Yr ‘Amgueddfa Dau Hanner’ yw ein henw llaw-fer i ddisgrifio’r prosiect a fydd yn gweld datblygiad Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam newydd yn adeilad presennol yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw yn Wrecsam, Cymru. Mae Amgueddfa Wrecsam eisoes yn gartref i Gasgliad Pêl-droed Cymru.
Wedi’i sefydlu yn 2000 dyma’r casgliad mwyaf o bethau cofiadwy pêl-droed Cymreig sy’n cael eu cadw mewn perchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Defnyddir eitemau dethol o’r casgliad yn aml ar gyfer arddangosfeydd dros dro, yn ogystal â bod yn adnodd i ymchwilwyr, ond nid oes gennym le ar hyn o bryd i arddangos y casgliad cyfan.
Bydd yr amgueddfa bêl-droed newydd yn dathlu pêl-droed Cymru, ddoe a heddiw, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu llwyddiannau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.
Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam, a bydd yr amgueddfa’n cynnal rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau i ysbrydoli pawb sy’n ymweld i ddysgu, bod yn egnïol a chyflawni eu potensial. Mae’r arolwg hwn yn gyfle pwysig i rannu eich syniadau a rhoi sylwadau ar ein cynlluniau.
Dylai’r arolwg gymryd llai na 10 munud i’w gwblhau.
Os dymunwch gael eich rhoi mewn raffl am £50 o dalebau siopa bydd cyfle i chi roi eich manylion ar y diwedd.
Mae’r raffl hon ar gyfer ymatebwyr o’r DU yn unig. Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau yw 11pm ar 17 Medi 2023. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap a’i hysbysu erbyn 11pm ar 24 Medi 2023. Gweler y telerau ac amodau llawn a amlinellir yn y cynnig. Mae hwn yn arolwg annibynnol sy’n cael ei gynnal ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.