Dragons Warriors – Dreigiau Rufelwyr

Mae Dragons Warriors – Dreigiau Rufelwyr, yn cynnwys detholiad o ffotograffau, a dynnwyd gan y ffotograffydd o dde Cymru, Nigel Whitbread, yn ystod Cwpan y Byd Digartref 2019, a gynhaliwyd ym Mharc Bute, Caerdydd.

Mae Dragons Warriors – Mae Dreigiau Rufelwyr bellach i’w gweld ar gwrt blaen Amgueddfa Wrecsam.

Mae Nigel yn disgrifio’r arddangosfa: “Teithiodd mwy na 500 o chwaraewyr yn cynrychioli dros 50 o wledydd i Dde Cymru yn 2019 i fynychu’r ŵyl bêl-droed am ddim wythnos o hyd a gynhaliwyd ym Mharc Bute eiconig Caerdydd, yng nghanol prifddinas Cymru.

“Nod y delweddau sydd yn yr arddangosfa yw adlewyrchu yn ei hanfod a chynrychioli trawstoriad o bobl ddigartref. Sut maen nhw i gyd, er gwaethaf eu gwahaniaethau, yn ceisio goresgyn yr arwahanrwydd oddi wrth weddill y gymdeithas, a sut mae cymryd rhan yng Nghwpan y Byd Digartref yn rhoi ymdeimlad o rymuso iddynt a’r wybodaeth eu bod yn rhan o rywbeth mwy na nhw eu hunain.”

“Wrth bori drwy’r lluniau, gobeithio na fyddwch chi’n edrych ar y boi neu’r ferch ar y stryd mewn ffordd ystrydebol, fel pobol mewn drysau yn gofyn am arian, ond yn syml fel pobol sydd heb gartref i fynd iddo. Gwerthfawrogwch fod yna stori i’w hadrodd am bob un ohonyn nhw ynglŷn â pham maen nhw lle maen nhw a deall bod yna ffyrdd y gall pobl newid eu sefyllfa er gwell o gael y gefnogaeth gywir.”

Darganfod mwy

Amgueddfa Wrecsam

Mae Amgueddfa Wrecsam yn adrodd stori Wrecsam a’r ardal gyfagos drwy arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfeillgar i deuluoedd.

Dysgu mwy