Mae’r hysbysiad preifatrwydd gwefan hwn yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi ar-lein a’r gweithdrefnau sydd gennym mewn lle i ddiogelu eich preifatrwydd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. O dan y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi.

Eich caniatâd

Drwy gyflwyno eich gwybodaeth, rydych yn caniatáu i ddefnydd y wybodaeth honno fel y nodir yn yr hysbysiad hwn. Os byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn, byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y dudalen hon. Bydd defnydd parhaus o’r gwasanaeth yn golygu eich bod yn cytuno i unrhyw newid o’r fath.

Defnyddwyr 16 mlwydd oed ac iau

Os ydych chi’n 16 mlwydd oed neu’n iau, mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich rhiant / gwarcheidwad cyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ar ein gwefan. Ni chaniateir i ddefnyddwyr heb ganiatâd ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol.

Gwybodaeth y gallwn ei chasglu amdanoch chi

Nid ydym yn casglu a chadw unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw un sy’n defnyddio’r wefan hon, heblaw lle dewiswch roi gwybodaeth bersonol i ni yn wirfoddol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost neu drwy ddefnyddio ffurflen electronig ar y wefan, drwy danysgrifio i dderbyn gwybodaeth neu drwy holi am unrhyw un o’n gwasanaethau.

Yn yr amgylchiadau hyn dim ond i roi’r wybodaeth neu wasanaeth y gofynnwyd amdanynt y defnyddir yr wybodaeth bersonol a ddarparwyd os na nodir dibenion ehangach ar y ffurflen y darperir yr wybodaeth neu adeg casglu ar y wefan – ac os felly gellir defnyddio’r wybodaeth ar gyfer unrhyw un o’r dibenion ehangach hyn.

Gweler mwy o fanylion ar sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Cynnwys sarhaus neu amhriodol

Os fyddwch chi’n cyhoeddi neu’n anfon cynnwys sarhaus, amhriodol neu annymunol atom ni neu fel arall yn cymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad aflonyddgar ar unrhyw un o’n gwasanaethau, gan gynnwys sianeli cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i atal ymddygiad o’r fath.

Lle rydym yn credu’n rhesymol eich bod yn, neu y gallech dorri unrhyw gyfraith genedlaethol neu ryngwladol, efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i hysbysu trydydd parti perthnasol megis darparwyr sianel cyfryngau cymdeithasol neu asiantaethau gorfodi’r gyfraith ynglŷn â’r cynnwys a’ch ymddygiad.

Sylwadau

Pan fydd ymwelwyr yn rhoi sylwadau ar y safle rydym yn casglu’r data a ddangosir yn y ffurflen sylwadau, ynghyd â chyfeiriad IP yr ymwelydd a phorwr asiant y defnyddiwr i helpu i ddod o hyd i dwyll. 

Gall testun dienw a grëwyd o’ch cyfeiriad e-bost (a elwir hefyd yn hash) gael ei ddarparu i’r gwasanaeth Gravatar i weld os ydych chi’n ei ddefnyddio. Mae polisi preifatrwydd gwasanaeth Gravatar ar gael yma: https://automattic.com/privacy/. Ar ôl i’ch sylw gael ei gymeradwyo, bydd eich llun proffil yn weledol i’r cyhoedd yng nghyd-destun eich sylw.

Y Cyfryngau

Os byddwch chi’n llwytho lluniau i’r wefan, dylech osgoi llwytho lluniau sydd â data lleoliad wedi’i sefydlu (EXIF GPS). Gall ymwelwyr â’r wefan lawrlwytho ac echdynnu unrhyw ddata lleoliad o’r lluniau ar y wefan.

Data ystadegol

Gallwn hefyd ddefnyddio gwybodaeth ac ystadegau cronnol ar gyfer monitro defnydd o’r wefan i’n helpu i ddatblygu’r wefan a’n gwasanaethau. Gallwn ddarparu gwybodaeth gronnol o’r fath i drydydd parti. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod.

Cadw

Dim ond cyhyd ag sydd angen ar gyfer y diben y cafodd ei chasglu y byddwn yn cadw eich gwybodaeth. Am fwy o wybodaeth, gweler ein polisi cadw cofnodion Corfforaethol CBSW.

Datgeliad

Ni chaiff gwybodaeth bersonol ei datgelu i drydydd parti os na nodir hynny ar dudalen y wefan a/neu ffurflen berthnasol ar adeg casglu’r wybodaeth neu fel sydd angen neu a ganiateir gan y gyfraith.

Sut rydym ni’n diogelu eich gwybodaeth

Caiff yr holl wybodaeth bersonol a gesglir ar y wefan hon ei chofnodi mewn cronfa ddata ddiogel.

Mae gofyn i’n holl weithwyr a phroseswyr data, sydd â mynediad i neu sy’n gysylltiedig â phrosesu gwybodaeth bersonol, barchu cyfrinachedd yr wybodaeth honno.

Rydym yn sicrhau na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i sefydliadau ac awdurdodau llywodraethol oni bai bod angen neu a ganiateir hynny gan y gyfraith.

Diogelwch e-bost

Dylid nodi, os nad ydynt wedi’u hamgryptio, efallai nad yw negeseuon e-bost a anfonir drwy’r rhyngrwyd yn ddiogel a gallai rhywun arall eu rhyng-gipio a’u darllen. Gofynnir i chi gadw hyn mewn cof wrth benderfynu p’un ai i gynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif mewn unrhyw negeseuon e-bost y bwriadwch eu hanfon.

Diogelu Data

Byddwn yn prosesu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol.

Os hoffech chi gael mynediad at wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r wefan hon dylech gysylltu â FOI@wrexham.govuk gan gynnwys manylion am yr wybodaeth yr ydych ei hangen (i gael rhagor o wybodaeth gweler Eich Gwybodaeth Bersonol)

Os oes gennych ymholiad neu bryder ynglŷn â phrosesu data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio DPO@wrexham.gov.uk.

Os ydych yn parhau’n anfodlon ar ôl codi mater am y polisi hwn a/neu gais i gael mynediad at wybodaeth bersonol a gasglwyd gennych drwy’r safle, gallwch hefyd gysylltu â’r:

Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gae
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

www.ico.org.uk (dolen allanol)

Cwcis

Os ydych chi’n gadael sylw ar ein safle fe allwch ddewis arbed eich enw, cyfeiriad e-bost a gwefan mewn cwcis. Mae hyn er hwylustod i chi fel nad oes rhaid i chi lenwi’r manylion yma eto pan fyddwch chi’n gadael sylw arall. Bydd y cwcis yma’n para am flwyddyn.

Os byddwch chi’n ymweld â’n tudalen mewngofnodi, byddwn yn gosod cwcis dros dro i benderfynu os yw eich porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci yn cynnwys data personol ac mae’n cael ei ddileu pan fyddwch chi’n cau eich porwr.

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi, byddwn hefyd yn sefydlu sawl cwci er mwyn arbed eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau sgrin. Mae cwcis mewngofnodi yn para am ddeuddydd, ac mae’r cwcis dewisiadau sgrin yn para am flwyddyn. Os byddwch chi’n dewis “Remember Me”, bydd eich mewngofnod yn parhau am bythefnos. Os byddwch chi’n allgofnodi o’ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi yn cael eu dileu.

Os byddwch chi’n golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd cwci ychwanegol yn cael ei arbed i’ch porwr. Nid yw’r cwci yma’n cynnwys data personol ac yn syml, mae’n nodi ID yr erthygl rydych newydd ei olygu. Daw i ben ar ôl 1 diwrnod.

Cynnwys wedi’i sefydlu o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y safle yma gynnwys cynnwys wedi’i sefydlu (e.e. fideos, lluniau, erthyglau ac ati). Mae cynnwys wedi’i sefydlu o wefannau eraill yn ymddwyn yn union yr un ffordd â phetai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, sefydlu tracio trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithiad gyda’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i sefydlu, yn cynnwys tracio eich rhyngweithiad gyda’r cynnwys sydd wedi’i sefydlu os oes gennych gyfrif a’ch bod wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Am faint ydym ni’n cadw eich data

Os byddwch chi’n gadael sylw, caiff y sylw a’i metadata ei gadw am gyfnod amhenodol. Mae hyn er mwyn i ni adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau eraill yn awtomatig yn hytrach na’u cadw mewn ciw cymedroli.

Ar gyfer defnyddwyr sydd yn cofrestru ar ein gwefan (os o gwbl), rydym ni hefyd yn storio’r wybodaeth bersonol maent yn ei ddarparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (ond ni allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr gwefan weld a golygu’r wybodaeth honno hefyd.

Pa hawliau sydd gennych chi dros eich data

Os oes gennych chi gyfrif ar y safle yma, neu os ydych wedi gadael sylw, gallwch wneud cais am ffeil wedi’i allgludo o’r data personol sydd gennym amdanoch, yn cynnwys unrhyw ddata rydych wedi’i roi i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw data personol rydym yn ei gadw amdanoch. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n rhaid i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.

Cedwir pob hawl