Bwffe Brawychus yn Amgueddfa Wrecsam!
Hanner tymor mis Hydref eleni mae Amgueddfa Wrecsam yn cynnig bwffe llawn byrbrydau brawychus a danteithion arswydus!
Feiddiwch chi drio’r bysedd gwrachod? Neu gnoi ar goes pry cop?
Bydd taflen weithgaredd â thema frawychus ar gael ar bob bwrdd, felly gwisgwch i fyny a dangoswch eich ystumiau mwyaf brawychus i ni. Mae am fod yn anhygoel o arswydus!!
Ar gael ddydd Llun, 31 Hydref yn ein siop goffi. Dewch draw erbyn 2pm.
£7.95 yr oedolyn
£5.95 y plentyn
Mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae’n rhaid talu wrth archebu lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol neu alergeddau wrth archebu.