Mikey Jones Tirnodau Wrecsam

Yr arddangosfa fwyaf yng nghwrt blaen yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yw cyfres o weithiau celf gan yr artist tirlun o ogledd Cymru, Mikey Jones.

Daeth Mikey Jones i enwogrwydd gyda’i furlun ‘Wrexham Skyline’ a arddangoswyd yn hen Ganolfan Gelfyddydau Wrecsam, gan atgoffa pobl o dreftadaeth drefol y dref. Ers hynny, mae galw mawr wedi bod am ei baentiadau mewn olew o dirnodau a thirweddau ar draws gogledd Cymru ymysg preswylwyr lleol, ‘alltudion’, ymwelwyr a chasglwyr celf.

Fe gysylltodd Amgueddfa Wrecsam â Mikey Jones i holi a fyddai’n fodlon gadael i ni ailgynhyrchu rhai o’i baentiadau o dirnodau ym mwrdeistref sirol Wrecsam i’w harddangos yng nghwrt blaen yr amgueddfa ac roeddem wrth ein bodd pan gytunodd o.

Dywedodd Mikey Jones wrth yr amgueddfa “Dwi’n caru paentio golygfeydd o Wrecsam a’r dalgylch. Mae yna gymaint o harddwch a hanes diddorol, mae’n dal i deimlo nad yw wedi cael ei gyffwrdd yn iawn gan baentwyr tirwedd blaenorol. Mae’r cyfle yma a’r rhyddid i hyrwyddo yr hyn sydd gennym ni yn ein rhan ni i’r byd wedi fy nghyffroi i erioed.

Rwyf wedi bod yn paentio golygfeydd o’r ardal leol ers dros ddegawd bellach ac mae’r newid cadarnhaol yn agweddau pobl tuag at gelf sydd wedi’i seilio ar Wrecsam sydd yn gysylltiedig â llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam a thwf cyffredinol yn hyder y gymuned yn wych. Mae mwy a mwy o bobl bellach eisiau celf sydd wedi’i seilio ar Wrecsam i fyny ar eu waliau!

Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gydag Amgueddfa Wrecsam i greu arddangosfa gyhoeddus yn dangos fy mhaentiau o dirnodau lleol ar y byrddau allanol yn eu cwrt blaen, er mwyn dathlu ein tirnodau pensaernïol a naturiol.”

Er mai dim ond dros dro yr arhosodd JMW Turner a Louise Rayner yn Wrecsam i baentio, gall ymwelwyr werthfawrogi faint o’r ardal mae Mikey Jones wedi ei archwilio a’i baentio mewn olew dros y ddegawd ddiwethaf yn y gweithiau a ddewiswyd i’w harddangos y tu allan i Amgueddfa Wrecsam.

Amgueddfa Wrecsam

Mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd stori Wrecsam a’r ardal gyfagos drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd.

Dysgu mwy