Mae’r Ganolfan Gasgliadau yn gyfleuster ymchwil i ymwelwyr sydd â diddordeb yng nghasgliadau’r amgueddfa.

Rydym wedi bod yn casglu gwrthrychau ers 1982 ac erbyn hyn mae gennym dros 16,000 yn ein casgliad.

Nod y casgliad yw adrodd stori Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i phobl trwy gydol amser ac mae’n cynnwys archeoleg, celf, hanes cymdeithasol, tecstilau, hanes diwydiannol ac economaidd, hanes natur a hanes milwrol.

Casgliad Pêl-droed Cymru

Mae Amgueddfa Wrecsam yn gartref i Gasgliad Pêl-droed Cymru. Sefydlwyd y casgliad yn 2000 gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a hwn yw’r casgliad mwyaf o femorabilia pêl-droed Cymru a gedwir ym mherchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae deunydd yn ymwneud â John Charles, crysau Cymru o gemau rhyngwladol, a medalau a thlysau yn ymwneud â phob lefel o’r gêm yng Nghymru.                                  

Rhoddion

Rydym bob amser yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu casgliadau ein hamgueddfeydd i adlewyrchu’n well hanes Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i phobl dros amser.

Gallwch ddarganfod mwy am ein casgliadau a’r hyn a gasglwn yn ein Polisi Datblygu Casgliadau 2020-2025 (dolen). Os oes gennych chi eitem yr hoffech i ni ei hystyried ar gyfer casgliad yn yr amgueddfa, cysylltwch â ni isod i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosib.

Adnabod ac ymholiadau

Oeddech chi’n gwybod bod Amgueddfa Wrecsam yn rhedeg gwasanaeth adnabod ac ymholi? Os oes gennych wrthrych nad ydych yn gwybod beth ydyw na pha mor hen ydyw, neu os oes gennych ymholiad am wrthrych yn ein casgliad, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ddolen isod a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Canolfan Gasgliadau

Gyda dros 16,000 o wrthrychau yn ein casgliad nid yw’n bosibl arddangos pob eitem ar yr un pryd. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na allwch eu gweld. Os ydych chi’n dymuno gweld rhywbeth nad yw’n cael ei arddangos ar hyn o bryd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod a gallwn drefnu amser i chi ymweld â’r Ganolfan Gasgliadau i weld yr eitem yn agos. Ein nod yw sicrhau bod cymaint o’n casgliadau yn hygyrch i aelodau’r cyhoedd ond cofiwch efallai na fydd rhai eitemau yn hygyrch oherwydd gofynion iechyd a diogelwch.

Oriau Agored

Cysylltwch a Ni

    Cedwir pob hawl