£45,000 YN CAEL EI ROI I DDATBLYGU AMGUEDDFA BÊL-DROED YN WRECSAM

Rydym wedi derbyn y newyddion gwych ein bod wedi derbyn £45,000 o grant datblygu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Dwy Ran – Amgueddfa Pêl-droed Cymru gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r arian yn rhoi’r cyfle i ni sicrhau grant pellach o dros £2 filiwn i gwblhau’r prosiect.

Mae hyn yn golygu y bydd y cynlluniau i ailwampio’r adeilad rhestredig Gradd 2 yn Amgueddfa Wrecsam i fod yn amgueddfa hanes lleol ac yn amgueddfa bêl-droed arddull genedlaethol gyda chyfleusterau gwell a storfa casgliadau oddi ar y safle newydd nawr yn gallu symud ymlaen gyda hyder.

Bydd y grant yn helpu’r tîm prosiect i ddatblygu ei gynllun gweithgaredd o ddigwyddiadau, gweithgareddau a rhaglenni dysgu fydd yn sicrhau y bydd yr amgueddfa newydd nid yn unig yn gwasanaethu cymunedau ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ond ledled Cymru hefyd.

Bydd yr orielau Amgueddfa Bêl-droed newydd yn darparu lle arddangos parhaol ar gyfer Casgliad Pêl-droed Cymru sy’n dal i dyfu, am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2000.

Bydd yr amgueddfa dwy ran yn gweld yr adeilad dau lawr cyfan yn cael ei ddefnyddio gan gynyddu ei botensial fel canolbwynt ar gyfer dysgu, pleser a lles gan ddenu oddeutu 80,000 o ymwelwyr yn flynyddol.

Dywedodd y Cyng Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol “Mae hyn yn newyddion gwych i Wrecsam ac rwy’n edrych ymlaen at dderbyn diweddariadau ar gynnydd ac i fwynhau ymweld â’r Amgueddfa Dwy Ran – Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa newydd Wrecsam.”

1 of 3

Football

Dywedodd y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor “Unwaith eto, mae gennym reswm i ddathlu yn Wrecsam ac mae’r newyddion gwych yn cael ei groesawu’n arbennig. Hoffwn ddiolch i holl staff sy’n ymwneud â datblygu’r prosiect hyd yma a hefyd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am gydnabod treftadaeth pêl-droed yng Nghymru ac yma yn Wrecsam – cartref ysbrydol pêl-droed.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, “Rydym yn gyffrous i roi’r grant datblygu hwn i’r Amgueddfa Dwy Ran – Amgueddfa Bêl-droed Cymru.  Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddatblygu cynllun ar gyfer y prosiect y gallant ei gyflwyno i ni am gyllid pellach i wireddu’r freuddwyd.”

Ychwanegodd Ian Bancroft, Cadeirydd grŵp llywio y prosiect “Bydd yr orielau newydd yn casglu angerdd, yr emosiwn a phrofiad mae cefnogwyr pêl-droed wedi’i deimlo am y gêm ers i Gymdeithas Pel-droed Cymru (FAW) gael ei sefydlu yng Ngwesty’r Wynnstay Arms yn Wrecsam yn 1876.

“Mae amseru’r prosiect yn berffaith gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru yn nodi 150 mlynedd yn 2026 a chymhwyster diweddar tîm pêl-droed cenedlaethol ar gyfer Cwpan y Byd.”

Discover more from Wrexham Heritage

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading