Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol – Amgueddfa Wrecsam

Mae digon o ffocws wedi bod ar y cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru, ond beth am yr hanner arall yn y prosiect ‘amgueddfa dau hanner’: amgueddfa newydd i Wrecsam?

Rydyn ni wedi llunio’r daith chwiban hon o’r dyluniadau ar gyfer yr orielau a’r gofodau newydd, ynghyd â rhai o’r syniadau ar gyfer y themâu a’r cynnwys y byddwch chi’n eu darganfod yn ystod eich ymweliad â’r amgueddfa newydd.

Mae datblygu’r cynlluniau ar gyfer orielau’r amgueddfa bêl-droed yn rhan o brosiect Amgueddfa Dau Hanner fydd yn creu Amgueddfa Bêl-droed i Gymru ac amgueddfa newydd i Wrecsam. Ariannwyd y gwaith datblygu hwn gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Pob llun trwy garedigrwydd Hayley Sharpe Design.

I ddechrau bydd newid mawr ar lawr gwaelod yr adeilad amgueddfa bresennol: ystafell ddysgu newydd ar gyfer ysgolion a digwyddiadau cymunedol; oriel ddynodedig ar gyfer hanes yr adeilad, gofod arddangosfa dros dro wedi’i ehangu a siop anrhegion fwy.

Bydd yr iard hanesyddol yng nghanol yr amgueddfa (lle mae’r brif oriel ar hyn o bryd) yn cael ei ail-osod; gan greu fersiwn Wrecsam o’r ‘Iard Fawr’ yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Bydd gwrthrychau ac arddangosfeydd LED yn cyflwyno themâu’r ddwy amgueddfa: treftadaeth pêl-droed a threftadaeth Wrecsam.


Mae argraff yr arlunydd yn dangos atriwm agoriadol fel y gwelir o waelod y grisiau canolog newydd gan edrych tuag at y drws i’r ystafell ddysgu.


Bydd orielau’r Amgueddfa Bêl-droed ac Amgueddfa Wrecsam oll ar lawr cyntaf yr adeilad; mewn gofodau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.


Bydd orielau Amgueddfa Wrecsam wedi’u lleoli ar ochr ddwyreiniol yr adeilad. Ar hyn o bryd mae’r adain ar ddwy lefel wahanol ac mae llawer o waith angen ei gyflawni i drawsnewid nifer o ystafelloedd i ofodau oriel ymarferol.


This image has an empty alt attribute; its file name is MoTH-Wrexham-Galleries-intro-example-visual-1.jpeg

Un o’r nifer o welliannau a fyddai’n digwydd fel rhan o brosiect ‘amgueddfa dau hanner’ fydd orielau parhaol wedi’u dynodi i agweddau penodol o hanes Wrecsam.

Hyd yn hyn rydym wedi gorfod gwasgu popeth i un oriel. Gyda gwynt teg a’r cyllid angenrheidiol, gall Amgueddfa Wrecsam gael gofod oriel y mae ein treftadaeth a’n cymunedau lleol yn ei haeddu.


Bydd ymwelwyr yn dod i mewn i orielau Amgueddfa Wrecsam drwy ardal agoriadol: Dyma Wrecsam!

Bydd yr ardal hon yn gymysgedd o sain, ffilm a delweddau yn cyflwyno hanes Wrecsam ac amrywiaeth y fwrdeistref sirol, a chyfeirio at themâu’r orielau sydd i ddod. Bydd y profiad ymdrwythol yn amlygu ein treftadaeth hyd at y diwrnod presennol.

Bydd yr oriel gyntaf, Dechreuadau, wedi’i ddynodi i archaeoleg a chynhanes, gan gynnwys Dyn Brymbo, trysorau’r Oes Efydd megis Casgliad yr Orsedd, a chypyrddau arddangos gydag arddangosfeydd archeolegol newidiol o ddeunyddiau lleol. Bydd gweithgareddau i ddiddori ac addysgu ymwelwyr iau hefyd.

Mae posibilrwydd yma i arddangos benthyciadau gan Amgueddfa Cymru megis Casgliad Acton a Chasgliad Burton (Yr Oes Efydd), Casgliad Esclus (y cyfnod Rhufeinig) a Chasgliad Wrecsam (yr Oesoedd Canol).


Yng Nghanolfan Dreftadaeth y Bers ers talwm roeddem yn arfer canolbwyntio ar dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal ond, ers i’r ganolfan gau, dim ond drwy arddangosfeydd dros dro y mae’r Gwasanaeth Amgueddfeydd wedi gallu adrodd stori ddiwydiannol Wrecsam.

Fodd bynnag, bydd popeth yn newid fel rhan o brosiect ‘amgueddfa o ddwy hanner’ wrth i Gwrt Rhif 2 (yr ystafell addysgu bresennol) ddod yn oriel barhaol ar gyfer hanes diwydiannol ac amaethyddol Wrecsam, y byd gwaith a tharddiad Wrecsam fel tref farchnad.

Mi fydd yna le i arddangos rhai o wrthrychau gwych y casgliad; a bydd rhai o’r bobl a’r llefydd sy’n gysylltiedig â’n gorffennol diwydiannol a masnachol yn cael eu taflunio ar bob pen i’r oriel.


Mi fydd yna lawer o bethau i bobl o bob oed ei wneud yn yr oriel ‘Masnach a Diwydiant’ arfaethedig: siopa yn Wrecsam ers talwm, gweithgaredd marchnad i blant, cyfle i ddysgu am wahanol swyddi’r oes a fu, lle i hel atgofion am eich swydd gyntaf/waethaf/orau, a hyd yn oed cyfle i chi wisgo dillad gweithwyr o’r gorffennol.


Mae hanes trychineb Pwll Glo Gresffordd yn rhan bwysig iawn o hanes modern Wrecsam, ac mi fydd yna ardal benodol yn yr oriel Gwrthdaro a Brwydro ar y trychineb a’r ôl-effeithiau.

Bydd yr ardal ar Hawliau Mwynwyr yn edrych ar hanes cythryblus maes glo Sir Ddinbych, o’r dwndwr cyntaf yn y 1830 i’r streic yn 1984/85.


Bydd ochr arall yr oriel Gwrthdaro a Brwydro yn canolbwyntio ar brofiadau Wrecsam yn y ddwy ryfel byd, gyda chwpwrdd arddangos, tystiolaeth ar lafar a map anferth yn dangos hanes ffrynt cartref yr ardal.

Byddwn yn cofio am y merched a oedd yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau, cyn-filwyr y rhyfel a’r rheiny a wasanaethodd ar y ffrynt cartref. Yn olaf, bydd y beic-modur Powell yn cael ei arddangos yn barhaol.


Mi fydd yna arddangosfeydd am fragdai a hen dafarndai Wrecsam. Efallai y bydd y slotian yn ddi-alcohol, ond mi fydd arnoch chi angen meddwl clir i ateb cwestiynau cwis tafarn eithaf Wrecsam.


Bydd yr oriel nesaf, Cymunedau, yn codi’r hwyliau wrth i’r arddangosfeydd ddathlu ochr gymdeithasol a diwylliannol bywyd lleol yn yr oes fodern. Mi fydd yna ardal ar fyw yn Wrecsam a chypyrddau arddangos yn dangos chwaraeon yn Wrecsam a sut treuliodd ein rhagflaenwyr eu hamser hamdden.

Byddwn yn cyflwyno detholiad gwahanol o gymeriadau o orffennol Wrecsam: y dadleuol, y digri, y drwg-enwog a’r rheiny sy’n haeddu ein sylw.

Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i boblogi’r arddangosfeydd yma, ac mi fyddwn yn galw am awgrymiadau a chyfraniadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol.


Fel y soniwyd, mae awyrgylch yr oriel ‘Cymunedau’ yn wahanol; mae’n mynd i fod yn lliwgar, yn fywiog ac yn braf. Fodd bynnag, y bwriad ydi gallu pylu’r golau a throi’r sain i lawr ar gyfer ‘adegau tawel’ pan na fydd ar ymwelwyr eisiau cael eu gorlethu.


Bydd yr oriel olaf yn amgueddfa arfaethedig Wrecsam yn canolbwyntio ar ein ‘Bywyd Beunyddiol’. Bydd un cwpwrdd arddangos yn cynnwys gwrthrychau sy’n gysylltiedig â chamau allweddol bywyd, o blentyndod i henaint; a bydd cwpwrdd arall yn arddangos bywyd yn y cartref a sut mae pethau wedi newid.

Unwaith eto byddwn yn cynnwys pobl leol wrth ddewis y gwrthrychau a’r straeon sydd arnyn nhw eisiau eu gweld yn yr oriel hon.

Ym mhen pellaf yr amgueddfa mi fydd yna ardal i blant – cyfle i archwilio hanes ‘adref’ a chast o bypedau arbennig i blant greu eu dramâu eu hunain am Wrecsam ers talwm.


Gobeithio bod y daith fer hon o’n cynlluniau ar gyfer orielau Amgueddfa Wrecsam yn darparu digon o resymau i chi ymweld a hyd yn oed cymryd rhan.

Mae deugain mlynedd wedi mynd heibio ers i Gyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam benodi Swyddog Ymchwil cyntaf yr amgueddfa yn 1982. Mae potensial yr amgueddfa yno i gael ei wireddu yn y gofodau newydd yma pan fydd yr holl gyllid wedi’i sicrhau. Rydym ni’n croesi bysedd y bydd y gefnogaeth gywir yn cael ei darparu i sicrhau bod gan Wrecsam amgueddfa sy’n addas i ddinas fwyaf newydd Cymru.

Discover more from Wrexham Heritage

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading