O Chwefror 17eg 2020
Mae arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Wrecsam, Nôl i’r Ysgol, yn cofnodi sut mae ysgolion lleol wedi newid dros y ddwy ganrif ddiwethaf drwy atgofion, cofroddion, archifau a hen ffotograffau.
Mae’n dathlu un o’r cyfnodau bywyd hynny rydym ni i gyd yn mynd drwyddo – dyddiau gorau ein bywyd, y carchar yr oeddem i gyd am ei ddianc, dechreuad ffrindiau oes a ffynhonnell atgofion melys a straeon doniol – gydag athrawon ysbrydoledig neu athrawon yr oeddent am eu profi’n anghywir.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys:
- Arteffactau hanesyddol a deunydd archifol yn ymwneud ag ysgolion lleol o fewn y ddau gan mlynedd diwethaf, o gasgliad yr amgueddfa ac eitemau ar log gan aelodau o’r gymuned
- Cyfres o recordiadau hanesyddol am fywyd fel athro ac fel disgybl yn St David’s, Cartfle, Grove Park Boys, Grove Park Girls, yr ysgolion preswyl a’r ysgolion cyfrwng Cymraeg cyntaf.
- Cyflwyniad o’r casgliad o luniau ysgolion a gafwyd gan sesiynau apêl am luniau’r amgueddfa yn Wrecsam, Y Waun, Rhiwabon, Brynteg ac Owrtyn.
- Man gwisg ffansi
- Trywydd gweithgareddau plant, gan gynnwys ymarfer ‘Drill’ Ysgol Breswyl. Cadwch yn heini! Yn addas i oedolion hefyd.
Dros y misoedd nesaf, bydd ymwelwyr i’r arddangosfa yn gallu mwynhau atgofion o’r ysgol sy’n cael eu casglu a’u recordio gan wirfoddolwyr prosiect hanes llafar Calon FM, School Days: Stories from the Schoolyard. Bydd y recordiadau yn sail i chwe rhaglen ar hanes ysgolion Wrecsam. Mae staff yr amgueddfa yn recriwtio gwirfoddolwyr o hyd i helpu gyda’r prosiect.