Mae Castell Holt wedi ei leoli ar lan yr Afon Dyfrdwy ar ffin Cymru-Lloegr, ychydig filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam. Adeiladwyd y castell rhwng 1283 a 1311 gan John de Warenne a’i wŷr, ieirll olynol o Surrey, yn dilyn trechiad Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru.

Darlun o adluniad Castell Holt, o’r gogledd-ddwyrain, c.1315, fel y darluniwyd gan Phil Kenning, 2014


Rhai Ffeithiau Allweddol

Roedd Castell Holt yn gynllun pumochrog gyda phum tŵr crwn enfawr o amgylch cwrt canolog. Mae gan y castell hanes rhyfeddol yn llawn digwyddiadau:

  • Roedd Meistr James o San Siôr, adeiladwr castell Edward 1af, mwyaf tebyg yn rhan o’i ddyluniad.
  • Cymerodd Edward, y Tywysog Du, feddiant dros dro o’r castell yn y 14eg ganrif yn dilyn marwolaeth John de Warenne yn 1347.
  • Atafaelodd Richard II y castell yn 1397 a’i wneud yn dŷ trysor preifat iddo ei hun.
  • Daliodd y castell i’r Goron yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn Harri IV.
  • Gwnaeth Syr William Stanley y castell yn gartref iddo yn 1484 ar ôl cefnogi Richard III fel brenin ond wedyn newidiodd ochr y flwyddyn wedyn ym Mrwydr Bosworth gan helpu Harri VII i drechu Richard III.
  • Ymwelodd Harri VII â’r castell yn 1495 ar ôl i Syr William Stanley gael ei arestio am fradwriaeth.
  • Cyhuddwyd William Brereton, stiward Bromfield ac Iâl- a fu’n byw yng Nghastell Holt yn ystod teyrnasiad Harri VIII, ar gam o gael perthynas gydag ail wraig y brenin, Ann Boleyn. Profwyd Brereton a’i ddienyddio.
  • Roedd y castell yn gadarnle brenhinol yn ystod y Rhyfel Cartref a gwrthsafodd warchae o un ar ddeg mis yn 1646-7 nes ildiodd y garsiwn pan sylweddolon bod cefnogi Siarl I yn achos di-bwrpas.

Yn dilyn ildio ar ran y castell ar ddiwedd y Rhyfel Cartref, defnyddiwyd y safle fel chwarel gerrig a’r cyfan sydd ar ôl heddiw uwchben y ddaear yw’r cwrt canolog.

Holt Castle, from the south-east, 2015

Hanes y Castell

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282, derbyniodd John de Warenne, seithfed iarll Surrey, arglwyddiaeth Bromfield ac Iâl oddi wrth Edward y cyntaf. Er mwyn cadw ei afael ar y tir, adeiladodd de Warenne y castell (a oedd hefyd yn cael ei alw’n Castell y Llew) ger rhyd bwysig ar draws yr afon.

ohn de Warenne oedd arweinydd lluoedd Lloegr yn y fuddugoliaeth dros yr Albanwyr ym Mrwydr Dunbar yn 1296. Diorseddwyd brenin Yr Alban, John Balliol, a gwnaed de Warenne yn Rhaglyw ar y wlad. Mi ddifarodd yn ei enaid am dderbyn swydd a ddaeth â dim byd ond trafferthion iddo. Arweiniwyd gwrthryfel yr Albanwyr gan neb llai na William Wallace, a gurodd lluoedd Lloegr yn Stirling Bridge ar yr unfed ar ddeg o Fedi 1296. Bu’n rhaid i de Warenne ffoi o faes y gad, a gwneud y daith hir i gynnig ei esgusodion i frenin Lloegr.

Yng nghanol y 14eg ganrif, aeth y castell i ddwylo Richard Fitzalan, degfed iarll Arundel. Arhosodd ym meddiant y teulu tan ganol y ganrif nesaf, a marwolaeth y deuddegfed iarll heb blant. Rhoddodd Richard y Trydydd y castell i Syr William Stanley yn 1484, ond mi gollodd hwnnw ei ben ar orchymyn Henry’r Seithfed ac mi ddychwelodd y castell i berchnogaeth Coron Lloegr yn 1495.

Gwnaeth warchae hir yn ystod y Rhyfel Cartref glodfori’r dirywiad o’r castell a symudwyd llawer o’i gerrig nes ymlaen gan Thomas Grosvenor i adeiladu’r Neuadd Eaton gwreiddiol ger Caer.

Mae’r safle werth ei ymweld, dim yn unig am ei leoliad hardd wrth ymyl yr Afon Dyfrdwy, mae mannau eistedd newydd yn ei wneud yn lle perffaith i gerddwyr orffwys eu coesau. Yn ogystal â’r castell a’r tirlun hardd mae yna bont ganoloesol sy’n cysylltu’r ddwy wlad, ac Eglwys Sant Chad sy’n dyddio o 1395.

Darlun o Gastell Holt tua 1620, Norden’s Survey © Llyfrgell Prydain, BL Harl., Ms. 3696, ffolio 5
Darlun ailgread o Gastell Holt, 14eg-15fed ganrif, o’r gogledd

Y Castell

Pan gafodd ei gwblhau tua’r flwyddyn 1308 roedd Castell Holt ymhlith y cryfaf a fu erioed, gyda gward mewnol a’r gward allanol. Roedd gan y ddau ei amddiffynfeydd a’i borth ei hun. Siâp pentagon oedd i’r gward mewnol, gyda thŵr crwn uchel ar bob cornel.

Rhwng y tyrrau roedd ystafelloedd yn blith draphlith dros dri llawr – neuaddau, ceginau, stablau a llofftydd. Tua’r gogledd, ar draws y ffos garegog enfawr, roedd tŵr y porth yn cysylltu’r gward mewnol a’r gward allanol, gyda dwy bont godi i wrthsefyll y gelyn. Roedd gan dŵr y de-ddwyrain borth a oedd yn arwain at ddŵr yr afon.

Cynllun Castell Holt, tua 1620, Norden’s Survey © Llyfrgell Prydain, BL Harl., Ms. 3696, ffolio 5

Roedd yna nifer o adeiladau yn y ward allanol, a oedd mewn ffurf hanner cylch, yn eu plith llys yr arglwyddiaeth.


Archeoleg yng Nghastell Holt

Roedd y gwaith cloddio yng Nghastell Holt wedi ei gynllunio i ymchwilio natur unrhyw ddyddodion archeolegol wnaeth oroesi yn y castell ac i ddarganfod a wnaeth unrhyw olion o amddiffynion allanol y castell oroesi’r gwaith dymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref. Defnyddiwyd y wybodaeth a ddaeth o’r gwaith cloddio i hysbysu’r cyhoeddiadau a’r arddangosfeydd deongliadol newydd a gynhyrchwyd fel rhan o’r prosiect.

Pob haf bu Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam yn recriwtio gwirfoddolwyr, yn cynnwys dechreuwyr llwyr, myfyrwyr archeoleg ac aelodau o Gymdeithas Hanes Lleol Holt, i weithio fel archeolegwyr maes. Roeddent yn cloddio ffosydd, yn golchi darganfyddiadau ac arhosodd rhai ymlaen i wneud yr ôl-lenwi.

Gwaith Cloddio Castell Holt 2012

Dechreuwyd archwilio’r safle ym mis Awst 2012, gan ddechrau gyda ffos ar draws y cwrt mewnol, ac un arall i geisio dod o hyd i ben y ffos wreiddiol.

Dechreuwyd archwilio’r safle ym mis Awst 2012, gan ddechrau gyda ffos ar draws y cwrt mewnol, ac un arall i geisio dod o hyd i ben y ffos wreiddiol. Daeth i’r amlwg bod y cwrt wedi dioddef llawer o ddifrod ers cefnu ar y castell, ond mae dwy ardal fach o gerrig llorio a llawr cobl wedi goroesi. O farnu o’r peli mwsged a gafwyd hyd iddynt rhwng y cerrig, mae’r rhan yma’n dyddio’n ôl i warchae Rhyfel Cartref Lloegr. Llwyddwyd hefyd i ddod o hyd i fin caregog y ffos wreiddiol, sydd i’r gorllewin o’r cwrt.

Ariannwyd y cloddio gan y Cynllun Datblygu Gwledig, yng ngofal Partneriaeth Gogledd Gororau Cymru a Cadw.

Trefnwyd y gwaith gan Wasanaeth Treftadaeth Wrecsam, gyda gwirfoddolwyr lleol yng ngofal Eleri Farley a Steve Grenter.

Gwaith Cloddio Castell Holt 2013

Canolbwyntiodd gwaith cloddio 2013 ar ochr orllewinol y castell. Cloddiwyd nifer o ffosydd yn ystod y chwech wythnos o gloddio. Dyluniwyd y brif ffos i archwilio unrhyw olion oedd wedi goroesi o’r hyn a elwir yn dŵr gogledd-orllewin neu gwydrwr. Cloddiwyd ffos hefyd ar draws ardal lle roeddent yn disgwyl canfod olion tŵr barbican y castell, hwn a elwir y tŵr Chequer. Yn y diwedd cloddiwyd nifer o ffosydd er mwyn parhau i gloddio y ffos a ddatgelwyd yn ystod tymor 2012.

Datgelodd y gwaith cloddio sylfaeni creigwely cylchog o’r tŵr gogledd-orllewinol yn ogystal â’r tŵr de-orllewinol a hefyd wal ddwyreiniol y tŵr chequer ei hun.

Gwaith Cloddio Castell Holt 2014

Canolbwyntiodd y gwaith cloddio yn 2014 ar ochr ddwyreiniol y castell a oedd â’r bwriad o ddarganfod olion o’r gegin neu Dŵr y gogledd-ddwyrain yn ogystal â’r Tŵr Capel neu’r Tŵr de-ddwyreiniol.

Datgelodd y gwaith cloddio bod rhan o’r ochr ogleddol o’r Tŵr Glasier yn wir, wedi goroesi; yn ddiddorol roedd wedi ei wneud o dywodfaen cain wedi ei adeiladu yn erbyn craidd creigwely byw. Ni ddarganfuwyd dim o’r Tŵr Capel ar wahân i olion tebygol o’i sylfaen creigwely.


Ailadeiladu Castell Holt

Mae ymwelwyr yn aml yn ei chael hi’n anodd dychmygu Castell yn Holt. Rydych yn cerdded lawr llwybr o’r pentref, mae byngalos yn edrych dros y safle, ac nid yw’r adfeilion o’ch blaen yn edrych ddigon mawr i fod yn perthyn i gastell.

Yr her i’r arlunydd oedd ail-greu’r castell mewn cyfres o ddarluniau a fyddai’n helpu ymwelwyr weld fod castell trawiadol unwaith wedi bod ar lannau’r afon Dyfrdwy.

Y dasg gyntaf oedd hel cymaint o dystiolaeth â phosib at ei gilydd i helpu arlunydd ailadeiladai hanesyddol, Phil Kenning. Yn ffodus, er bod yr adfeilion yn fychan, mae digonedd o ffynonellau ysgrifenedig a gweledol:

  • Cynlluniau a darluniau 1562 a 1620 o Gastell Holt (wedi eu cadw yn y Llyfrgell Brydeinig)
  • Rhestr eiddo 1495 o Gastell Holt a orchmynnwyd gan Harri VII (mae’r llawysgrif gwreiddiol yn yr Archifdy Cenedlaethol)
  • Cynllun o’r castell, c. 1616-18, cafodd ei ailddarganfod ym mhapurau Dugiaeth Cernyw yn y Llyfrgell Brydeinig gan aelodau o Gymdeithas Hanes Lleol Holt
  • Arolwg Tidderley, c. 1540-47 a arolygon modern o’r safle
  • A chanlyniadau o dri cloddfa archeoleg gynhaliwyd yn 2012, 2013 a 2014.

Fe wnaethom ymgynghori hefyd gyda llawer o ffynonellau eilaidd gan gynnwys:

  • The Town of Holt, A.N.Palmer, Archaeologia Cambrensis, 1906-10
  • The Medieval Borough of Holt ac erthyglau eraill gan Derrick Pratt yn Nhrafodion Cymdeithas Hanesyddol Sir Ddinbych
  • An Archaeological Evaluation of Castle Street, Holt, gan Earthworks Archaeological Services, 1993
  • Mapping the Medieval Townscape: A Digital Atlas of the New Towns of Edward I gan Dr Keith Lilley
  • A Re-evaluation of Holt Castle gan Rick Turner, Steve Grenter a Paul Hinchliffe, Castle Studies Group, 2014
  • A darlun adluniad cynharach o’r 1990au.

Taith Rithwir o’r Castell

Ymunodd Rick Turner, hanesydd, academig a pherson brwdfrydig am gestyll gyda Chris Jones-Jenkins, arlunydd sy’n arbenigo mewn darluniau hanesyddol o ailadeiladai, i greu darluniau manwl ystafell i ystafell, llawr i lawr o Gastell Holt, c. 1495.

Mae’r prosiect yn cyfuno lluniadau gyda chymorth cyfrifiadur 21ain canrif gydag sgiliau ymchwil hanesyddol traddodiadol. Y canlyniad yw’r agosaf a gawn mwy na thebyg at weld Castell Holt, tu mewn a thu allan.

Noddwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Astudiaethau Castell.

Cydnabyddiaeth: Holl ddelweddau © Chris Jones-Jenkins, Rick Turner a Grŵp Astudiaethau Castell. Diolch i Rick Turner am ei gymorth gyda phenawdau’r delweddau.


Sut I Gael Yno

Mae Castell Holt yn safle mynediad agored. Mae llwybr yn arwain o Stryd y Castell drwy Erddi’r Castell (LL13 9AX) i safle’r castell. Mae parcio a thoiledau ar gael yn Green Street (LL13 9JF). 

Cedwir pob hawl