Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill i drawsnewid Adeiladau’r Sir 167 oed yng nghanol dinas Wrecsam yn atyniad cenedlaethol newydd sbon, nid yn unig i Wrecsam ond i Gymru gyfan.
Yr amgueddfa newydd fydd cartref Amgueddfa Wrecsam ac orielau Amgueddfa Bêl-droed Cymru.
Mae dau enw wedi cyrraedd rhestr fer yr amgueddfa newydd yn seiliedig ar ymchwil cynulleidfa ar draws Wrecsam a Chymru gyfan, a nawr eich tro chi yw dewis eich ffefryn.
Nid dim ond ie neu na yw hyn – mae gan bob enw stori ac ystyr unigryw y tu ôl iddo.
Dewis 1: Tŷ Hanes
Mae’r enw “Tŷ Hanes” yn dathlu beth yw amgueddfa. Mae’n fan croesawus er mwyn archwilio hanes pêl droed Cymru a hanes Wrecsam. Mae’r enw’n gysurus, fel cartref yn llawn straeon i’w hadrodd.
Dewis 2: Histordy
Mae’r enw “Histordy” yn cyfuno “histor” o’r gair Saesneg “history” a “stordy” yn y Gymraeg i greu enw newydd. Fel arfer mae geiriau sy’n gorffen gyda “-dy” yn adeiladau, fel archifdy, injandy, ysgoldy neu oleudy. Mae “Histordy” yn hawdd ei ynganu gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Cymerwch eiliad i ystyried y syniadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i bob enw, yna gadewch i ni wybod beth yw eich barn
Cymerwch eiliad i ystyried y syniadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i bob enw, yna gadewch i ni wybod beth yw eich barn trwy lenwi’r holiadur byr hwn.
Byddwch yn rhan o foment hanesyddol
Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau Cyngor Wrecsam: “Gydag orielau newydd o’r radd flaenaf ac adeilad wedi’i adnewyddu a’i ymestyn yn llwyr, bydd yr amgueddfa’n atyniad cenedlaethol newydd i Wrecsam, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru a tu hwnt.
“Mae gwaith adeiladu wedi bod yn mynd rhagddo’n dda ar y safle dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac mae bwrlwm gwirioneddol yn tyfu o amgylch y prosiect wrth i raddfa’r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr amgueddfa newydd hon ddod yn amlwg.
“Rydym nawr yn gofyn i’r cyhoedd ein helpu i ddewis enw cyffredinol ar gyfer yr amgueddfa a fydd yn cwmpasu orielau Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru, y siop a’r caffi, yr atyniad cyfan.
“Bydd yr enw newydd yn helpu i roi hunaniaeth unigryw i’r amgueddfa newydd, gan ddwyn ynghyd bopeth sydd ar gael o dan ei tho, yn ogystal â lansio pennod newydd ym mywyd un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam.
“Rydym yn gwahodd pawb i gwblhau’r holiadur a bod yn rhan o’r foment hanesyddol hon.”
Enw i adlewyrchu balchder ein cenedl
Dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: “Mae’n gyfnod cyffrous i Lywodraeth Cymru ariannu’r amgueddfa newydd hon. Wrth ddewis ei enw, nid yn unig rydyn ni’n labelu adeilad ond rydyn ni’n rhoi cartref i hanes, atgofion a straeon dyfodol Wrecsam a phêl-droed Cymru.
“Boed yn ‘Tŷ Hanes’ neu’n ‘Histordy’, mae pob enw yn adlewyrchu balchder ein cenedl i gadw ei hanes amrywiol. Eich llais chi fydd yn llywio etifeddiaeth yr amgueddfa hon – rhowch eich barn a byddwch yn rhan o bennod newydd yn stori gyfoethog Cymru.”
Darganfod mwy am yr amgueddfa newydd
Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam ar y cyd â’r dylunwyr amgueddfeydd, Haley Sharpe Design, y penseiri Purcell a’r contractwr SWG Construction.
Darperir cymorth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU a Sefydliad Wolfson.