Arddangosfa Ffotograffiaeth Newydd ar Flaengwrt Amgueddfa Wrecsam
Blaengwrt Amgueddfa Wrecsam yw lleoliad arddangosfa ffotograffiaeth awyr agored newydd gan Carwyn Rhys Jones, ffotograffydd dogfennol o Ogledd Cymru.
Mae’r arddangosfa yn rhan o brosiect ehangach sy’n canolbwyntio ar brofiadau bywyd cefnogwyr CPD Wrecsam a’u hymrwymiad i’r clwb.
Dechreuodd Carwyn Rhys Jones y prosiect oherwydd ei gred ym mhwysigrwydd cefnogwyr i glybiau pêl-droed a sut mae’r storïau am eu bywydau yn rhan allweddol o’u perthynas â’r clwb. Rhoddodd Carwyn y prosiect ar waith trwy gysylltu â nifer o glybiau cefnogwyr Wrecsam, a thrwy roi gwell syniad iddynt o’r gymuned sy’n cefnogi CPD Wrecsam.
Dywedodd Carwyn Rhys Jones “Dechreuais ar y prosiect ar ôl cwrdd â Richard Chadwick a chlywed am sut oedd cefnogi’r clwb wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd fel oedolyn. Rhannais stori Richard ar Instagram, ac fe aeth y prosiect o nerth i nerth, gyda mwy o bobl yn cymryd rhan, gan gynnwys Arthur Massey, cefnogwr hynaf Wrecsam; Kerry Evans, swyddog cyswllt anabledd y clwb; a Tim Edwards, golygydd y cylchgrawn i gefnogwyr, Fearless in Devotion.
“Dewisais amrywiaeth o gefnogwyr ar gyfer yr arddangosfa, gan fy mod i eisiau cynrychioli pawb. Dwi’n teimlo fod y prosiect wedi fy ngwneud yn hyd yn oed mwy o gefnogwr CPD Wrecsam. Mae teyrngarwch y cefnogwyr i’r clwb yn rhagorol.”
Agorir yr arddangosfa ffotograffiaeth am Hanner Dydd, ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 ar flaengwrt yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw.