Gweithgaredd Hanner Tymor AM DDIM: Mosaigau Bach

Creu mosaig Rhufeinig maint coaster i fynd adref gyda chi.

Gweithgaredd galw heibio am ddim – galwch i mewn unrhyw bryd yn ystod yr amseroedd a hysbysebir.

Cymhorthfa Darganfyddiadau

Oes gennych chi unrhyw wrthrychau archaeolegol hen a diddorol? Erioed wedi meddwl beth oedden nhw? Rwan yw eich cyfle I ddarganfod mwy!

Dewch i’n Cymhorthfa Darganfyddiadau
Dydd Sadwrn 20 Mai
11.00am-12.30pm a 1.30pm-3.00pm

Bydd ein Swyddog Cyswllt Darganfod, Susie, yn Amgueddfa Wrecsam, I’w hadnabod a’u cofnodi ar gyfer Cynllun Hynafiaethau Cludadwy.

E-bostiwch Susie.white@museumwales.ac.uk I archebu slot 10 munud gwarantedig rhwng 11.00am a 12.30pm.

Neu galwch heibio rhwng 1.30pm a 3.00pm ar sail y cyntaf i’r felin.

Gwyliau’r Pasg: Eginol Wrecsam

Heriau Cyflymder Bownsio a Naid Hir ar ein blaengwrt. Galwch heibio i weld pwy fydd yn ennill!

Gweithgaredd am ddim. Dim angen archebu, dim ond troi i fyny!

Gwiliau’r Pasg: Masgiau Anifeiliaid

Dewch o hyd i’r anifeiliaid yn ein harddangosfa Straeon Byr ac addurnwch fasg i fynd adref gyda chi.

Gweithgaredd AM DDIM. Does dim angen archebu lle – dewch draw!

Gwyliau’r Pasg: Llyffnodyn Papyrws

Creu eich llyfrnodyn papyrws eich hun ar thema’r Aifft!

Gweithgaredd am ddim. Dim angen archebu, dim ond troi i fyny.

Crëwch bêl-droediwr pyped bach gyda ffon!

Crëwch bêl-droediwr pyped bach gyda ffon a chae o gerdyn i fynd adref gyda chi!

Digwyddiad galw heibio AM DDIM – dim angen archebu lle!

Masgotiaid Cryfion!

Rhowch wybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl o’n masgotiaid amgueddfa newydd a dyluniwch rai eich hunain!

Digwyddiad galw heibio am ddim – dim angen archebu lle!

Cymhorthfa Darganfyddiadau

Oes gennych chi unrhyw wrthrychau archaeolegol hen a diddorol? Erioed wedi meddwl beth oedden nhw? Rwan yw eich cyfle i ddarganfod mwy!

Bydd ein Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau, Susie, yn Amgueddfa Wrecsam i’w nodi a’u cofnodi ar gyfer y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy

Ebostiwch susie.white@museumwales.ac.uk i archebu slot 10 munud gwarantedig rhwng 11.00am-12.30pm

Neu galwch heibio rhwng 1.30pm a 3.00pm ar sail y cyntaf i’r felin.

Up The Town – Cefnogwyr Wrecsam AFC

Arddangosfa Ffotograffiaeth Newydd ar Flaengwrt Amgueddfa Wrecsam

Blaengwrt Amgueddfa Wrecsam yw lleoliad arddangosfa ffotograffiaeth awyr agored newydd gan Carwyn Rhys Jones, ffotograffydd dogfennol o Ogledd Cymru.

Mae’r arddangosfa yn rhan o brosiect ehangach sy’n canolbwyntio ar brofiadau bywyd cefnogwyr CPD Wrecsam a’u hymrwymiad i’r clwb.

Dechreuodd Carwyn Rhys Jones y prosiect oherwydd ei gred ym mhwysigrwydd cefnogwyr i glybiau pêl-droed a sut mae’r storïau am eu bywydau yn rhan allweddol o’u perthynas â’r clwb. Rhoddodd Carwyn y prosiect ar waith trwy gysylltu â nifer o glybiau cefnogwyr Wrecsam, a thrwy roi gwell syniad iddynt o’r gymuned sy’n cefnogi CPD Wrecsam.

Dywedodd Carwyn Rhys Jones “Dechreuais ar y prosiect ar ôl cwrdd â Richard Chadwick a chlywed am sut oedd cefnogi’r clwb wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd fel oedolyn. Rhannais stori Richard ar Instagram, ac fe aeth y prosiect o nerth i nerth, gyda mwy o bobl yn cymryd rhan, gan gynnwys Arthur Massey, cefnogwr hynaf Wrecsam; Kerry Evans, swyddog cyswllt anabledd y clwb; a Tim Edwards, golygydd y cylchgrawn i gefnogwyr, Fearless in Devotion.

“Dewisais amrywiaeth o gefnogwyr ar gyfer yr arddangosfa, gan fy mod i eisiau cynrychioli pawb. Dwi’n teimlo fod y prosiect wedi fy ngwneud yn hyd yn oed mwy o gefnogwr CPD Wrecsam. Mae teyrngarwch y cefnogwyr i’r clwb yn rhagorol.”

Agorir yr arddangosfa ffotograffiaeth am Hanner Dydd, ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 ar flaengwrt yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw.

Siopau Cyfnewid Sticer Cwpan y Byd a Chrefftau Pêl-droed/Gweithgaredd Lego

Dathlwch Gymru yng Nghwpan y Byd yn Amgueddfa Wrecsam!

Bob dydd Sadwrn o 5ed Tachwedd tan 3ydd Rhagfyr, byddwn yn rhedeg Siopau Cyfnewid Llyfr Sticeri

Cwpan y Byd a gweithgareddau crefft teulu neu LEGO AM DDIM!

Dydd Sadwrn Tachwedd 5ed
11am – 1pm Siop Gyfnewid /Gweithgaredd Crefft Pêl-droed

Dydd Sadwrn Tachwedd 12fed
11am – 1pm Siop Gyfnewid

Dydd Sadwrn Tachwedd 19eg
11am – 1pm Siop Gyfnewid/Gweithgaredd pêl-droed Lego

Dydd Sadwrn Tachwedd 26ain
11am – 1pm Siop Gyfnewid/Gweithgaredd Crefft Pêl-droed

Dydd Sadwrn Rhagfyr 3ydd
11am – 1pm Siop Gyfnewid/Gweithgaredd pêl-droed Lego