys cyhoeddi gêm Gareth Bale o’i ymddangosiad rhyngwladol olaf ar dir Cymru – v Gwlad Pwyl, 25 Medi 2022.

Ychwanegiad hynod at y casgliad

Dywedodd Swyddog yr Amgueddfa Bêl-droed yn Amgueddfa Wrecsam, Nick Jones: “Diolch i Gemma, Lily a CBDC am gyfrannu’r gwrthrychau gwych hyn i Gasgliad Pêl-droed Cymru. Mae’n wych cael eitemau sy’n cysylltu’n agos â thîm y merched a’u cymhwyster arloesol ar gyfer twrnamaint mawr cyntaf yr haf hwn.

Mae’r dant yn ychwanegiad hynod ac rwy’n siŵr y bydd gan ymwelwyr y dyfodol ddiddordeb arbennig ynddo!”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Bartneriaethau a Diogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Paul Roberts: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am eu cefnogaeth barhaus i brosiect yr amgueddfa newydd ac i chwaraewyr Cymru am eu hychwanegiadau newydd gwych i’n Casgliad Pêl-droed Cymreig.

“Mae disgwyl i’r amgueddfa newydd ddenu miloedd o ymwelwyr newydd i Wrecsam bob blwyddyn a chwarae rhan ganolog yn arlwy diwylliannol llewyrchus y ddinas.

“Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu treftadaeth gyfoethog pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol. Bydd orielau newydd hefyd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.”

Darganfod mwy am yr amgueddfa newydd