
Venues: Amgueddfa Wrecsam
Mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd stori Wrecsam a’r ardal gyfagos drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd.


O’r crys cyntaf rydych wedi bod yn berchen arno yn blentyn i’r copi tîm clwb neu genedlaethol diweddaraf, mae cefnogwyr pêl-droed yn caru crysau pêl-droed. Mae rhai yn cael eu hystyried yn glasuron dyluniad erbyn hyn, eraill ddim. Ond mae gan y cyfan le yn y gêm a chwedl i’w hadrodd. Mae Chwedlau’r Crysau yn rhoi cipolwg o hanes y gêm yng Nghymru.. a chyrchfan i bawb o bob man sy’n caru crysau pêl-droed.
Mae Chwedlau’r Crysau’n adrodd hanes pêl-droed Cymru drwy’r crysau dethol sydd yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru a rhai ar fenthyg gan unigolion preifat. Mae’r detholiad yn amlygu stori pêl-droed dynion a merched, ar lefel genedlaethol a lefel clybiau. Wedi’i hamseru i gyd-fynd â’r paratoadau at Gwpan y Byd yn Qatar, mae’r arddangosfa’n cynnwys:
- Crys a wisgwyd gan Alan Harrington yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1958.
- Crys o unig ymddangosiad Cymru hyd yma yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym 1958.
- Crysau Cymru o ymgyrch rhagbrofol 2022.
- Crys a wisgwyd yn y gêm ryngwladol gyntaf swyddogol i ferched Cymru yn 1993.
- a chrysau retro o dimau gorau Cymru: Wrecsam, Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe a Sir Casnewydd.
Mae’r arddangosfa ar agor nawr i’r cyhoedd ac mae mynediad am ddim.
Mae Amgueddfa Wrecsam ar agor o ddydd Llun – dydd Gwener 10am tan 4.30 p.m a dydd Sadwrn 11am tan 3.30 p.m.
Darganfod mwy am Brosiect Amgueddfa Bêl-droed Cymru
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu Amgueddfa Bêl-droed newydd sbon i Gymru ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw sydd wedi’i hailwampio’n llawn.
Bydd yr ‘amgueddfa dau hanner’ newydd yn atyniad cenedlaethol newydd o bwys i Ganol Dinas Wrecsam, gan ddathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, ochr yn ochr â lleoliad gwell o’r radd flaenaf ar gyfer darganfod y stori hynod ddiddorol a chyffrous. ein rhanbarth yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Digwyddiad i’r teulu cyfan, yn cynnwys dartiau pêl-droed wedi’u llenwi ag aer, golff mini a llawer, llawer mwy ar ein blaengwrt!
AM DDIM! Dim angen archebu!

Beth wnewch chi ei greu yn defnyddio cardfwrdd
AM DDIM! Sesiwn galw heibio – dim angen archebu.

AM DDIM! Sesiwn galw heibio – dim angen archebu.

AM DDIM – Sesiwn galw heibio – dim angen archebu!
Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gynnal waeth beth fo’r tywydd, felly gwisgwch yn addas.

AM DDIM! Sesiwn galw heibio – dim angen archebu.

AM DDIM! Sesiwn galw heibio – dim angen archebu.
Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gynnal waeth beth fo’r tywydd, felly gwisgwch yn addas.
!

AM DDIM! Sesiwn galw heibio – dim angen archebu!

AM DDIM! Sesiwn galw heibio – dim angen archebu.
Mae hon yn sesiwn flêr felly sicrhewch eich bod yn dod â dillad glân a phethau i’w defnyddio i lanhau eich plentyn megis hen dywel neu weips.