Categories
Di-gategori

Prosiect yr ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ – mynd rhagddo yn gyflym

Mae gwaith ailddatblygu yn yr Amgueddfa Dau Hanner yn mynd rhagddo yn gyflym, gydag orielau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae’r adeilad hanesyddol yn dod i’r amlwg yn sgil y gwaith adnewyddu ac mae atyniad cenedlaethol newydd o’r radd flaenaf yn Wrecsam ar y trywydd iawn i agor yn ddiweddarach eleni. 

Categories
Di-gategori

mae George Clay-Thomas yn ysgrifennu unwaith eto…

Ar 29 Ionawr 1876, unwaith eto o fewn tudalennau’r Field, ac yn dilyn y llif o lythyrau cefnogol a dderbyniodd y cyhoeddiad dros y tair wythnos diwethaf yn ymateb i’w awgrym i greu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae George Clay-Thomas yn ysgrifennu unwaith eto…a tydi o ddim yn hapus!

Roedd George wedi datgan yn eithaf clir yn ei lythyr gwreiddiol ar 8 Ionawr mai dim ond awgrymu creu tîm Cymru yr oedd. Fodd bynnag, ymddangosai ei fod yn eithaf anhapus bod pawb wedi camddeall ac yn disgwyl iddo ef fod yn trefnu’r gêm hon yn Llundain.

Roedd yn arbennig o anhapus gydag ‘A Highlander’ o bythefnos ynghynt, a oedd wedi awgrymu na ellir ystyried hwn yn dîm Cymru go iawn gan y byddai’r chwaraewyr yn Eingl-gymreig, ond serch hynny roedd yn gefnogol i’r gêm ddigwydd. Roedd George yn ymddangos yn arbennig o ddig gydag awgrymiadau Highlander ar sut y teimlai y dylai George fwrw ymlaen i drefnu’r gêm hon.

Gyda’r amser yn brin ac yn gyflym ddiflannu fodd bynnag, roedd o’n ymddangos bod George yn sylweddoli mai’r unig ffordd y byddai’r gêm hon byth yn dod yn realiti oedd pe bai’n derbyn ei dynged ac, fel yr awgrymwyd, yn camu i mewn i drefnu pethau.

Gan orffen ei lythyr gyda chwip at Highlander, dywedodd yn y bôn:

“Iawn, mi wna’i’r trefniadau ar gyfer tîm Cymreig yn Llundain, ond cama di i mewn i’r bwlch a threfnu’r ochr Albanaidd dy hun,  neu tyrd o hyd i rywun arall i’w wneud!”

Erbyn hyn, wrth edrych ar ohebiaeth George, mae’n amlwg mai dim ond gêm a chwaraewyd o dan reolau rygbi oedd yn cymryd ei bryd, er gwaethaf ei fod wedi sôn am gemau’r Gymdeithas (er ond yn fras) yn ei lythyr gwreiddiol. O ganlyniad mae stori dyddiau cynnar pêl-droed Cymru nawr yn troi i ffwrdd o George Clay-Thomas a’i helyntion.

Yn ôl yn Wrecsam, hyd yn oed cyn ei lythyr yn y Field, roedd Llewelyn Kenrick wedi bod yn brysur yn gohebu â chwaraewyr mewn gwahanol rannau o Gymru, gyda chymorth George a David Thompson, yn eu hannog i ffurfio clybiau pêl-droed. Ef hefyd oedd y brif ysbrydoliaeth y tu ôl i’r mudiad i greu clwb enwog Black Park yn y Waun, clwb y byddai un o feibion enwocaf Cymru yn dechrau ei yrfa gyda, degawdau yn ddiweddarach, sef Mr. William Henry Meredith!

Ar y dydd Mercher yn dilyn cyhoeddiad llythyr Llewelyn, cadeiriodd Kenrick gyfarfod yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, gyda’r unig bwrpas…penodi pwyllgor a fyddai’n trefnu gêm. Fel y byddai’r Field yn ei adrodd yn ddiweddarach yr wythnos honno ar 29 Ionawr:

“Cynhaliwyd cyfarfod i drafod y prosiect o chwarae gêm bêl-droed ryngwladol gyda Chymru yn ôl rheolau’r Gymdeithas yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, Wrecsam, Gogledd Cymru, ddydd Mercher diwethaf, pan benodwyd pwyllgor i wneud trefniadau rhagarweiniol. Cyn gynted ag y bydd y gêm wedi’i threfnu’n bendant, cynhelir gemau treial ar faes Clwb Criced Sir Ddinbych yn Wrecsam, at ddiben dewis yr un ar ddeg i dîm Cambrig. Gofynnir i foneddigion sy’n dymuno chwarae yn y gemau hyn anfon eu henwau a’u cyfeiriadau at Gadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Cambria, Rhiwabon, cyn gynted ag y bo’r modd.”

Doedd gennym ddim syniad pwy fyddai’r gwrthwynebwyr, na ble bydden ni’n chwarae, ond roedd gennym gynllun ar sut i greu carfan. Bydd treialon yn cael eu cynnal ac roedd y galwad am chwaraewyr wedi ei wneud…roedden yr olwyn yn troi.

Ond Cymdeithas Bêl-droed Cambria?!?

Siawns bod ‘na enw gwell na hynny ar gael!

Categories
Di-gategori

‘Marlborough Nomad’

Pythefnos ers llythyr Clay-Thomas yn y Field yn awgrymu creu tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, mae’r atebion yn parhau i lifo i mewn. Yn y rhifyn y Sadwrn hwn mae yno ddau ymateb arall, ond yn anffodus, eto’n defnyddio ffugenwau.

Daeth y cyntaf gan ŵr bonheddig a elwir ei hun yn ‘Marlborough Nomad’. Gyda llaw, clwb pêl-droed a’i sefydlwyd ym 1868 yn ardal Surbiton yn Llundain oedd y Marlborough Nomads. Yn chwarae o dan reolau rygbi roeddent yn aelodau sefydledig yr Undeb Rygbi ym 1871, cyn i’r clwb gael ei ddiddymu yn 1911.

Ar y pryd ym 1876 fodd bynnag, roedd y tîm yn dal ar dir y byw, a gallwn ond dyfalu fod gan ein Mr. Nomad gysylltiadau â’r clwb, ond pa gysylltiad wyddwn ni fyth yn anffodus. Roedd ef hefyd yn frwdfrydig iawn am syniad Clay-Thomas ond teimlai fod amser yn brin os byddent am wireddu’r syniad o gêm ryngwladol y tymor hwnnw. Ailadroddodd yr awgrym gwreiddiol o ofyn am gymorth yr Undeb Rygbi newydd i ddod o hyd i dîm Cymreig, a chyfaddefodd (efallai mewn cyfeiriad at ‘Half Back’ o’r wythnos flaenorol) y byddai gemau pêl-droed y Gymdeithas yn debygol o ddilyn, ond mai dim ond yr ochr rygbi pethau yr oedd yn mynd a’i bryd.

Roedd y llythyr arall, fodd bynnag, o natur hollol wahanol…

“Syr, – Mae’r syniad o gêm ryngwladol, o dan reolau’r Gymdeithas, rhwng Cymru ac un o’i gwledydd chwaerol, wedi ei dderbyn yn frwdfrydig iawn yng Ngogledd Cymru, a chynhelir cyfarfod yn Wrecsam yn gynnar yr wythnos nesaf i drafod y mater, ac i ffurfio pwyllgor a fydd â’r pŵer i wneud trefniadau rhagarweiniol. Bydd unrhyw gyfathrebiadau a dderbyniaf yn y cyfamser yn cael eu cyflwyno gerbron y cyfarfod a gynhelir yn Wrecsam.”

Llofnodwyd y llythyr gydag un gair:

‘Cymry’

Yr enw Cymraeg ar gyfer pobl Cymru, sy’n golygu “cyd-wladwyr”. Ymateb gwirioneddol bwerus i lythyr a oedd yn awgrymu tîm i chwarae yn Llundain wedi’i ddewis o gronfa o chwaraewyr o Lundain. Byddai tîm yr unigolyn hwn yn hytrach wedi ei wneud o Gymry er budd Cymry.

Yn y pen draw, byddai hanes yn datgelu inni wir enw ‘Cymry’. Samuel Llewelyn Kenrick, a’i dathlwyd heddiw fel tad pêl-droed Cymru. Roedd Kenrick, cyfreithiwr 28 oed o Riwabon, pêl-droediwr brwd ac aelod sefydlol o Glwb Pêl-droed Ruabon Rovers, yn amlwg wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni ers llythyr Clay-Thomas bythefnos ynghynt. Tra bod gêm rygbi George dal yn syniad ar bapur heb gynllun nac arweiniad clir, roedd Samuel eisoes wedi trefnu cyfarfod pwyllgor i roi cnawd ar sgerbwd y freuddwyd o drefnu gem. Nid yn unig oedd o wedi derbyn her George…roedd yn ei gwthio ymlaen!

Diolch i drefniant Kenrick, roedd cread Cymdeithas a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymreig yn prysur ddod yn realaeth, roedd ganddi amser ac roedd ganddi leoliad… ond roedd angen enw arni.

Categories
Di-gategori

Ar yr 8fed o Ionawr 1876

Ar yr 8fed o Ionawr 1876, fe daniwyd y sbarc fuasai’n arwain at gread tîm cenedlaethol pêl-droed Cymru. Fe ddaeth mewn ffurf llythyr agored o fewn tudalennau papur Newydd y Field, un o argraffiadau chwaraeon mwyaf y dydd.

Wedi ei ysgrifennu gan ŵr 24 oed o’r enw George Alexander Clay-Thomas, masnachwr glo yn Llundain oedd gynt o Sir Gaerfyrddin, roedd wedi sylwi ar y cynnydd mewn poblogrwydd y gêm a chynigiodd y syniad o greu tîm Cymreig I herio timau’r Alban neu Iwerddon oedd yn bodoli eisoes. Roedd George eisiau creu’r tîm o Gymry a oedd yn byw a bod yn Llundain, gydag unrhyw gêm yn cael ei chwarae o fewn y brifddinas.

Roedd pêl-droed a rygbi yn cael eu cysidro fel dwy elfen wahanol o’r un gêm yn 1876, gyda’r ddau yn dod o dan y faner o ‘bêl-droed’. Roedd George eisiau i’r gêm gael ei chwarae gyda rheolau rygbi yn hytrach na rheolau’r Gymdeithas, sef beth rydym yn ei adnabod Heddiw fel pêl-droed. Fe aeth mor bell a chynnig gofyn i’r Undeb Rygbi am eu help i ledaenu’r syniad ymysg clybiau Llundain.

Teimlai George fod ‘pêl-droed’ ddim mor boblogaidd yng Nghymru ac yr oedd yng ngweddill Prydain, a chynigiodd buasai creu’r tîm yn helpu i gynyddu poblogrwydd y gêm yma. Gallwn ond dyfalu ei fod yn golygu ‘pêl-droed rygbi’ gan ei fod eisiau creu’r fath dim, mae hefyd yn sôn yn ei lythyr y buasai ‘Ugain Lloegr yn gorff llawer rhy gryf’ i dîm Cymreig a oedd eto i dderbyn her (roedd timau yn chwarae rheolau rygbi yn 1876 gyda 20 chwaraewr bob ochr). Oedd George, nawr yn byw a gweithio yn Llundain, ‘allan o’r lŵp’ ta oedd o’n gywir yn ei amcan fod rygbi ddim yn hynod boblogaidd yng Nghymru ar y pryd?

Nid oedd George yn bwriadu gwneud unrhyw drefniadau pellach i wireddu ei syniad, yn hytrach roedd ond eisiau codi’r pwnc er mwyn i eraill ei chario ymlaen.

Roedd George wedi creu’r sialens…pwy fuasai’n ei derbyn?

Categories
Di-gategori

Dymuniadau Gorau ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Blwyddyn arall aruthrol i dîm prosiect Amgueddfa Wrecsam, mae’r orielau’n newid yn gyflym gyda chynnydd gweladwy ar draws y datblygiad cyfan.

Rydym yn gyffrous i ddechrau cynllunio digwyddiadau agoriadol y flwyddyn nesaf, felly dilynwch y cynnydd ar ein cyfryngau cymdeithasol, rhowch ‘hoffi’ i ni a rhannwch y newyddion o’ch ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd sbon.

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru Di-gategori

Mae amgueddfa bêl-droed newydd Cymru angen eich straeon chi!

Mae Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn estyn allan at gefnogwyr clybiau a gwlad i rannu straeon cofiadwy.

Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed yn ffurfio un hanner o’r ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd sy’n cael ei datblygu yn Wrecsam.

Wedi’i threfnu i agor yn 2026, bydd hanner pêl-droed yr amgueddfa yn dathlu pêl-droed Cymru, y gorffennol a’r presennol, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau gwaelodol i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu cyflawniadau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.

Bydd hanner arall yr atyniad cenedlaethol newydd yn gartref i amgueddfa newydd sbon i Wrecsam. Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam.

Casglu straeon i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau


Mae Swyddog Ymgysylltu Pêl-droed yn yr amgueddfa newydd, Shôn Lewis, yn egluro:

“Un o’r rhannau mwyaf cyffrous o ddatblygu’r amgueddfa newydd hon fu teithio o gwmpas Cymru a chlywed rhai o’r straeon anhygoel y mae cefnogwyr wedi’u rhannu gyda ni. Mae rhai yn wirioneddol gyffrous, mae rhai’n ddoniol ac mae rhai’n anghredadwy!

“Nid yw Cymru erioed wedi cael amgueddfa bwrpasol ar gyfer ei phêl-droed genedlaethol o’r blaen, felly mewn llawer o achosion mae’r straeon hyn yn cael eu cofnodi a’u casglu am y tro cyntaf. Rydyn ni’n gwybod bod cymaint o straeon gwych eraill allan yna a’n tasg ni yw sicrhau eu bod nhw’n cael eu casglu i eraill eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.

“Gallai fod yn brofiad a gawsoch mewn gêm glasurol (neu ddim mor glasurol) y buoch chi’n mynychu, cyfarfyddiad siawns ag arwr pêl-droed Cymru, digwyddiad cofiadwy yn eich clwb lleol, neu ddim ond atgof pêl-droed arbennig o’ch plentyndod yr hoffech chi ei rannu.

“Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych chi os oes gennych chi eitem bersonol o atgofion pêl-droed i gyd-fynd â’ch stori.

“Boed yn eich clwb lleol yng Nghymru neu’r tîm cenedlaethol, mae’r holl straeon hyn yn rhan o’r tapestri cyfoethog o hanes pêl-droed yn ein gwlad – rydyn ni eisiau casglu cymaint ag y gallwn ni!”

Cysylltwch â thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru gyda’ch stori drwy e-bostio footballmuseumwales@wrexham.gov.uk

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru Di-gategori Prosiect yr Amgueddfa Ddwy Hanner

Cyfle artist

Mae Amgueddfa Wrecsam yn chwilio am artist cymunedol profiadol i gynhyrchu dwy faner decstilau fawr, un ar thema Wrecsam, a’r llall, pêl-droed Cymru a fydd yn hongian ochr yn ochr yn y gofod atriwm newydd yn yr amgueddfa sydd wedi’i hailddatblygu.

Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gau ar hyn o bryd ar gyfer gwaith adnewyddu, ac mae disgwyl iddi ailagor yn 2026. Mae’n cael ei thrawsnewid yn gynnig unigryw a fydd yn cyfuno amgueddfa newydd ar gyfer Wrecsam ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru mewn un adeilad.

Manylion pellach

Mae’r amgueddfa yn dymuno comisiynu artist i weithio ar y cyd ag amrywiaeth o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gyd-greu dau waith celf beiddgar, lliwgar a thrawiadol a allai gyrraedd cynulleidfa o 80,000 o bobl o fewn blwyddyn i’w hagor.

Bydd comisiwn diddorol ac uchelgeisiol Brethyn Straeon yn cael ei osod yn 2026 a bydd yn rhoi cymuned a threftadaeth Wrecsam a phêl-droed Cymru wrth wraidd yr amgueddfa newydd ar unwaith.

Bydd yr artist yn gweithio gyda phedwar grŵp cymunedol yn Wrecsam a phump o bob cwr o Gymru i ddatblygu themâu pob baner. Mae partneriaethau cymunedol yn allweddol i ganlyniad y prosiect yma er mwyn sicrhau bod y canlyniad terfynol yn gynrychioliadol o Wrecsam a phêl-droed Cymru heddiw. Mae’r grwpiau cymunedol hyn eisoes wedi’u nodi, a bydd y prosiect yn cael ei gynnal ledled Cymru mewn lleoliadau sy’n gyfarwydd i gyfranogwyr. 

Rydym yn agored i syniadau gan ystod o artistiaid ac rydym yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dyddiadau allweddol  

Ar ôl ei benodi, bydd yr artist llwyddiannus yn gweithio gyda staff yr amgueddfa i drafod amserlen dderbyniol. Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2025 ac yn gorffen ym mis Mawrth 2026, gyda’r baneri gorffenedig yn cael eu cyflwyno i’r amgueddfa ac yn barod i’w gosod erbyn mis Chwefror 2026.

Y dyddiad cau ar gyfer y comisiwn hwn yw 18 Gorffennaf 2025.

Ffi artist

Mae cyllideb gwerth £16,500 wedi’i dyrannu i’r prosiect hwn. Mae’r gyllideb hon yn cynnwys yr holl gostau paratoi, teithio, dosbarthu, llety ac ymgysylltu, a diwrnodau stiwdio.

Sut i Wneud Cais

E-bostiwch ni yn museum@wrexham.gov.uk fel y gallwn e-bostio’r ddogfennaeth Cais am Ddyfynbris yn uniongyrchol atoch. 

Cysylltwch â ni drwy e-bost os hoffech drafod y comisiwn ymhellach cyn gwneud cais.

Categories
Amgueddfa Bêl-droed Cymru Di-gategori Prosiect yr Amgueddfa Ddwy Hanner

Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam!

Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill i drawsnewid Adeiladau’r Sir 167 oed yng nghanol dinas Wrecsam yn atyniad cenedlaethol newydd sbon, nid yn unig i Wrecsam ond i Gymru gyfan.

Yr amgueddfa newydd fydd cartref Amgueddfa Wrecsam ac orielau Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

Mae dau enw wedi cyrraedd rhestr fer yr amgueddfa newydd yn seiliedig ar ymchwil cynulleidfa ar draws Wrecsam a Chymru gyfan, a nawr eich tro chi yw dewis eich ffefryn.

Nid dim ond ie neu na yw hyn – mae gan bob enw stori ac ystyr unigryw y tu ôl iddo.

Dewis 1: Tŷ Hanes

Mae’r enw “Tŷ Hanes” yn dathlu beth yw amgueddfa. Mae’n fan croesawus er mwyn archwilio hanes pêl droed Cymru a hanes Wrecsam. Mae’r enw’n gysurus, fel cartref yn llawn straeon i’w hadrodd.

Dewis 2: Histordy

Mae’r enw “Histordy” yn cyfuno “histor” o’r gair Saesneg “history” a “stordy” yn y Gymraeg i greu enw newydd. Fel arfer mae geiriau sy’n gorffen gyda “-dy” yn adeiladau, fel archifdy, injandy, ysgoldy neu oleudy. Mae “Histordy” yn hawdd ei ynganu gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Cymerwch eiliad i ystyried y syniadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i bob enw, yna gadewch i ni wybod beth yw eich barn

Cymerwch eiliad i ystyried y syniadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i bob enw, yna gadewch i ni wybod beth yw eich barn trwy lenwi’r holiadur byr hwn.

Byddwch yn rhan o foment hanesyddol

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau Cyngor Wrecsam: “Gydag orielau newydd o’r radd flaenaf ac adeilad wedi’i adnewyddu a’i ymestyn yn llwyr, bydd yr amgueddfa’n atyniad cenedlaethol newydd i Wrecsam, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru a tu hwnt.

“Mae gwaith adeiladu wedi bod yn mynd rhagddo’n dda ar y safle dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac mae bwrlwm gwirioneddol yn tyfu o amgylch y prosiect wrth i raddfa’r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr amgueddfa newydd hon ddod yn amlwg.

“Rydym nawr yn gofyn i’r cyhoedd ein helpu i ddewis enw cyffredinol ar gyfer yr amgueddfa a fydd yn cwmpasu orielau Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru, y siop a’r caffi, yr atyniad cyfan.

“Bydd yr enw newydd yn helpu i roi hunaniaeth unigryw i’r amgueddfa newydd, gan ddwyn ynghyd bopeth sydd ar gael o dan ei tho, yn ogystal â lansio pennod newydd ym mywyd un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam.

“Rydym yn gwahodd pawb i gwblhau’r holiadur a bod yn rhan o’r foment hanesyddol hon.”

Enw i adlewyrchu balchder ein cenedl

Dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: “Mae’n gyfnod cyffrous i Lywodraeth Cymru ariannu’r amgueddfa newydd hon. Wrth ddewis ei enw, nid yn unig rydyn ni’n labelu adeilad ond rydyn ni’n rhoi cartref i hanes, atgofion a straeon dyfodol Wrecsam a phêl-droed Cymru.

“Boed yn ‘Tŷ Hanes’ neu’n ‘Histordy’, mae pob enw yn adlewyrchu balchder ein cenedl i gadw ei hanes amrywiol. Eich llais chi fydd yn llywio etifeddiaeth yr amgueddfa hon – rhowch eich barn a byddwch yn rhan o bennod newydd yn stori gyfoethog Cymru.”

Darganfod mwy am yr amgueddfa newydd

Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam ar y cyd â’r dylunwyr amgueddfeydd, Haley Sharpe Design, y penseiri Purcell a’r contractwr SWG Construction.

Darperir cymorth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU a Sefydliad Wolfson.

Darganfod mwy am brosiect yr Amgueddfa Dwy Hanner

Categories
Di-gategori

Arddangosfa Tirnodau yng Nghwrt Blaen yr Amgueddfa

Yr arddangosfa fwyaf yng nghwrt blaen yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yw cyfres o weithiau celf gan yr artist tirlun o ogledd Cymru, Mikey Jones.

Daeth Mikey Jones i enwogrwydd gyda’i furlun ‘Wrexham Skyline’ a arddangoswyd yn hen Ganolfan Gelfyddydau Wrecsam, gan atgoffa pobl o dreftadaeth drefol y dref. Ers hynny, mae galw mawr wedi bod am ei baentiadau mewn olew o dirnodau a thirweddau ar draws gogledd Cymru ymysg preswylwyr lleol, ‘alltudion’, ymwelwyr a chasglwyr celf.

Fe gysylltodd Amgueddfa Wrecsam â Mikey Jones i holi a fyddai’n fodlon gadael i ni ailgynhyrchu rhai o’i baentiadau o dirnodau ym mwrdeistref sirol Wrecsam i’w harddangos yng nghwrt blaen yr amgueddfa ac roeddem wrth ein bodd pan gytunodd o.

Dywedodd Mikey Jones wrth yr amgueddfa “Dwi’n caru paentio golygfeydd o Wrecsam a’r dalgylch. Mae yna gymaint o harddwch a hanes diddorol, mae’n dal i deimlo nad yw wedi cael ei gyffwrdd yn iawn gan baentwyr tirwedd blaenorol. Mae’r cyfle yma a’r rhyddid i hyrwyddo yr hyn sydd gennym ni yn ein rhan ni i’r byd wedi fy nghyffroi i erioed.

Rwyf wedi bod yn paentio golygfeydd o’r ardal leol ers dros ddegawd bellach ac mae’r newid cadarnhaol yn agweddau pobl tuag at gelf sydd wedi’i seilio ar Wrecsam sydd yn gysylltiedig â llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam a thwf cyffredinol yn hyder y gymuned yn wych. Mae mwy a mwy o bobl bellach eisiau celf sydd wedi’i seilio ar Wrecsam i fyny ar eu waliau!

Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gydag Amgueddfa Wrecsam i greu arddangosfa gyhoeddus yn dangos fy mhaentiau o dirnodau lleol ar y byrddau allanol yn eu cwrt blaen, er mwyn dathlu ein tirnodau pensaernïol a naturiol.”

Er mai dim ond dros dro yr arhosodd JMW Turner a Louise Rayner yn Wrecsam i baentio, gall ymwelwyr werthfawrogi faint o’r ardal mae Mikey Jones wedi ei archwilio a’i baentio mewn olew dros y ddegawd ddiwethaf yn y gweithiau a ddewiswyd i’w harddangos y tu allan i Amgueddfa Wrecsam.

Gwerth ei weld yn agos

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae Mikey yn artist lleol hynod boblogaidd felly rydym yn falch iawn o allu cyflwyno detholiad o’i weithiau gorau yma yng nghanol y ddinas i bawb eu mwynhau. Mae hoffter cynnes a sylw i fanylion ym mheintiadau eiconig Mikey o dirnodau Wrecsam sy’n atseinio’n wirioneddol gyda phobl leol. Maen nhw’n werth eu gweld yn agos felly byddwn yn annog pawb i alw i mewn i gwrt blaen yr amgueddfa ar eu hymweliad nesaf â chanol y ddinas a chael golwg.”

Fe fydd yr arddangosfa ar agor tan fis Mawrth 2024.

Mae Amgueddfa Wrecsam, Caffi’r Cwrt ac Archifau bellach ar gau i’r cyhoedd fel rhan o’r prosiect i ailddatblygu’r adeilad yn ‘Amgueddfa Dau Hanner’ – amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru, ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam sydd wedi’i hadnewyddu a’i gwella’n llawn.

Gall ymwelwyr fynd i’r cwrt blaen o hyd i weld yr arddangosfa.

Darganfod mwy.