Brics Bychain: Tirnodau mewn brics LEGO®

18.02.2022 – 07.05.2022

Brics Bychain: Dewch i weld y byd wedi’i adeiladu  brics LEGO®

Maen nhw’n un o’r cwmnïau tegannau mwyaf adnabyddus a llwyddiannus yn y byd – ond oeddech chi’n gwybod bod brics LEGO® yn arfer cael eu gweithgynhyrchu yma yn Wrecsam?

I ddechrau cynhyrchwyd y brics byd-enwog mewn ffatri ar Hugmore Lane ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Yn ddiweddarach adeiladodd LEGO ganolfan ddosbarthu newydd yn y DU ar Ffordd Rhuthun.

Mae llawer o bobl leol yn dal i gofio safle Ffordd Rhuthun yn arbennig. Pwy allai anghofio’r brics LEGO anferth, eiconig a oedd unwaith yn sefyll wrth ymyl y fynedfa?

I ddathlu’r cysylltiad hanesyddol hwn rhwng Wrecsam a’r gwneuthurwr teganau o Ddenmarc bydd Amgueddfa Wrecsam yn cynnal Brics Bychain, arddangosfa deithiol gan Warren Elsmore sy’n cynnwys modelau ei dîm o adeiladau, henebion a strwythurau enwog wedi’u gwneud o frics LEGO.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys amgueddfa LEGO Warren Elsmore yn cynnwys modelau a chynnyrch o flynyddoedd cynnar y cwmni hyd at heddiw.

Yn naturiol, bydd ardal yn yr oriel lle gallwch chi adeiladu eich modelau LEGO eich hun. Edrychwch hefyd am newyddion am y diwrnodau digwyddiadau arbennig yn ystod yr arddangosfa!

 

Tirnod enwog Wrecsam i’w gynnwys

Uchafbwynt yr arddangosfa fydd y model sy’n dathlu rhyfeddod peirianneg sifil oes y gamlas, ein Safle Treftadaeth y Byd lleol, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, a grëwyd yn benodol ar gyfer yr arddangosfa hon.

Mae myfyrwyr dylunio Prifysgol Glyndŵr hefyd yn cyfrannu ffilm a model o adeilad Ysgol y Celfyddydau Creadigol i’w harddangos yn yr arddangosfa.

Delwedd: Trwy garedigrwydd Warren Elsmore.

  • Bydd Brics Bychain i’w gweld o 18 Chwefror tan – 7 Mai 2020.
  • Mae mynediad AM DDIM.

Rhyfeloedd Angof: Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig O Gwmpas Y Byd | Oriel 2

8.11.2019 – 20.11.2020

Nododd Wrecsam Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad yn 2019 gydag arddangosfa newydd yn amgueddfa’r fwrdeistref sirol ar Stryt Y Rhaglaw: Rhyfeloedd Angof : Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o Gwmpas y Byd.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae coffadwriaethau wedi canolbwyntio’n bennaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dros y canrifoedd roedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a fu’n recriwtio’n drwm ledled gogledd Cymru ac a oedd wedi’u lleoli yn Wrecsam, yn cael eu galw i frwydro mewn rhyfeloedd ym mhob cwr o’r byd.  Aeth milwyr o ogledd Cymru i ymladd yn Affrica, America, Asia ac Ewrop.

Mae nifer o’r rhyfeloedd hyn yn droednodiadau mewn llyfrau hanes ac yn aml mae eu cofebion a welir ar ein strydoedd ac yn ein heglwysi yn cael eu hanwybyddu neu eu hanghofio’n llwyr hyd yn oed. Fodd bynnag, mae’r rhyfeloedd hyn yn cael eu cofio mewn gwledydd eraill ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at yr hanes byd-eang hwn sy’n rhan o hanes Wrecsam a Chymru.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r arddangosfa:

  • Medalau ymgyrchoedd Rhyfel y Crimea, Rhyfel De Affrica a’r Rhyfelgyrch Rhyngwladol i Pecin yn 1900.
  • Llythyr am Florence Nightingale
  • Arfau traddodiadol o dalaith ar ffin ogledd-orllewinol yr Ymerodraeth Indiaidd
  • Lifrai Milwr Prydeinig o reng arall o’r 19eg ganrif
  • Cap herwfilwr comiwnyddol Tsieineaidd o Argyfwng Malaya.
  • Llyfr braslunio o’r ymfyddiniad yn Bosnia-Herzegovina

Agorodd yr arddangosfa ar 8 Tachwedd 2019 a bydd ymlaen tan haf 2021. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

 

Rhyfeloedd Angof | Forgotten Wars