Mae’r arddangosfa hon i’w gweld ar hyn o bryd yng nghwrt blaen yr amgueddfa ac mae’n cynnwys cyfres o ddelweddau gan ffotograffwyr lleol, Craig Colville a Carwyn Rhys Jones
Mae’r delweddau’n dal peth o effaith y pandemig coronafirws a’r cloi ar y gymuned leol yn ystod misoedd cyntaf yr argyfwng.

Craig Colville


Roedd y ffotograffydd proffesiynol Craig Colville wedi bod yn gweithio gydag Amgueddfa Wrecsam ar Wrecsam 2020, sef prosiect ffotograffig oedd yn cofnodi bywyd yn y fwrdeistref sirol, a ysbrydolwyd gan y ffoto-ohebyddion gwych, Philip Jones-Griffiths, Henri Cartier-Bresson a Dorothea Lange. Pan gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, ddechrau’r cyfnod clo ar Fawrth 23 mewn ymateb i bandemig Covid-19, golygodd hynny na fyddai Wrecsam 2020 yn flwyddyn arferol o gwbl.

Meddai Craig Colville, “Mae dogfennu sut y mae Covid wedi effeithio ar fywyd yn Wrecsam wedi bod yn brofiad heriol ond hynod foddhaol. O dynnu lluniau staff yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn gwisgo haenau o PPE ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn, i waith brwdfrydig y gwirfoddolwyr yn yr HWB PPE, roeddwn yn gobeithio dogfennu sut y mae bywyd bob dydd wedi newid mor ddramatig dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Mae ffotograffiaeth yn aml yn cael ei anwybyddu fel dull o ddogfennu, hysbysu ac adrodd hanesion, a gellir ei ddefnyddio i ddwyn pobl i gyfrif. Fy ngobaith yw y bydd fy ngwaith i’n gwneud yr uchod i gyd. 

Rydw i wir yn edrych ymlaen at gael gweld rhai o ddelweddau’r prosiect yn cael eu harddangos yn yr awyr agored yn yr amgueddfa, gan fy mod yn credu fod arddangosiadau awyr agored yn ffordd wych o ddangos gwaith ffotograffig i gynulleidfa.”


Credydau llun (chwith i’r dde): Gyda’r Gilwydd =Protest Mae Bywydau Du o Bwys, Y Parciau, Wrecsam, 07.06.2020 (©Craig Colville), Ffisiotherapydd, Ysbyty Maelor Wrecsam, 25.06.2020 (©Craig Colville), Wrexham, 2020 (©Craig Colville), Tu hwnt i’r enfys, Ysgol Santes Fair, Wrecsam 2020 (©Craig Colville)


Carwyn Rhys Jones

Yn gynnar yn ystod y cyfnod clo, daeth Amgueddfa Wrecsam yn ymwybodol bod y ffotograffydd lleol, Carwyn Rhys Jones, hefyd yn ceisio cofnodi effaith y pandemig ar Wrecsam. Gwahoddodd staff yr amgueddfa ef i ymuno yn y prosiect a chynnig cofnod ehangach o’r cyfnod clo.

Meddai Carwyn Rhys Jones, Fe ddechreuais i dynnu lluniau yn ystod y cyfnod clo am fy mod yn teimlo bod angen dogfennu hyn, gan y byddai’n rhan o’n hanes ni. Roeddwn i’n eistedd yn y tŷ ac yn teimlo bod y byd wedi dod i stop yn ddirybudd, a bod angen i mi archwilio beth oedd yn digwydd yn Wrecsam wrth i mi fynd am dro bob diwrnod.

O dynnu lluniau strydoedd gwag Wrecsam, datblygodd y prosiect i ddogfennu pobl leol Wrecsam. Aeth y prosiect o nerth i nerth i gyrraedd yr hyn sydd gennym ni heddiw. Roeddwn i’n ceisio llunio dyddiadur gweledol o’r hyn oedd yn mynd ymlaen a sut roedd pobl yn teimlo am y pandemig hwn o’u profiadau cadarnhaol a negyddol.

Fe gytunais i fod yn rhan o’r prosiect hwn gan fy mod yn teimlo ei fod yn mynd law yn llaw â’r hyn roeddwn i’n ceisio ei wneud, sef dogfennu hanes. Roeddwn i hefyd o’r cychwyn cyntaf eisiau i fy ffotograffau fod yn rhan o archif a fyddai’n cael ei chadw er mwyn i genedlaethau’r dyfodol gael dysgu am y cyfnod penodol hwn mewn hanes.”

Credydau llun (chwith i’r dde): Y Swyddog Heddlu, Rhosllannerchrugog, 2020(© Carwyn Rhys Jones), Pobl yn ciwio y tu allan i archfarchnad, Wrecsam, 30.06.2020 (© Carwyn Rhys Jones), Pobl neu Planed? Wrecsam, 2020 (© Carwyn Rhys Jones)


Paneli Arddangosfa

Fel y gwelir yng nghwrt blaen yr amgueddfa. Agorodd yr arddangosfa ar Fedi 23ain 2020 a bydd i’w gweld tan Fawrth 21ain 2021.

Cedwir pob hawl