Mae dysgu wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

O fabanod i oedolion rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a llwybrau am ddim neu gost isel trwy gydol y flwyddyn yn seiliedig ar ein rhaglen arddangos newidiol.

Mae gennym le wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer y plant dan 5 oed, yr ‘I-Zone’, yn ogystal â chornel gwisgoedd a gweithgareddau sy’n annog chwarae a’r cyfle i ddysgu a darganfod gyda’n gilydd.


Ysgolion

Rydym yn falch o gyhoeddi fod ein rhaglen ddysgu nawr yn cynnig gweithdai yn seiliedig ar yr amgueddfa i ysgolion, ymweliadau allanol, a sesiynau dysgu cynorthwyol ar-lein.

Mae pob un o’n sesiynau dysgu wedi cael eu dylunio i annog chwilfrydedd naturiol a datblygu sgiliau ymholi gyda’r cyfle i weld a/neu ymdrin â gwrthrychau go iawn a ffynonellau gwreiddiol. Rhoddir addysg sy’n berthnasol i’r ardal leol gan gynnig profiad dysgu unigryw a fydd yn gwella’ch pwnc neu thema.

Gweler ein Rhaglen Dysgu Ysgolion 2020 – 2021

Fe allem ni ddarparu themâu eraill. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.

Cysylltwch â ni: museumeducation@wrexham.gov.uk


Gwirfoddoli

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli i bob oedran sy’n cynnwys wynebu’r cyhoedd a thu ôl i’r llenni.

    Cedwir pob hawl