Gwyliau’r Pasg: Eginol Wrecsam

Heriau Cyflymder Bownsio a Naid Hir ar ein blaengwrt. Galwch heibio i weld pwy fydd yn ennill!

Gweithgaredd am ddim. Dim angen archebu, dim ond troi i fyny!

Gwiliau’r Pasg: Masgiau Anifeiliaid

Dewch o hyd i’r anifeiliaid yn ein harddangosfa Straeon Byr ac addurnwch fasg i fynd adref gyda chi.

Gweithgaredd AM DDIM. Does dim angen archebu lle – dewch draw!

Gwyliau’r Pasg: Llyffnodyn Papyrws

Creu eich llyfrnodyn papyrws eich hun ar thema’r Aifft!

Gweithgaredd am ddim. Dim angen archebu, dim ond troi i fyny.

Crëwch bêl-droediwr pyped bach gyda ffon!

Crëwch bêl-droediwr pyped bach gyda ffon a chae o gerdyn i fynd adref gyda chi!

Digwyddiad galw heibio AM DDIM – dim angen archebu lle!

Masgotiaid Cryfion!

Rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl o’n masgotiaid amgueddfa newydd a dyluniwch rai eich hunain!

Digwyddiad galw heibio am ddim – dim angen archebu lle!

Cymhorthfa Darganfyddiadau

Oes gennych chi unrhyw wrthrychau archaeolegol hen a diddorol? Erioed wedi meddwl beth oedden nhw? Rwan yw eich cyfle i ddarganfod mwy!

Bydd ein Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau, Susie, yn Amgueddfa Wrecsam i’w nodi a’u cofnodi ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy

Ebostiwch susie.white@museumwales.ac.uk i archebu slot 10 munud gwarantedig rhwng 11.00am-12.30pm

Neu galwch heibio rhwng 1.30pm a 3.00pm ar sail y cyntaf i’r felin.

Siopau Cyfnewid Sticer Cwpan y Byd a Chrefftau Pêl-droed/Gweithgaredd Lego

Dathlwch Gymru yng Nghwpan y Byd yn Amgueddfa Wrecsam!

Bob dydd Sadwrn o 5ed Tachwedd tan 3ydd Rhagfyr, byddwn yn rhedeg Siopau Cyfnewid Llyfr Sticeri

Cwpan y Byd a gweithgareddau crefft teulu neu LEGO AM DDIM!

Dydd Sadwrn Tachwedd 5ed
11am – 1pm Siop Gyfnewid /Gweithgaredd Crefft Pêl-droed

Dydd Sadwrn Tachwedd 12fed
11am – 1pm Siop Gyfnewid

Dydd Sadwrn Tachwedd 19eg
11am – 1pm Siop Gyfnewid/Gweithgaredd pêl-droed Lego

Dydd Sadwrn Tachwedd 26ain
11am – 1pm Siop Gyfnewid/Gweithgaredd Crefft Pêl-droed

Dydd Sadwrn Rhagfyr 3ydd
11am – 1pm Siop Gyfnewid/Gweithgaredd pêl-droed Lego

Bwffe Brawychus!

Bwffe Brawychus yn Amgueddfa Wrecsam!
Hanner tymor mis Hydref eleni mae Amgueddfa Wrecsam yn cynnig bwffe llawn byrbrydau brawychus a danteithion arswydus!
Feiddiwch chi drio’r bysedd gwrachod? Neu gnoi ar goes pry cop?
Bydd taflen weithgaredd â thema frawychus ar gael ar bob bwrdd, felly gwisgwch i fyny a dangoswch eich ystumiau mwyaf brawychus i ni. Mae am fod yn anhygoel o arswydus!!
Ar gael ddydd Llun, 31 Hydref yn ein siop goffi. Dewch draw erbyn 2pm.
£7.95 yr oedolyn
£5.95 y plentyn
Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae’n rhaid talu wrth archebu lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol neu alergeddau wrth archebu.

Haf o Hwyl: Chwaraeon Pro Skills

Digwyddiad i’r teulu cyfan, yn cynnwys dartiau pêl-droed wedi’u llenwi ag aer, golff mini a llawer, llawer mwy ar ein blaengwrt!

AM DDIM! Dim angen archebu!

Haf o Hwyl: Dinas Gardfwrdd!

Beth wnewch chi ei greu yn defnyddio cardfwrdd

AM DDIM! Sesiwn galw heibio – dim angen archebu.