Yn Awst 1958, roedd gweithwyr lleol, gan gynnwys Ron Pritchard, yn tyllu ffos ar gyfer peipen ger rhif 79 Golygfa Sir Gaer, Brymbo, ger Wrecsam, pan ddaethant ar draws mwy na’r disgwyl: capfaen tua 1 droedfedd / 30 cm o dan yr wyneb. Roeddent wedi dod o hyd i Ddyn Brymbo.
Dyn Brymbo – Beth ydyn ni’n ei wybod?
Oed: oddeutu 35
Trwy wirio;r trael ar ei ddannedd ac ymasiad esgyrn ei benglog.
Dyddiad Geni: c1635CC
Trwy nodi bod y bicer yn fath “Gwddf Byr” a wnaed oddeutu 1600CC.
Taldra: 5’8″/173cm
Trwy fesur ei tibia (asgwrn rhan isaf y goes). Mae ei hyd yn gyfrannol i’w daldra.
Corff: Stwcyn
Mae siâp ei benglog a’r cysylltiad i’r cyhyrau i’r cyhyrau yma ac i esyrn ei goesau’n dangos ei fod yn ddyn llydan a chryf.
Nodweddion Gwahaniaethol: Clwyf uwchben rhimyn y gwallt ar y talcen
Trwy archwilio’r niwed i’w benglog yn ofalus, gallwn ddweud ei fod wedi goroesi’r anaf oherwydd gallwn weld ei fod wedi iachau. Mae’n debyg mai pwynt saeth carreg siâp deigryn oedd yr achos tebygol.
Digwyddiadau Post Mortem
Trwy archwilio’r esgyrn yn ofalus, nododd yr arbenigwr esgyrn olion toriadau a wnaed gyda offeryn miniog. Efallai bod eu harferion claddu yn cynnwys torri’r cnawd oddi ar esgyrn.
Tadogaeth Crefyddol: Credu yn y bywyd tragwyddol
Mae’n bosibl bod y bicer yn cynnwys diod ar gyfer ei daith i’r bywyd tragwyddol. Efallai bod y gyllell fflint yno er mwyn i Ddyn Brymbo allu paratoi byrbryd ar y ffordd.
Oed: | 35 |
Dyddiad Geni: | tua 1635CC |
Cyfeiriad: | ger Bryn-y-ffynnon, adnabyddir hwn nawr fel Golygfa Sir Gaer |
Cenedl: | Ddim yn berthnasol |
Taldra: | 5’8″ / 173cm |
Gwallt: | Brown |
Corff: | Cryf/Stwcyn Athletaidd/Cyhyrog |
Nodweddion Gwahaniaethol: | Clwyf Saeth uwchbenrhimyn y gwallt |
Cymwysterau: | Ffermio Sylfaenol (cnydau a hwsmoniaeth); Ysgoldiwr Ffling; Sgiliau sylfaenol; Moddion llysieuol |
Galwedigaeth: | Ffermwr, Heliwr ac Ymladdwr |
Hobïau: | Gweithio gyda chrwyn, esgyrn a chyrn; adrodd storïau |
Credoau: | Yn y bywyd tragwyddol ac yn syniaddau newydd yr Oes Efydd o’r de-ddwyrain |
Uchelgeisiau: | Dysgu sut i wneud gwaith efydd. |
Hoff eiddo: | Bicer a chyllell fflint orau |
Cipolwg ar fyd Dyn Brymbo
- Roedd ei gartref mewn cymuned ffermio ac roedd yn byw oddi ar y tir.
- Roedd ei gymuned mewn cysylltiad â’r byd mawr: Darganfuwyd cychod Oes Efydd yn aber yr Humber, mae eiddo mewn beddau wedi cynnwys cynnyrch nad yw ar gael yn lleol, megis ambr o Sgandinafia a faience o’r Aifft. Daeth masnach â syniadau newydd megis gwaith metel.
- Efallai ei fod yn fwy brwdfrydig dros syniadau newydd na phobl fwy gorllewinol. Yng Ngwynedd, parhaodd y traddodiad o gladdu comunol yn yr Oes Efydd. Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, bodolai’r gwahanol arferion claddu ochr yn ochr. Roedd y syniadau newydd yn cynnwys claddu pobl dan eu carreg a thwmpath pridd eu hunain, o’r enw gwyddgrug.
- Mae’n anodd dweud faint o bobl oedd yn byw yng Nghymru’r Oes Efydd Cynnar. Amcangyfrifir rhwng 10-20,000.
- Roedd y tywydd yn ddigon cynnes a sych i ffermwyr allu defnyddio ucheldir ar gyfer pori a thyfu cnydau.
- Roedd llawer o goedwigoedd ar y iseldir, nid oedd llawer o goed yn ardaloedd yr ucheldiroedd.
Dyn Brymbo : Y Dystiolaeth
I ddeall Prydain Oes yr Efydd, mae’n rhaid i ni ddibynnu ar astudiaethau cofadeiladau a darganfyddiadau sydd wedi goroesi hyd heddiw.
Yn achos Dyn Brymbo, beth sydd gennym fel tystiolaeth?
Y Sgerbwd
Gall patholegwyr ddweud llawer am unigolyn pan oedd yn fyw trwy archwilio sgerbwd dynol: oed, rhyw, taldra, diet, lle cafodd ei fagu ac achos marwolaeth yr unigolyn.
Y Bicer
Mae’r math o grochenwaith, siâp, deunydd ac addurn oll yn gliwiau. Mae archaeolegwyr nawr yn gwybod bod biceri wedi newid dros amser. Byddant yn defnyddio’r rhain i weithio allan brasamcan dyddiad y gwneuthuriad.
Y Gyllell Fflint
Fel y crochenwaith, mae’n bosibl gweithio allan bras ddyddiad cyllell fflint trwy edrych ar ei siâp a llafnau torri. Byddwn yn edrych ar fflintiau tebyg y gwyddom eu hoed eisoes.
Y Gist Garreg
Roeddent yn nodwedd cyffredin yn yr Oes Efydd Cynnar, yn enwedig mewn Claddedigathau Bicer.
Roedd creu bedd fel hwn yn golygu llawer o waith. Pa fath o unigolyn oedd yn haeddu bedd fel hwn? A oedd yn arbennig, neu a oes llawer o feddau tebyg i hwn yn dal heb eu darganfod?
Yr Ailadeiladu
Gallwch ddweud llawer am unigolyn oddi wrth ei wyneb. Nawr gyda chymorth arbenigwyr, gallwch ailgreu wyneb dynol o’i benglog.
Un o brif arbenigwyr ail-lunio wynebol yw Dr Caroline Wilkinson. Mae’n gweithio yn Uned Celf Meddygol Prifysgol Manceinion, lle anfonwyd Dyn Brymbo i’w ailgreu.
Cwestiwn cyntaf: A oedd digon ar ôl o benglog Dyn Brymbo ar gyfer adluniad? Cael a chael! Nid yw ei benglog yn gyflawn: dim on gên ei safn sy’n weddill ac mae rhan o ochr chwith ei benglog wedi mynd. On roedd digon i Caroline weithio arno.
Creodd Caroline gast o’r benglog. Mae penglog Dyn Brymbo yn rhy hen a bregus i’w ddefnyddio ar gyfer yr adluniad. Mae’r benglog yn hanes go iawn, felly rhaid oedd ei hamddiffyn rhag difrod di-droi’n ôl. I wneud y cast, roedd raid i Caroline wneud mowld. Seliodd y tyllau ym mhenglog Dyn Brymbo ac yna’i orchuddio mewn ffoil alwminiwm i’w amddiffyn yn ystod creu’r mowld. Mae’r deunydd mowldio, yn union yr un deunydd a ddefnyddir gan ddeintyddion i wneud argraffiad, yn debyd i uwd a taenir dros y benglog. Pan fydd wedi caledu, gellir gwneud cast perffaith o benglog Dyn Brymbo.
Y can nesaf i Caroline oedd cnocio’r pegiau bach i mewn i nodi trwch y cnawd mewn un ar hugain gwahanol bwynt ar y benglog. Penderfynir ar y trwch yn dibynnu ar ryw, oed a grwp ethnig yr unigolyn. Mae siâp eich wyneb hefyd yn dibynnu ar eich pwysau. Ni wyddom a oedd Dyn Brymbo yn denau neu’n dew, felly gosodwyd y pegiau yn seiliedig ar fesurau ‘pwysau cyfartalog’.
Yna, ychwanegodd Caroline y prif gyhyrau mewn clai. Nododd leoliad a chryfder cydfannau’r cyhyrau ne fewniadau ar y benglog. Mae’r rhain yn nodi cryfder cyhyrau’r wyneb ac o ganlyniad siâp wyneb Dyn Brymbo.
Mae bron iawn bob nodwedd y wyneb yn dibynnu ar anatomeg, er enghraifft:
- Lled y geg gan ffiniau allanol y dannedd llygaid neu ffiniau mewnol iris y llygad.
- Mae lled yr agorfa trwynol yn y benglog tua 60% o led y trwyn.
- Pe byddech yn tynnu llinnell o dreuan isaf asgwrn y trwyn ac un arall o’r meingefn trwynol ar waelod yr agorfa trwynol, cewch flaen y trwyn lle bydd y ddwy llinell yn croesi.
- Gellir darganfod ar ba ongl mae’r llygaid yn goleddu o’r benglog, yn seilliedig ar yr ongl rhwng y gwagle ar gyfer y chwarren ddagrau a’r lwmp bach ar du mewn pwll y llygad.
Nid gwaith dyfalu na dychymyg mohono. Yr ymagwedd drefnus hon sy’n sicrhau bod adluniad wyneb Dyn Brymbo mor agos i’r gwirionedd â phosibl.
Taith nesaf Dyn Brymbo oedd i Lundain i ymweld â’r artist colur. Ychwanegodd wallt ac eiliau. Mae penderfynu ar li gwallt a llygaid yn anodd. Mae llawer o’r penderfyniadau’n seiliedig ar dybiaethau ynghylch y gorffennol, sy’n datgelu mwy am yr archaeolegwyr a’r cyn-haneswyr sy’n eu creu na realaeth ei hun. Trwy roi gwallt brown a llygaid gwyrdd i Ddyn Brymbo, mae’r cwestiwn ynghylch ei wreiddiau yn dal yn ben agored ar gyfer trafodaethau pellach. Treuliodd lawer o’i amser yn yr awyr agored, felly roedd rai rhoi gwedd ôl tywydd iddo. Ni wyddom a oedd yn eillio ai peidio, ond roedd ganddynt raseli yn yr Oes Efydd Cynnar.
Nawr mae wedi dychwelyd i’r Amgueddfa ac fe allwch weld yr adluniad gorffenedig drostoch eich hun. Dyma sut roedd yn edrych. Nid yn rhy annhebyg i ni wedi’r cyfan.
Fel polion pabelli a muriau i dai, yn yr un modd mae esgyrn i bob creadur byw.
Galen, De anatomicus administrationibus, Yr ail ganrif AD
It is the common wonder of all, how among so many millions of faces, there should be none alike.
Sir Thomas Browne, Religio Medicii, 1643
Claddedigaethau
Mae Dyn Brymbo wedi bod yn destun diddordeb mawr i archaeolegwyr oherwydd ei fod yn brin: claddedigaeth Bicer yng Nghymru.
Mae cyn lleied o fywyd pobl yn nghyfnod cyn hanes wedi goroesi, mae safleoedd claddu yn fwy pwysig i ni, i adrodd euhanes wrthym, na fydd ein mynwentydd ni fyth yn adrodd ein hanes yn y dyfodol.
Yn eu byd nhw, roedd marwolaeth yn rhan fawr o’u bywyd. O’r herwydd, mae arferion claddu pobl yr Oes Cerrig, Efydd a Haearn a oedd yn newid yn ein cynorthwyo i ddatgelu eu credoau a’u systemau cymdeithasol.
Claddedigaethau Neolithig:
- Claddwyd pobl mewn grwpiau; plant ac oedolion gyda’i gilydd.
- Cymuned yn bwysicach nag unigolion.
- Hefyd, efallai bod y gymuned yn teimlo dan fygythiad gan natur neu bobl eraill fel hawliad eiddo.
- Daethpwyd o hyd i garn hir yn Nhan y Coed yn Nyffryn Dyfrdwy.
- Daethpwyd o hyd i garn crwn yng Nghop Cairn, ger Prestatyn. Y garnedd wneud ail fwyaf cyn hanes ym Mhrydain. Roedd adeiladu rhywbeth mor fawr yn golygu bod y gymuned yn dweud rhywbeth pwysig.
Claddedigaethau Bicer
- Amser newidiol yn ystod diwedd yr Oes Cerrig a’r Oes Efydd Cynnar a arweiniodd i newidiadau mewn cymdeithasau, credoau ac arferion.
- Daeth claddediaethau’n fwy unigolyddol. Claddu pobl ar eu pennau’u hunain.
- Roedd y meirw’n mynd ag eiddo personol gyda nhw – tlysau pennau saethau, arfau megis pennau bwyelli, cyllyll fflint a gwaith metel. Roedd y gwrthrychau hyn yn adlewyrchu staws a dyheadau tra’n fyw. Efallai bod rhannau symbolaidd iddynt yn y bywyd tragwyddol.
- Claddedigaethau Bicer yw’r claddedigaethau cyntaf i gynnwys eiddo personol gyda’r corff.
- Roedd y biceri’n ddigon pwysig i’w rhoi yn y beddau.
- Mae’r safleoedd hyn yn llai na safleoedd comunol Oes y Cerrig ac mae llai wedi’u darganfod/goroesi.
Deall Cyn Hanes
Cyn hanes yw’r cyfnod y mae haneswyr yn galw’r cyfnod cyn i bobl ddysgu ysgrifennu. Yn achos Prydain, mae’n golygu popeth cyn y Rhufeiniaid.
Mae’r rhan fwyaf o’r gorffennol, mewn gwirionedd mewn cyn hanes yn anodd iawn i’w dydio. Mae’r cyfnodau amser sy’n cale eu trafod mor enfawr, mae academyddion yn rhoi enw iddynt. Nid oedd neb yn meddwl amdanynt yn y modd hwn ar y pryd.
- Paleolithig = Yr Hen Oes Cerrig 250,000 hyd 8000CC
- Mesolithig = Canol yr Oes Cerrig 8000 hyd 4300CC
- Neolithig = Yr Oes Cerrig Newydd 4300 hyd 2300CC
- Oes Efydd 2300CC hyd 600CC
- Oes Haearn 600CC hyd at y Rhufeiniaid
Cofiwch, mae’r ffiniau rhwng bob cyfnod yn hyblyg iawn, yn enwedig yn ystod trafodaethau academaidd. Maent hefyd yn amrywio yn dibynnu ar ba ran o’r byd rydych yn ei dewis.
Ni wnaeth perthau newid dros nos yn 8000CC, 4300CC, 2300CC na 600CC. Fel na wnaeth llawer o bethau newid ar 1 Ionawr 2000.
Beth wyddom am yr Oes Efydd?
- Daw rhwng Oes y Cerrig a’r Oes Haearn.
- Dyma’r tro cyntaf i bobl ddefnyddio metel ar gyfer ofer ac arfau.
- Mae’n para’n fras o 2300 hyd 600CC. Mae’n pontio oddeutu’r un faint o amser â rhwng diwedd yr Ymerodraeth Rufeinig a heddiw.
- Mae’n amser o newid gyda dyfodiad credoau ac arferion newydd.
- Dyma’r tro cyntaf i eiddo personol gael eu claddu gyda’r meirw; efallai i’w defnyddio yn y byd tragwyddol.