Wrth i gynlluniau i adeiladu Amgueddfa Bêl-droed newydd sbon i Gymru ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i hadnewyddu a’i hail-ddychmygu’n llwyr barhau i fynd rhagddi, rydym bellach yn falch iawn o allu rhannu’r dyluniadau diweddaraf.
Yn y canllaw cyflym hwn byddwn yn rhoi taith i chi o amgylch yr orielau a’r gofodau newydd amrywiol a fydd yn ffurfio’r Amgueddfa Bêl-droed ac yn cyflwyno rhai o’r syniadau ar gyfer y cynnwys, y themâu a’r straeon y byddwch yn gallu eu darganfod ar eich ymweliad.
Pob delwedd ac argraff arlunydd trwy garedigrwydd Hayley Sharpe Design.
Mae orielau a gofodau newydd sbon hefyd yn cael eu dylunio ar gyfer Amgueddfa Wrecsam ar ei newydd wedd. Gallwch ddarllen popeth am y cynlluniau dylunio hynny yma.
Mae’r daith yn cychwyn yma
Mae’r cynlluniau yn dychmygu atriwm uchder dwbl yng nghanol adeilad yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam. Yma fe fyddwch yn dod ar draws ‘amgueddfa o ddau hanner’: sgriniau arddangos LED o uchder llawn ac arddangosfeydd gwrthrychau a lluniau yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod.
Bydd yr amgueddfa bêl-droed yn ymwneud â phobl. Bydd yn ymgysylltiol, synhwyraidd, hygyrch, deinamig, yn llawn gwybodaeth, yn creu mwynhad ac yn fwy na dim bydd yn Gymraeg. Pe byddai’n ffon roc byddai’r llythrennau a fyddai’n rhedeg drwyddo yn sillafu CYMRU
Wedi’i harwain gan y gorau o ran dylunio amgueddfeydd a phêl-droed ac wedi ei throchi yn hanes ein gwlad, ysbryd y gêm, synnwyr o chwarae teg ac ychydig o hiwmor.
Fe fydd yna brofiad i ymgolli ynddo ar ddechrau’r orielau pêl-droed ar lawr cyntaf yr amgueddfa yn cyflwyno man genedigol pêl-droed Cymru ac wedi ei ysbrydoli gan y profiadau hynny ar ddechrau pob gêm.
Bydd yr oriel bêl-droed gyntaf yn ymdrin â’r gêm gartref: y cefnogwyr llawr gwlad, y clybiau rydych yn eu cefnogi o wythnos i wythnos er gwaethaf popeth a’r heriau mae pêl-droed merched wedi eu hwynebu ers dechrau’r gêm yng Nghymru. Ydych chi’n gwybod am unrhyw glybiau llai adnabyddus gyda hanes mawr? Os ydych chi’n gwybod am rai, rhowch wybod i ni!
Mae’r oriel yn y pen draw yn ymwneud â’r cefnogwyr a gwir ysbryd y gêm a’i phwysigrwydd i’n gwlad.Teithio i gemau ac atgofion o gemau. Canu dros Gymru, ffasiwn cefnogwyr, Dathlu a Chydymdeimlo, ac yn olaf y frwydr i achub ein clwb. Gyda llawer mwy o weithgareddau ar gyfer plant, mawr a bach.
Fe fydd ein swyddogion ymgysylltu yn casglu deunydd ar gyfer yr oriel hon a’r ddwy oriel arall dros y flwyddyn sydd i ddod.
Camau nesaf
Mae 2023 yn argoeli’n flwyddyn gyffrous iawn wrth i’r prosiect barhau i wneud cynnydd gwych.
Bydd yr adborth gwerthfawr a gawsom yn ein sesiynau ymgynghori diweddar yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio cam nesaf y gwaith dylunio. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn trwy’r blog hwn a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.