Categories
Di-gategori

Swyddi ar Gael!

Gynorthwy-ydd Profiad Ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg

Mae gennym gyfle cyffrous i Gynorthwy-ydd Profiad Ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg ymuno â thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam.

Mae hon yn swydd rhan amser a fydd yn gofyn i chi weithio 13 awr, 10am-5pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul bob wythnos, gyda’r cyfle i weithio oriau ychwanegol yn ôl yr angen.

Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a pharod ei groeso sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel i aelodau o’r cyhoedd.

Fel rhan o dîm bach, byddwch yn gyfrifol am groesawu ymwelwyr i’r amgueddfa, goruchwylio’r orielau newydd, ateb ymholiadau a gwasanaethu cwsmeriaid yn siop yr amgueddfa. 

Byddai’r rôl hon yn addas i siaradwr Cymraeg, sydd â diddordeb mewn hanes, amgueddfeydd a diwylliant, a gwybodaeth am yr ardal leol. 

Mae hwn yn amser gwych i ymuno â thîm yr amgueddfa wrth i ni baratoi ar gyfer agoriad swyddogol yr amgueddfa genedlaethol newydd hon, y gyntaf yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Sut i wneud cais

Chwilio am gam nesaf eich gyrfa?  Darllenwch y disgrifiadau swydd llawn a gwnewch gais trwy ein porth:

Gynorthwy-ydd Profiad Ymwelwyr in – Wrexham County Borough Council – Welsh

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Oes gennych gwestiwn cyflym am rôl benodol?

E-bostiwch ni yn museum@wrexham.gov.uk

Cadwch lygad allan am fwy o swyddi Amgueddfa yn dod yn fuan!

Discover more from Treftadaeth Wrecsam

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading