Diwrnod Chwarae AM DDIM yng Ngweithfeydd Haearn y Bers

FEATURING…

Adrodd straeon
Tatŵs gliter
Teithiau tywys o Weithfeydd Haearn y Bers

Lluniaeth ysgafn ar gael

Bydd rhywfaint o gadeiriau a gasibos ar gael.

Ar y cyd â Thîm Chwarae Wrecsam, rydym yn cynnal ein Diwrnod Chwarae cyntaf erioed yng Ngweithfeydd Haearn y Bers!

Mae llawer o weithgareddau chwarae wedi eu trefnu yn cynnwys dŵr, yn ogystal ag adrodd straeon, tatŵs gliter a theithiau tywys o amgylch Gweithfeydd Haearn y Bers.
Dim angen archebu lle, dim ond dod draw unrhyw bryd rhwng 11am a 3pm.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Parcio am ddim.

Sylwer mai safle awyr agored yw hwn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn barod am bob math o dywydd.

Cwestiynau ac Atebion

C – Pa Weithgareddau fydd ar gael?

Fe fydd yna nifer o gyfleoedd i chwarae, gan gynnwys gyda dŵr, gwneud den, sgiliau syrcas, storïwr, crefftau, gemau gardd a thennis bwrdd yn ogystal â llawer mwy. Byddwch yn barod i wlychu a chael llawer o fwd!

C – Beth sy’n digwydd os yw’n bwrw glaw?

Digwyddiad y tu allan fydd hwn a fydd yn cael ei gynnal beth bynnag fydd y tywydd ac felly gwisgwch yn briodol. Rydym yn argymell dod â dillad sy’n dal dŵr fel siwt sy’n dal dŵr neu ddillad sbâr a thywelion fel y gallwch fwrw iddi!

C – Sut mae cyrraedd y lleoliad?

Caiff y Diwrnod Chwarae ei gynnal mewn cae yng nghefn Gwaith Haearn y Bers (LL14 4LP). Mae’r lleoedd parcio yn gyfyngedig iawn felly fe hoffem annog cynifer o deuluoedd â phosibl i ystyried dulliau eraill o deithio. Os allwch chi gerdded i’n safle yna gwnewch hynny os gwelwch yn dda, fe allwch gyrraedd y digwyddiad ar droed drwy Adeilad y Felin.  Fe fydd gwirfoddolwyr yno i’ch cyfeirio.

C – Lle allwn ni barcio?

Mae gennym ni ychydig o leoedd parcio ar gael ar y safle, a gallwch eu cyrraedd drwy ffordd un trac gyferbyn â’r fynedfa i Eglwys Plas Power y Santes Fair, y Bers. Fe fydd yna Wirfoddolwyr ar y safle i’ch cyfeirio ac fe fyddant yn rheoli ceir sy’n cyrraedd a gadael y safle. Unwaith y bydd yr ardal yma’n llawn, nid oes gennym leoedd parcio eraill.

Gofynnwn i chi barcio’n gyfrifol gan barchu preswylwyr lleol.

C – A fydd bwyd a diod ar gael?

Fe fydd gennym stondin fach yn derbyn arian yn unig a fydd yn gwerthu byrbrydau a diodydd oer yn unig. Dewch â newid mân os allwch chi.

Mae croeso i chi ddod â bwyd gyda chi. Rydym yn argymell eich bod yn dod â fflasg o siocled poeth blasus! Cofiwch flanced bicnic!

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r Diwrnod Chwarae!

Gwaith Haearn y Bers

Roedd hanes Gwaith Haearn y Bers wedi para tua 100 mlynedd, cafodd ei sefydlu gan Charles Lloyd tua 1717 i gynhyrchu haearn bwrw ar gyfer efeiliau lleol. Roedd oes aur y gwaith yn ystod y 1770au i 1790au pan oedd John ‘Iron Mad’ Wilkinson yn gyfrifol am y canon haearn gweithgynhyrchu a silindrau peiriant stêm. Daeth y gwaith i ben yn 1812 yn dilyn marwolaeth John yn 1808.

Dysgu mwy