Mae Amgueddfa Wrecsam yn llwyfannu rhaglen newidiol o arddangosfeydd ar draws ei thair oriel a’r Twnnel Amser:
- Hanes cymdeithasol, diwydiannol a milwrol
- Archeoleg
- Daeareg, palaeontoleg a hanes natur
- Celfyddydau cain ac addurnol
- Chwaraeon
- Diwylliant poblogaidd
Mae’r arddangosfeydd yn adrodd straeon Wrecsam, Cymru a’r byd ehangach i oedolion a phlant. Fe’u datblygir mewn cydweithrediad â gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a thrwy ein partneriaeth ag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.