Yr ‘Amgueddfa Dau Hanner’ yw ein henw llaw-fer i ddisgrifio’r prosiect a fydd yn gweld datblygiad Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd yn adeilad presennol yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam.

Bydd yr amgueddfa newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal â thynnu sylw at lwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp â dathlu treftadaeth gyfoethog Bwrdeistref y Sir.

Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, sy’n golygu gwell profiad i ymwelwyr a lleoliad modern o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod stori ddiddorol a llawn digwyddiadau ein rhanbarth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Gan weithio ochr yn ochr â’r gymuned, bydd yr amgueddfa’n cynnal rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i ysbrydoli pawb sy’n ymweld i ddysgu, i fod yn egnïol a chyflawni eu potensial.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gydag arian gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Wolfson. Mae prosiect yr Amgueddfa Dau Hanner wedi derbyn £1.3m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.”

Cedwir pob hawl