Y Rhufeiniaid yn Dychwelyd

Fe fydd y tîm ail-greu sydd y tu ôl i brosiect Parc y Gorffennol a Theithiau Rhufeinig Caer y tu allan i’r amgueddfa gan ddod â Phrydain Rufeinig a’r milwyr lleng yn ôl yn fyw gydag arddangosfeydd hanes byw ac arddangosiadau untro wrth iddynt baratoi ar gyfer eu hymgyrch filwrol dros yr haf.

AM DDIM. Addas i blant, oedolion a Brythoniaid! Nid oes angen archebu llei, dim ond dod draw.

11am-3pm

Amgueddfa Wrecsam

Mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd stori Wrecsam a’r ardal gyfagos drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd.

Dysgu mwy